Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch yn fawr am eich datganiad a'r sylwadau a wnaethoch chi i'r Aelodau eraill.
Rwy'n cytuno â chi mai llesiant emosiynol ddylai fod yn brif flaenoriaeth, oherwydd nid yw plentyn sy'n bryderus yn mynd i allu dysgu'n effeithiol. Felly, mae'n rhaid i hynny fod yn brif flaenoriaeth. A hyfryd o beth yw clywed sŵn plant yn chwarae ar yr iard, oherwydd yna rydym yn gwybod eu bod nhw'n ôl yn mwynhau bywyd.
Rwyf i o'r farn, gan nodi'n syml rai o'r sylwadau a wnaethoch chi am ddefnyddio mygydau pan nad oes modd cadw pobl ifanc ar wahân, ac mae hynny'n cynnwys pan fyddan nhw'n teithio ar y bysiau hyn i fynd yn ôl i ble bynnag, nad yw'n bosibl darparu bysiau ysgol yn ôl grwpiau blwyddyn—nid yw hynny'n mynd i ddigwydd; nid oes gennym y lefel honno o fysiau. Ond rwy'n credu—pan fydd rhieni'n mynegi pryder yn hyn o beth, tybed a allem ni eu hannog nhw i feddwl y tu hwnt i hynny a meddwl, 'A allai fy mhlentyn i fynd ar y beic i'r ysgol, neu gerdded?', gan ddibynnu ar ba mor bell i ffwrdd y mae'n rhaid iddyn nhw deithio. Oherwydd, yn fy mhrofiad i, nid yw'r trawsnewid hwnnw wedi digwydd ym mhennau pobl—y rhieni—eto.
Fe hoffwn i dalu teyrnged i'r ddwy ysgol lle cafwyd achosion cyfyngedig iawn o'r coronafeirws ar ddechrau'r tymor. Yn amlwg, mae'n rhaid mai yn y gymuned y daliwyd y feirws; nid oeddent wedi bod yn yr ysgol yn ddigon hir i'w gael yno. Felly, rwy'n llwyr atgyfnerthu'r negeseuon yr ydych chi'n eu datgan ynglŷn â sut mae angen i bob un ohonom ni gadw'r gymuned gyfan rhag lledu'r clefyd fel y gallwn ni gadw ein hysgolion ar agor.
Fodd bynnag, fe hoffwn i ddod yn ôl at y pwynt am allgau digidol, oherwydd nid oeddech chi yn y Siambr pan gefais ddeialog â'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â nifer y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sydd â chysylltiad digidol, ac fe ddywedodd hi fod gan eu hanner nhw rywfaint o gysylltiad. Wel, gwn o brofiad personol yr hyn y mae hynny'n ei olygu—nid yw 1Mb yr eiliad yn caniatáu ichi gael unrhyw ddysgu o bell, yn anffodus. Ac rwy'n bryderus am yr holl safleoedd eraill lle mae'n amlwg nad oes unrhyw ddysgu digidol. Felly, waeth faint o lechi neu liniaduron sy'n cael eu dosbarthu, ni fydd y plant hynny'n gallu cael mynediad i'r cwricwlwm oni bai ein bod yn darparu'r band eang i allu gwneud defnydd ohonynt. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad â'r Gweinidog Llywodraeth Leol am sut y gallwn ni gael yr awdurdodau lleol i wneud hyn yn brif flaenoriaeth. Mae'r arian ar gael ar gyfer gwneud y cysylltiadau hyn, ond nid yw awdurdodau lleol wedi manteisio ar hynny dros yr haf pan oedd cyfle i wneud hynny. Felly, mae hon yn ymddangos yn brif flaenoriaeth i mi, a diolch am yr holl waith yr ydych chi'n ei wneud.