Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 15 Medi 2020.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl? OQ55510
Trwy weithio gyda sefydliadau partner ledled y DU, ein gwaith o godi ymwybyddiaeth, hyfforddiant achrededig, a thrwy gasglu gwybodaeth yn well i gefnogi ymchwiliadau troseddol a chymorth i ddioddefwyr, mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y troseddau gwarthus hyn.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Mae'r elusen gwrth-gaethwasiaeth, Unseen UK, wedi rhybuddio ein bod ni'n debygol, oherwydd y dirywiad economaidd oherwydd yr argyfwng presennol, o weld cynnydd i fasnachu pobl—gan fod y ddau beth yn mynd law yn llaw fel rheol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog fy sicrhau y bydd hi'n cymryd camau i geisio atal hyn, i godi ymwybyddiaeth o arwyddion caethwasiaeth fodern ac adnabyddiaeth ohonyn nhw?
Hoffwn ddiolch eto i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y gall hyn fod yn broblem o ran effaith niweidiol COVID-19, a allai arwain at gynnydd mewn masnachu pobl. Yr hyn sy'n bwysig iawn—. Fel yr wyf i wedi ei ddweud, mae'n golygu gweithredu cydgysylltiedig. Atgyfnerthwyd yr ymateb i gaethwasiaeth yng Nghymru, fel y gwyddom, wrth gwrs, gan benodiad cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio yn ymarferol gydag asiantaethau allweddol i bennu graddfa, mathau a lleoliad caethwasiaeth yng Nghymru, ond sydd hefyd yn gwella'r wybodaeth honno a'r broses o gofnodi digwyddiadau yng Nghymru, gan weithio yn helaeth iawn gyda Llywodraeth y DU gan ddefnyddio'r dull atgyfeirio cenedlaethol ac edrych ar hynny yng nghyd-destun effaith COVID-19.
Yn dilyn y cwestiwn blaenorol, rydym ni'n gweld data a gyhoeddwyd ym mis Mehefin sy'n dangos, am y tro cyntaf ers 2016, Gweinidog, bod yr adroddiadau o gaethwasiaeth fodern dybiedig yn y DU wedi gostwng gan 14 y cant, ac mae hyn yn codi'r pryder mai'r ffaith mewn gwirionedd yw bod dioddefwyr yn cael eu gwthio ymhellach allan o'r golwg ac oddi wrth gofyn am gymorth. Felly, a gaf i ofyn i'n Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau ffurfiol i Weinidogion y DU, i roi'r adnoddau i'r Awdurod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur wneud eu gwaith yn gyntaf oll, gan eu bod wedi'u hymestyn i'r eithaf eisoes, a hefyd i annog Gweinidogion y DU i gyflymu'r dulliau atgyfeirio cenedlaethol i ddioddefwyr allu cael gofal yn amrywio o dai a gofal iechyd i gymorth cyfreithiol, oherwydd mae hon yn broses a all gymryd ar hyn o bryd o chwe wythnos i sawl blwyddyn, yn wir? Diolch, Gweinidog.
Diolch i Huw Irranca-Davies. Yn dilyn y pwynt pwysig yna am effaith y pandemig, a dim ond i ychwanegu at y pwyntiau a wnes i yn gynharach, rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr heddlu, yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur, ond hefyd yn cynnwys yr holl sefydliadau ac elusennau anllywodraethol hynny, fel BAWSO, Llwybrau Newydd a Barnardo's yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth, ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau sy'n cael eu hadrodd, gan achub a chynorthwyo dioddefwyr pan fo hynny'n bosibl. A chredaf mai'r elfen ddiddorol yw bod adroddiadau ledled Cymru wedi aros yn gyson. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd ag uned caethwasiaeth fodern y Swyddfa Gartref, ac maen nhw bellach yn adolygu proses y dull atgyfeirio cenedlaethol. Ac rwy'n credu bod eich pwynt am allu cael gafael ar gymorth cyfreithiol yn hollbwysig. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod, wrth gwrs, bod caethwasiaeth fodern yn fater a gadwyd yn ôl, a bydd y Swyddfa Gartref, yn amlwg, yn hollbwysig i fynd â'r negeseuon hyn yn ôl o ran effaith y pandemig, fel y gallwn ni fod yn ymwybodol o fasnachu pobl a mynd i'r afael ag ef.
Fel y bydd y Siambr yn gwybod, rwyf i wedi codi'r materion hyn droeon ers cael fy ethol i'r Senedd. Ac eto, er gwaethaf y galwadau niferus o bob rhan o'r Siambr i ymchwilio i'r arferion a ddefnyddir mewn busnesau golchi ceir yn arbennig, mae'n ymddangos nad oes unrhyw gamau yn cael eu cymryd o gwbl o ran y sefydliadau hyn. Mae hyn yn arbennig o siomedig o gofio bod nifer o broblemau yn bodoli o ran eu gweithrediad—yr oriau maith y mae gweithwyr yn eu gweithio, 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn aml; y cyflog isel, y dywedir ei fod tua £3 yr awr; y llety is-safonol ar gyfer y gweithwyr hyn; y duedd i wyngalchu arian, o gofio ei bod yn ymddangos bod yr holl drafodion yn rhai arian parod, yn aml hyd at filoedd lawer o bunnoedd yr wythnos; y cyflog isel, y dywedir ei fod tua—mae'n ddrwg gen i, i'r materion amgylcheddol, gyda'r cyfanswm sylweddol o elifion a gynhyrchir yn y safleoedd hyn yn mynd yn syth i systemau draenio dŵr ac felly i'r afonydd; ond, wrth gwrs, yn waeth na dim, y camfanteisio eglur ar bobl sy'n gweithio ar y safleoedd hyn. Mae'n rhaid gofyn, Dirprwy Weinidog, pam nad oes unrhyw beth wedi ei wneud i ymchwilio neu hyd yn oed gau'r busnesau hyn, er eu bod nhw wedi bodoli ers dros ddegawd.
Wel, rwy'n cydnabod bod David Rowlands wedi sôn am hyn fwy nag unwaith yn y Siambr hon. Hoffwn gyfeirio yn gryno, o ran cyflogaeth, at god ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, a lansiwyd yn 2017, gyda'r nod o wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw, ond hefyd atal camfanteisio ar weithwyr. Ac roedd yn rhywbeth newydd i Gymru a'r DU mewn gwirionedd, ac mae dros 200 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r cod ymarfer, gyda'r rhan fwyaf o gyrff sector cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo hefyd. Ond hoffwn dalu teyrnged hefyd i Joyce Watson â'i grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl, os na chaf i'r cyfle i wneud hynny eto y prynhawn yma.
Gweinidog, mae gweithredoedd o gaethwasiaeth fodern yn dod yn realiti brawychus i lawer ac mae'r drosedd hon yn aml yn anodd iawn ei hadnabod. Un cwestiwn syml sydd gen i: mae gan y Swyddfa Gartref ran wirioneddol i'w chwarae yn hyn, ond beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atal hyn rhag bod yn drosedd gudd?
Wel, tan yn ddiweddar, byddwn i'n dweud bod caethwasiaeth yn drosedd gudd. Nid yw'n cael ei adrodd yn ddigonol o hyd a chodwyd y cwestiynau a'r pryderon hyn y prynhawn yma. A dyna pam y cyflwynwyd systemau casglu data newydd gennym ni yng Nghymru ac rydym ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu'r sail dystiolaeth well honno—cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at hynny hefyd—sy'n adlewyrchu yn fwy cywir lefel caethwasiaeth yng Nghymru fel y gallwn ni fynd i'r afael ag ef.