3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:25, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae cydweithwyr a dysgwyr yng Nghymru wedi dychwelyd i'r meithrinfeydd, ysgolion a cholegau dros y pythefnos diwethaf, ac rwy'n awyddus i ddiolch iddyn nhw, i'r athrawon, y tiwtoriaid a'r holl staff addysgol am y ffordd y maen nhw wedi ymdrin ac, yn wir, yn parhau i ymdrin â COVID-19. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled, eu cydnerthedd a'u cydweithrediad wrth inni ymlwybro drwy'r cyfnod mwyaf dyrys hwn.

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod nad oes modd, mewn unrhyw sefyllfa fel hon, peidio â chael unrhyw risg o gwbl. Er hynny, y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf sy'n fy nhywys i wrth wneud unrhyw benderfyniad am ddysgwyr yn dychwelyd i'w haddysg yn ddiogel. Fy mlaenoriaethau i drwy gydol y pandemig hwn fu diogelwch a lles staff a dysgwyr, gan ddarparu'r addysg orau bosibl gyda chyn lleied â phosibl o amharu yn digwydd i'n pobl ifanc ni.

Rwyf i o'r farn fod mynd yn ôl i'r ysgol yn hanfodol i ddatblygiad plant ac i'w hiechyd a'u lles nhw, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymdrech a wnaeth ysgolion, colegau, awdurdodau lleol ac undebau llafur i sicrhau bod yr amgylchedd mewn ysgolion a cholegau mor ddiogel ag sy'n bosibl i bob dysgwr. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys mwy o lanhau, gorsafoedd hylendid i staff a dysgwyr, a llai o symud a chyswllt rhwng grwpiau.

Roedd grŵp cynghori technegol Cymru yn eglur hefyd fod yn rhaid inni sefydlu strategaeth gadarn o olrhain a diogelu fel un o'r rhagofynion ar gyfer ailagor ysgolion yn ehangach. Ac fel y mynegwyd yn gynharach yn y Siambr, mae hyn wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Nghymru. Mae nifer fawr o gysylltiadau yn cael eu holrhain o fewn 24 awr, ond hefyd gwelwyd dull clir o reoli achosion, a fydd yn help i gefnogi ysgolion i symud ymlaen.

Wrth gwrs, efallai fod ein lleoliadau addysg a meithrin ar agor yn llawn, ond nid yw hyn yn golygu normalrwydd. I staff a dysgwyr fel ei gilydd mae'n her barhaus ar ôl misoedd lawer o ddysgu o bell, a'r posibilrwydd o achosion pellach a'r tarfu a achosir gan hynny. Cyfnod anodd iawn yw hwn gan fod lleoliadau addysg yn dal i orfod cynllunio ar gyfer gwahanol fodelau dysgu yn ogystal â rheoli cyswllt a chadw pellter cymdeithasol o fewn amgylchedd eu hysgolion. Felly, ynghyd â'r rhanbarthau, rydym wedi darparu canllawiau i sicrhau bod dysgu a dilyniant yn parhau ac yn aros yn ddiogel.

Mae'n debygol iawn bod amser i ffwrdd o'r ysgol wedi cael effaith negyddol ar lawer o'n pobl ifanc ni. Efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw i fod yn barod i ddysgu unwaith eto ac ailintegreiddio i amgylchedd yr ysgol. Efallai y gwelwn ni heriau sylweddol o ran llesiant, yn ychwanegol at yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl fel arfer ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd. Efallai fod meysydd dysgu allweddol wedi mynd ar goll yn ystod yr amser i ffwrdd o'r ysgol a bydd angen hyblygrwydd ar ysgolion i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n awyddus i ysgolion a lleoliadau eraill allu ymateb i hynny a buddsoddi amser er mwyn cefnogi llesiant y dysgwyr. Ni allwn ddisgwyl i ysgolion gyflawni eu holl ddyletswyddau mewn cysylltiad â'r cwricwlwm i bob dysgwr mewn pob amgylchiad, o ystyried yr amgylchiadau yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Felly, rwyf wedi penderfynu addasu'r cwricwlwm sylfaenol a'r gofynion asesu cysylltiedig ar sail 'ymdrech resymol' ar gyfer 30 diwrnod cyntaf mis Medi. Wrth wneud hyn rwy'n awyddus i roi hyblygrwydd i ysgolion wrth ailintegreiddio myfyrwyr a datblygu cynlluniau addysg sy'n gadarn ac yn berthnasol. Mae hyn yn golygu helpu ysgolion wrth iddyn nhw ailddechrau addysg amser llawn yn eu hadeiladau.

Ond fe wyddom fod yna lawer o ddysgwyr nad ydyn nhw wedi datblygu cymaint ag y byddent wedi ei wneud fel arfer, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny. Wrth i athrawon a phenaethiaid barhau i groesawu disgyblion yn ôl, gwn y byddant yn asesu anghenion a datblygiad dysgwyr, gan adeiladu ar y cyfnod ailgydio i bawb cyn toriad yr haf. Fy neges glir i iddyn nhw yw bod yr arian ar gael yng nghyllidebau'r cynghorau ac ysgolion i recriwtio staff a chynorthwywyr addysgu ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Gan adeiladu ar eu dealltwriaeth nhw o sefyllfa addysgol eu dysgwyr nhw, mae ein buddsoddiad ni o dros £29 miliwn wedi ei dargedu i sicrhau bod athrawon a chymorth ychwanegol yno ar gyfer blynyddoedd 11, 12 ac 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oedran.

Gwn fod athrawon, yn ogystal â rhieni, yn pryderu fel minnau am y dysgu a gollwyd a'r bwlch cyrhaeddiad. Fe fydd y mis hwn yn helpu penaethiaid ac athrawon i ddeall yn well sut y gallan nhw ddefnyddio'r arian a ddarperir i gefnogi hyfforddiant ychwanegol, rhaglenni addysg bersonol ac amser ac adnoddau ychwanegol i'r disgyblion hynny sy'n wynebu arholiadau.

Rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda chyfarwyddwyr addysg ac undebau llafur addysg i ddatblygu canllawiau i gefnogi darpariaeth gyfredol mewn ysgolion, ac mae hyn yn cynnwys cyngor clir ar gadw pellter cymdeithasol. Rydym wedi darparu cyngor i ysgolion ac undebau'r gweithlu addysg ar COVID-19 yn fwy cyffredinol, a thrwy Dysg, ac fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad wrth i'r anghenion godi.

Rydym wedi bod yn cydweithio hefyd ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chludiant i'r ysgol, a dyranwyd £10 miliwn o arian ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol. Mae'r arian hwn wedi eu helpu i ddarparu capasiti ychwanegol i fodloni gofynion statudol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y comisiynydd traffig.

Fel yr ydym ni i gyd yn deall, fe all sefyllfaoedd newid yn gyflym iawn mewn cyfnod o bandemig. Gallaf eich sicrhau chi, er hynny, y byddwn ni'n parhau i weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth, a chyda'n partneriaid eraill ni, i roi arweiniad a chyngor i sicrhau diogelwch i'n staff a'n pobl ifanc ni. A chyda'n gilydd, hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, fe fyddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar godi safonau i bawb, a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, ac yn sicrhau bod gennym system sy'n destun balchder ac y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddi.