Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn, Darren Millar, am y cwestiwn atodol yna. Byddwn i'n dweud i gychwyn bod Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i'n fforwm cymunedau ffydd yng Nghymru, ac rydych chi'n ymwybodol iawn o aelodaeth lawn ac amrywiol hwnnw, a'r cyngor a'r cyfarwyddyd y maen nhw wedi eu rhoi i ni—mae ganddyn nhw grŵp gorchwyl a gorffen—cyngor a chyfarwyddyd y maen nhw wedi eu rhoi i ni ar ailagor mannau addoli. Ac maen nhw wedi ailagor yn ddiogel, ar sail eu cyngor, eu cyfarwyddyd a'r wyddoniaeth. Ond rwy'n ymwybodol iawn bod cerddoriaeth a chanu yn rhan bwysig o wasanaethau a seremonïau. Mae hiraeth mawr ar ei ôl, ac rydym ni wrthi'n edrych ar hyn, yn seiliedig ar gyngor gwyddonol unwaith eto, a'r cyfarwyddyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen a seremonïau. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud cyhoeddiadau pellach.