Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch, Gweinidog. Fe hoffwn innau ategu eich sylwadau agoriadol chi ynglŷn ag athrawon a staff, ac a gaf i gynnwys llywodraethwyr gyda'r rhain? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, gan eich cynnwys chi, ond yn bwysicaf oll, i'n hetholwyr.
Diolch yn fawr ichi am eich datganiad. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddechrau gyda'r peth pwysicaf o ran fy safbwynt i, sef mae'n rhaid i ysgolion aros ar agor onid oes rheidrwydd gwirioneddol—gwirioneddol—iddyn nhw gau. Ac er bod y sefyllfa gydag arholiadau, wrth gwrs, yn anodd, ac efallai ar gyfer rhyw ddiwrnod eto, rwy'n credu bod angen inni edrych ychydig ar yr hanes o ran agor a chau ysgolion oherwydd, yn amlwg, yn ôl ym mis Mawrth, roedd pawb yn deall pwysigrwydd cyfyngu ar gyswllt o bob math ar fyrder. Roedd yna elyn peryglus nad oeddem ni'n deall fawr ddim amdano mewn gwirionedd, ond roeddem hefyd yn deall y byddai'n ergyd anochel i addysg ein plan. Ac er i arweinwyr ysgolion wneud eu gorau glas wrth geisio darparu'r cyfan y gallen nhw i'n dysgwyr ni, rwy'n credu y gwyddom bellach fod yna anghysondeb mawr wedi bod o ran cyswllt â disgyblion, o ran hygyrchedd cynnwys ar-lein, gallu teuluoedd i ymgysylltu'n wirioneddol â'r cynnwys hwnnw ar-lein, a pharodrwydd plant i ddal ati, i fod yn barod i ddal ati gyda'r addysg honno. Mae COVID wedi peri blinder mawr inni, fe gredaf.
A dyna pam y buom ni'n gefnogol iawn, mewn gwirionedd, i'ch cynlluniau chi i agor ysgolion am bedair wythnos yn nhymor yr haf er mwyn ailgydio a dal i fyny, fel yr oeddech chi'n dweud, fel y gallai athrawon a dysgwyr werthuso'r hyn yr oedd angen ei wneud nesaf. Ac rwy'n credu efallai mai dyna lle y dechreuodd pethau fynd ar chwâl i'r Llywodraeth. Gan adael i'r wlad feddwl un peth, pan nad oeddech chi, mewn gwirionedd, wedi llwyddo o ran darpariaeth y bedwaredd wythnos honno, pan roedd y pwerau gennych chi y gallech fod wedi eu defnyddio i atal y cynghorau rhag dweud Na wrth ysgolion, dyna lle roeddwn i'n dechrau anghytuno â'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddechrau da, a bod yn onest. Ers hynny, yn sicr yn ddiweddar, mae rhyw deimlad o 'fel y mynnoch chi, ysgolion' wedi bod yn digwydd. Wrth gwrs, dim ond yr ysgolion a all wneud rhai o'r penderfyniadau gweithredol, ac mae eich canllawiau chi wedi bod o gymorth mawr gyda hynny, ond mae yna adegau pan fydd angen mandadau; mae yna adegau pan fydd angen rheolau. Nid yw ysgolion yn deall yr wyddoniaeth, ond rydych chi, fel yr oeddech chi'n dweud heddiw, wedi parhau i gael eich tywys gan y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â chael y dysgwyr yn ôl yn ddiogel. Mae'r wybodaeth honno gennych chi; ond nid yw gan arweinwyr ysgolion o reidrwydd. Ac maen nhw'n sicr yn ei chael hi'n anodd gweinyddu'r syniadau hyn pan nad oes yno'r sicrwydd a ddaw o gael Gweinidog yn dweud, 'Fel hyn y dywed y gyfraith, ac fe allwch chi ddibynnu ar hynny.'
