Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Medi 2020.
Wel, rwy'n cydnabod bod David Rowlands wedi sôn am hyn fwy nag unwaith yn y Siambr hon. Hoffwn gyfeirio yn gryno, o ran cyflogaeth, at god ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, a lansiwyd yn 2017, gyda'r nod o wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw, ond hefyd atal camfanteisio ar weithwyr. Ac roedd yn rhywbeth newydd i Gymru a'r DU mewn gwirionedd, ac mae dros 200 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r cod ymarfer, gyda'r rhan fwyaf o gyrff sector cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo hefyd. Ond hoffwn dalu teyrnged hefyd i Joyce Watson â'i grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl, os na chaf i'r cyfle i wneud hynny eto y prynhawn yma.