Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi yn llygad eich lle: mae llesiant yn allweddol. Nid yw dysgu'n gweddu i blentyn sy'n ofidus, a'r hyn a wyddom ni yw y bydd y cyfnod clo wedi cael effaith ar bob un o'n plant ni, ond fe fydd effaith hynny'n amrywio o blentyn i blentyn. Fe fu'r cyfnod clo yn gyfnod anhapus iawn i rai o'r plant, ac fe fydd angen mynd i'r afael â hynny. Gwyddom fod hyn yn wir am rai o'n dysgwyr, mewn gwirionedd—ac fe gafwyd rhai arolygon diweddar yn dangos bod pobl ifanc yn eu harddegau wedi teimlo llai o straen y tu allan i'r ysgol, felly rhaid rheoli ailintegreiddio i'r ysgol yn briodol. Ac, o leiaf, mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd y dull ysgol gyfan, onid yw e, am wneud yr ysgol yn lle hapus i'n dysgwyr ni i gyd. A dyna pam mae angen inni gymryd yr amser hwn ar ddechrau'r tymor i roi cyfle i ysgolion allu mynd i'r afael â hynny, fel y gall gweddill y flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen gystal ag y gall. A dyna pam yr ydym ni, y Gweinidog Iechyd a minnau, wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i gynnal sesiynau cwnsela ychwanegol i'r plant hynny lle mae cwnsela'n briodol. Ac o ran plant ysgol gynradd, lle nad yw cwnsela traddodiadol yn ddull priodol i gyfryngu â phlant, fe geir gwaith teuluol a gwaith grŵp, sy'n llawer mwy priodol.
Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn iawn: yn ein canllawiau ni, rydym yn dweud yn eglur iawn mai teithio llesol ddylai fod y dewis cyntaf i rieni lle bo'n ymarferol gwneud felly, ac os nad am unrhyw reswm arall mae'n ddechrau perffaith i'r diwrnod i blentyn—gan losgi ychydig o'r egni hwnnw sydd dros ben, a chael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff cyn dechrau'r diwrnod ysgol. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn yr adran drafnidiaeth i gyfleu'r negeseuon hynny a sicrhau bod ysgolion mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Ar draws y ffordd yn y fan hon, yn Ysgol Hamadryad, mae gennym ein hysgol teithio llesol gyntaf, lle ni chaniateir i geir deithio i'r ysgol. Felly, mewn rhai amgylchiadau, mewn rhai cymunedau, gellir gwneud hynny'n llwyddiannus ac mae angen inni barhau i weithio ar greu'r amodau—nid yn unig dros dro, ond i'r dyfodol—i annog teithio llesol.
O ran allgau digidol, fe fyddaf i'n sicr yn codi'r pwynt gyda'r Gweinidog Llywodraeth Leol ynglŷn â chysylltiadau parhaol i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Ond, fel y dywedais pan atebais Suzy Davies, nid yn unig fe wnaethom roi gliniaduron a dyfeisiau i blant, dosbarthwyd 10,848 o ddyfeisiau MiFi gennym hefyd. Weithiau, nid diffyg dyfais yn unig yw'r broblem, ond y cysylltedd. Efallai eich bod chi mewn safle Sipsiwn a Theithwyr, neu efallai eich bod chi yng nghefn gwlad, lle nad yw'r cysylltiad hwnnw ar gael. Felly, roeddem ni'n gallu cynorthwyo, fel y dywedais i, bron 11,000 o blant drwy ddarparu cysylltedd iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn.