3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:43, 15 Medi 2020

Diolch am y datganiad. Hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i bawb sy'n ceisio sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni yn gallu dychwelyd at eu haddysg mewn ffordd ddiogel, sydd yn her enfawr, wrth gwrs, yn enwedig wrth inni weld achosion positif o'r COVID ar gynnydd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc ni, efo dwsinau o ysgolion wedi cael eu heffeithio yn barod gan yr argyfwng coronafeirws. 

Mae'n rhaid i fi ddweud, dwi'n methu credu eich bod chi'n meddwl bod y strategaeth olrhain, profi ac amddiffyn yn 'llwyddiannus'. Dyna'r gair rydych chi'n ei ddefnyddio. Hwn ydy'r gair lleiaf addas i ddisgrifio'r sefyllfa sy'n datblygu efo profion yn ein hysgolion ni. Ar hyn o bryd, mae yna wendid mawr efo rhan o'r strategaeth, sef y cam cyntaf: y profi. Ac mae gweithredu'r rhan honno o'r strategaeth yn simsan iawn ar hyn o bryd. Dwi yn gwybod mai mater i'r Gweinidog iechyd ydy'r profion COVID, ond mae o'n gyfrifoldeb arnoch chi fel Gweinidog Addysg pan fo'r diffyg profi a'r oedi gyda chael prawf yn golygu bod llawer gormod o ddisgyblion yn absennol o'r ysgol yn ddianghenraid ac felly'n colli allan ar eu haddysg unwaith eto. Yn anffodus, mae fy inbox i'n llawn o e-byst gan rieni o bob rhan o Gymru—nid Arfon yn unig, ond o bob cwr o Gymru—sydd yn dweud bod eu hysgol wedi anfon eu plentyn adref o'r ysgol efo symptomau, sef y peth iawn i'w wneud, fel rydych chi newydd sôn, ond wedyn bod disgwyl gan yr ysgol bod y plentyn yn cael prawf cyn dychwelyd i'r ysgol ond mae'r rhieni'n methu'n lân â chael prawf innau drwy'r post neu mewn canolfan dreifio drwodd.

Felly, byddwn i'n hoffi gwybod pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar ran plant a phobl ifanc Cymru sydd ddim eisiau colli mwy o'u haddysg am y sefyllfa gwbl annerbyniol yma efo profion a pham na all adran addysg Llywodraeth Cymru greu mecanwaith penodol ar gyfer rhieni, disgyblion a staff ysgolion fel bod modd i ysgolion gael mynediad rhwydd at brofion. Beth, er enghraifft, am greu un pwynt cyswllt i ysgolion ynglŷn â'r sefyllfa profion er mwyn iddyn nhw gael gafael arnyn nhw yn llawer iawn cynt na maen nhw ar hyn o bryd? Mae'n rhaid inni ddatrys hyn, a buaswn i'n leicio clywed beth rydych chi wedi bod yn ei wneud am y sefyllfa. 

Mater arall sy'n peri pryder i rieni a disgyblion ydy'r sefyllfa efo mygydau ar fysiau ysgol. Dwi'n credu bod yna ddiffyg eglurder, felly hoffwn i wybod yn union pwy sydd efo'r cyfrifoldeb am orfodaeth ynglŷn â mygydau ar fysiau ysgol. Eto, mae fy inbox i'n llawn o bobl sydd yn poeni wrth weld problemau'n codi ar y daith ar y bws i'r ysgol. Rydych chi wedi rhoi mwy o arian tuag at drafnidiaeth ysgol, ond dydy hynny ar ben ei hun ddim yn mynd i wella sefyllfa lle nad oes yna ganllawiau clir ac eglurder i rieni a disgyblion ynglŷn â'r orfodaeth ar yr agwedd yma efo'r mygydau.

Ac i gloi, mae'r cwestiwn mawr yn parhau ynglŷn ag arholiadau a beth sydd i ddigwydd yr haf nesaf. Mae'r cynnydd mewn achosion a'r sefyllfa annerbyniol efo'r profion yn golygu bod addysg rhai o'n disgyblion ni'n cael ei amharu arno fo'n barod a dim ond newydd ddechrau ailgychwyn mae pethau. Pam na wnewch chi gyhoeddi na fydd arholiadau'n cael eu cynnal flwyddyn nesaf ac y byddwch chi'n canolbwyntio'n hytrach ar greu system gadarn o ddefnyddio asesiadau sydd ddim yn cynnwys gorfod bod yn yr ysgol yn gorfforol i eistedd arholiad? Does yna ddim sôn am hynny yn eich datganiad chi, ac mi fyddai cyhoeddiad cynnar am hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn.