3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:01, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Beth yw eich ymateb chi i bryderon a godwyd gyda mi gan staff mewn ysgolion bod cadw pellter cymdeithasol yn cael ei anwybyddu neu ei fod yn amhosibl i ddisgyblion mewn ysgol lle mae gofyn iddyn nhw symud o un ystafell ddosbarth i'r llall;  bod cysondeb a safon yr addysg ar-lein wedi amrywio'n fawr, gan holi a yw Cymru wedi buddsoddi ymhellach mewn datblygu addysg ac adnoddau ar-lein i baratoi ar gyfer ail don bosibl; bod athrawes sector cynradd wedi cael ei dwrdio am ddefnyddio gormod o bapur yn ei hystafell ddosbarth yn ystod sesiynau golchi dwylo, a dywedwyd wrthi am annog disgyblion i sychu eu dwylo nhw yn yr aer—ac fe wyddom ni i gyd pa mor beryglus yw hynny; bod y staff addysgu mewn rhai awdurdodau yn gorfod glanhau eu hystafelloedd dosbarth nhw eu hunain, gyda glanhawyr yn dod i mewn i lanhau'n ddwfn yn wythnosol yn unig, gan greu risgiau iechyd ychwanegol a chynyddu'r pwysau sydd arnynt; a bod Kirsty Williams yn dweud mai'r pennaeth sydd yn y sefyllfa orau i gynghori, ond nid ymarferwyr meddygol na gwyddonwyr mohonynt, ac mae'r rheini, hyd yn oed, wedi gwneud camgymeriadau, a bod angen cyngor cadarn arnom y gellir ei orfodi trwy Gymru gyfan?