3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:50, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi clywed adroddiadau, er enghraifft, am rieni'n ymgynnull yn agos at ei gilydd heb gadw pellter cymdeithasol wrth fynedfa'r ysgol. Mae hyn yn beth syml y gallwn ni ei osgoi—gallwn ni osgoi gwneud hynny. Mae'n arbennig o bwysig bod staff yn ein hysgolion yn cofio cadw pellter cymdeithasol oddi wrth aelodau eraill o staff. Mae achos gennym ni o uwch reolwyr ysgol yn hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd achos o COVID ac oherwydd bod y grŵp hwnnw o staff wedi bod yn cyfarfod â'i gilydd mewn ystafell staff a heb wneud hynny gan gadw pellter cymdeithasol—ac felly roedd yn rhaid i aelodau eraill o'r staff fynd adref i ynysu. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r negeseuon hyn mewn cof.

O ran profi, mae materion sy'n ymwneud â chapasiti labordy goleudy wedi cael eu trafod yn eang yma yn y Siambr eto heddiw, a'r Gweinidog Iechyd yw'r nesaf i siarad. Ond fe allaf eich sicrhau chi, Siân, fy mod i'n cael sgyrsiau gyda'r Gweinidog Iechyd fwy nag unwaith y dydd am yr angen i sicrhau bod Profi, Olrhain, Diogelu gystal ag y gall fod er mwyn gallu cynnal yr addysg yn rhwydd. Ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wneud hynny, i sicrhau bod capasiti  uwchlaw a thu hwnt i hynny ar gael yn y labordai goleudy, gan ganolbwyntio ar y cymunedau hynny'n benodol lle gwyddom  fod haint yn y gymuned yn her ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau pellach i gynyddu cyfleusterau galw i mewn lleol, a fydd yn bwysig wrth i'r hydref fynd yn ei flaen.

A gaf i ddweud fod yna becynnau profi wedi cael eu dosbarthu i bob ysgol a choleg, y gellid eu defnyddio nhw mewn argyfwng os nad oes ffordd arall i blentyn allu cael prawf? Felly, fe fydd 10 pecyn yn cael eu cyflwyno i ysgolion, ac, fel y dywedais i, maen nhw ar gael mewn sefyllfaoedd cwbl argyfyngus. Rhoddwyd pecynnau i golegau Addysg Bellach hefyd. Ond rwyf i yn cydnabod—a dyna pam mae'r Llywodraeth yn gweithio mor galed â phosibl i sicrhau bod profion ar gael mewn da bryd, oherwydd mae hynny'n ein galluogi ni i gyfyngu ar amhariadau.

O ran mygydau, mae'r canllawiau ar fygydau yn gwbl glir. Ein disgwyliadau ni o ran ysgolion, a'n canllawiau gweithredu ni yw, y byddan nhw'n cymryd camau i gyfyngu ar gyswllt rhwng grwpiau o ddisgyblion. Ac mae ysgolion yn gwneud hyn mewn ffyrdd amrywiol: er enghraifft, parthau; systemau un ffordd; dechrau'r diwrnod fesul cam; amseroedd egwyl fesul cam, amseroedd cinio a threfniadau ar ddiwedd diwrnod ysgol. Pan fydd yr holl bethau hyn wedi eu gwneud—oherwydd mae'n rhaid gwneud y pethau hynny'n gyntaf—pan fydd yr holl bethau hynny wedi eu gwneud a'i bod hi'n amhosibl wedyn gadw swigod o ddisgyblion ar wahân mewn mannau cymunedol, dyna pryd y dylid gwisgo mygydau. Ac mae'n well gwneud hynny ar sail asesu risg unigol mewn ysgol unigol, oherwydd mae ein hysgolion ni'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun. Mae yna ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i a fyddai'n edrych fel ysgolion cynradd bach yng nghyd-destun Caerdydd. Mae rhai o'n hysgolion mewn adeiladau ysgol gwych yr unfed ganrif ar hugain, ac yna mae rhai o'n hysgolion yn dal i fod, pe byddwn i'n onest, mewn adeiladau o oes Fictoria, ac felly fe fydd eich gallu chi i gyflawni'r pethau hyn yn eich ysgol chi'n amrywio o ysgol i ysgol. Os na allwch gadw grwpiau o ddisgyblion 2m oddi wrth ei gilydd mewn mannau cymunedol, yna fe ddylen nhw wisgo mygydau, ac rwy'n siŵr fod trefnu hynny o fewn gallu'r penaethiaid sy'n rhedeg ein hysgolion ni. Maent yn ymdrin yn feunyddiol â phroblemau sy'n llawer mwy cymhleth na gweithio allan sut i gadw plant 2m ar wahân mewn coridor.

O ran bysiau a chludiant rhwng y cartref a'r ysgol, mae 17 o'n 22 awdurdod lleol ni wedi mandadu neu argymell yn gryf eisoes y dylid defnyddio mygydau ar gludiant o'r cartref i'r ysgol. Ac unwaith eto, Dirprwy Lywydd, mae'r cyngor yn glir: os nad oes digon o le ar y bws i gadw'r plant ar wahân—a gadwech inni fod yn onest, mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o fysiau—yna, unwaith eto, mae mwgwd yn briodol. Ac o ran pwy sy'n gyfrifol am hynny, yna mae'n rhaid i rieni a gofalwyr a'r plant eu hunain gael y sgyrsiau hynny am yr hyn y gallan nhw ei wneud i sicrhau eu bod nhw'n lleihau'r perygl o amharu ar eu haddysg nhw drwy wisgo mwgwd. Ac rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig lle mae'r Llywodraeth wedi darparu adnoddau ariannol i ganiatáu i awdurdodau lleol brynu, ac i ysgolion brynu, mygydau i'w disgyblion nhw, fel nad oes yna unrhyw blentyn mewn sefyllfa lle nad oes ganddo'r mwgwd priodol os oes ei angen. Ac, unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig i wneud hynny'n bosibl.