Pan ddywedwch nad yw bod ar agor yn llawnamser yn golygu normalrwydd, yn amlwg mae hynny'n wir o ran cynllun adeiladau ein hysgolion ni, ond rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom fod angen i lefel a safon caffaeliad addysg fod yn nes at yr hyn sydd yn normal. Nid oes gennyf hyder yn eich datganiad sy'n dweud na allwn ddisgwyl i ysgolion gyflawni eu holl ddyletswyddau o ran y cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ym mhob amgylchiad yn ystod y cyfnod hwn. Ac rydym yn gwybod eu bod wedi cael yr amser. Roeddem ni wedi cytuno â chi fod pythefnos yn ddigon da i ganiatáu i ysgolion ddod o hyd i'r hyn oedd ei angen ar eu dysgwyr. Ac rwy'n awyddus i wybod a yw'r estyniad hwn i 30 diwrnod cyntaf mis Medi yn rhywbeth yr ydych chi wedi ymgynghori arno, oherwydd nid wyf i'n credu hynny. Ac a ydym ni mewn sefyllfa eto lle'r ydym ni'n gohirio'r angen i gadw at y cwricwlwm.
A ydych chi wedi llwyddo i berswadio eich cyd-Aelodau o'r hyn a ddywedais i yn fy natganiad agoriadol, mai ysgolion ddylai fod y rhai olaf i gau, yn enwedig os bydd yna gyfnod clo arall? Rwy'n nodi eich bod wedi mynegi hyder mawr yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, felly rwy'n gobeithio mai dyna'r arf yr ydych wedi ei ddefnyddio i ddadlau â'ch cydweithwyr yn y Cabinet y dylai'r ysgolion aros ar agor. Ond os nad oeddech chi'n llwyddiannus yn hynny o beth, a ydych eisoes wedi penderfynu beth fyddwch chi'n ei fandadu os daw'n gyfnod clo cenedlaethol, i wneud yn siŵr nad yw dysgu'n cael ei lesteirio yn yr un modd â'r tro diwethaf? A ydych chi'n ystyried mandadu ffrydio gwersi'n fyw, er enghraifft? A ydych chi wedi cael asesiad o'r offer TG a ddosbarthwyd—rhywbeth yr oeddem ni'n ei gefnogi—i sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud yn fawr ohono? Neu, mewn sefyllfa fwy tebygol o gyfnodau clo lleol, a fydd, gobeithio, yn golygu bod myfyrwyr yn colli dysgu wyneb yn wyneb am bythefnos ar y tro ar y mwyaf, a fyddwch chi'n mynnu y dylai ysgolion wneud presenoldeb yn orfodol ar gyfer gwersi rhithwir, y dylid eu darparu yn y mwyafrif o achosion bron yn union fel y'u hamserlennwyd?
Fe hoffwn i gael ychydig o fanylder am yr arian y daethoch o hyd iddo ar gyfer athrawon newydd ac ar gyfer dal i fyny, sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, a sut y caiff ei ddefnyddio mewn colegau addysg bellach. Ac rwy'n awyddus i gael gwybod sut mae'r gwaith monitro a gwerthuso hwyr o'r hyn a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf wedi effeithio ar benderfyniadau yr ydych chi'n debygol o'u gwneud. Ac rwy'n awyddus i glywed yr hyn yr ydych chi am ei ddweud wrthym ni'n awr ynghylch sut y byddai unrhyw gyfnod clo pellach yn debygol o effeithio ar y maes llafur a gwtogwyd yr ydych chi wedi sôn amdano eisoes, yn enwedig i'r rhai sy'n ymgeisio am gymwysterau cyffredinol yn ddiweddarach—ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, mae'n ddrwg gennyf i.
Nid oedd gennych lawer i'w ddweud am brofion mewn ysgolion. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym a ydych chi neu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud unrhyw beth ynglŷn â phrofion tymheredd mewn ysgolion o gwbl. Os felly—cwestiwn agored yw hwn; rwy'n wirioneddol awyddus i glywed rhywbeth am hynny. Ac yna mae'n debyg fy mod i am ailadrodd fy nghwestiynau i yn yr un cyd-destun o ran addysg bellach, lle mae'r proffiliau oedran amrywiol yn gwneud dysgu wyneb yn wyneb yn fwy heriol, oherwydd mae yna reoliadau ar gadw pellter cymdeithasol sy'n amrywio yn ôl gwahanol grwpiau oedran. Tybed a wnewch chi egluro i mi i ba raddau y gallwch chi orfodi rhai camau gweithredu mewn coleg o'u cymharu â rhai mewn ysgolion, ac a oes gennych chi unrhyw bwerau penodol y gallwch chi eu defnyddio i fodloni eich hun ynghylch y cwestiwn hwn o ansawdd y dysgu yn ystod cyfnod clo mewn sefydliadau addysg bellach yn ogystal ag ysgolion? Diolch.