Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Medi 2020.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn eglur y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i'r ymateb i'r pandemig a'r adferiad yng Nghymru. Dyma fydd yr egwyddor arweiniol wrth i ni fwrw ymlaen â datblygiadau polisi allweddol dros y misoedd nesaf.