Caethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:34, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch eto i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod y gall hyn fod yn broblem o ran effaith niweidiol COVID-19, a allai arwain at gynnydd mewn masnachu pobl. Yr hyn sy'n bwysig iawn—. Fel yr wyf i wedi ei ddweud, mae'n golygu gweithredu cydgysylltiedig. Atgyfnerthwyd yr ymateb i gaethwasiaeth yng Nghymru, fel y gwyddom, wrth gwrs, gan benodiad cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio yn ymarferol gydag asiantaethau allweddol i bennu graddfa, mathau a lleoliad caethwasiaeth yng Nghymru, ond sydd hefyd yn gwella'r wybodaeth honno a'r broses o gofnodi digwyddiadau yng Nghymru, gan weithio yn helaeth iawn gyda Llywodraeth y DU gan ddefnyddio'r dull atgyfeirio cenedlaethol ac edrych ar hynny yng nghyd-destun effaith COVID-19.