3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:37, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae hon yn rhestr faith iawn o gwestiynau—fe geisiaf i fwrw ymlaen drwyddyn nhw cyn gynted â phosibl. A gaf i ddechrau, serch hynny, drwy ddiolch i Suzy Davies am ei chydnabyddiaeth hi o'r ymdrechion enfawr sydd wedi cael eu gwneud yn y gweithlu addysg cyfan yn ystod y cyfnod hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am gydnabod hynny.

A gaf i ei sicrhau hi bod cadw addysg ar agor yn flaenoriaeth ledled y Llywodraeth, ac fe fyddwn ni'n cymryd yr holl gamau sy'n angenrheidiol yn y Llywodraeth i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o amharu ar ddysgu i blant? Yn wir, rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd yn siarad eisoes am rai o'r materion sy'n ymwneud â mwy o gymysgu rhwng aelwydydd, nad ydym ni wedi bwrw ymlaen â nhw, i roi'r hyblygrwydd i ni ganiatáu i ysgolion agor. Felly, mae penderfyniadau anodd wedi eu gwneud gan y Llywodraeth hon yn barod, sydd wedi ein galluogi ni i flaenoriaethu agor ysgolion. Ac fe ddylwn i ddweud wrth yr Aelod—roedd hi'n cyfeirio at blant yn colli allan ar addysg oherwydd cyfnod clo lleol. Wel, yn amlwg, mae gennym ni'r cyfnod clo lleol cyntaf yng Nghymru ar hyn o bryd, yng Nghaerffili, ac mae ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor. Ac rydym ni wedi bod yn eglur iawn mai ein disgwyliad ni yw y dylai ysgolion a cholegau, yng Nghaerffili, aros ar agor, ac o ran y rhai sy'n teithio i mewn ac allan o Gaerffili am eu bod nhw'n athrawon ac yn gweithio yn y sefydliadau hynny—mae hwnnw'n rheswm digonol ar gyfer teithio. Ac er bod yna broblemau gyda Chaerffili, ac mae'r achosion yn y gymuned honno'n uchel iawn—roedd dros 70 y cant o blant Caerffili wedi mynd i'r ysgol ddoe. Dyma un o'r ffigurau isaf yng Nghymru ar hyn o bryd, ond o ystyried eu bod nhw'n cael cyfnod clo yno, mae'n dda gweld hyn.

O ran y cwricwlwm, gadewch inni fod yn gwbl glir am y normal newydd. Mae Suzy Davies yn iawn—mae golwg a naws yr ysgolion ychydig yn wahanol. Ond mae'n bwysig, ar ôl cysylltu â'r proffesiwn addysgu, fod rhywfaint o hyblygrwydd ar gael i ni am y mis cyntaf hwn o weithredu, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw gael profi eu gweithdrefnau, gweld sut mae pethau'n gweithio, ac, yn hollbwysig, ganiatáu iddyn nhw gael yr amser ychwanegol y gallai fod ei angen ar gyfer ymdrin â llesiant plant, a deall eu sefyllfa o ran eu dysgu. Ac yn wir, gyda rhai agweddau ar y cwricwlwm, mae yna resymau o ran iechyd y cyhoedd pam na fyddem ni'n dymuno iddynt gynnal rhai gweithgareddau. Rydym ni'n parhau i fod yn bryderus ynglŷn â rhai gweithgareddau cerddorol mewn ysgolion, yn enwedig mewn grwpiau; a materion sy'n ymwneud â gwibdeithiau sy'n golygu aros dros nos—nid ydym ni'n argymell y rhain ar hyn o bryd, lle byddent yn rhan arferol o ddiwrnod ysgol. Felly, mae yna rai cyfyngiadau arnom ni. Ond os siaradwch â'r rhan fwyaf o ysgolion, maent yn bwrw ymlaen, fel y dywedais i, gan nodi'r anghenion dysgu, rhoi ystyriaeth i brofiad y plentyn o'r cyfnod clo, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

O ran allgáu digidol, fe hoffwn i atgoffa'r Aelod ein bod ni wedi dosbarthu 10,848 o ddyfeisiau MiFi cyn gwyliau'r haf, ac fe wnaethom ni ddosbarthu bron 10,000 o drwyddedau i awdurdodau lleol hefyd er mwyn iddynt addasu pob dyfais ac mae'r rhain wedi cael eu rhannu allan i'r plant. Rydym ni wedi gweld y niferoedd mwyaf erioed yn mewngofnodi i Hwb, sef ein llwyfan dysgu digidol ni. Ond mae'r Aelod yn llygad ei lle, Dirprwy Lywydd: roedd yna ormod o amrywiaeth yng ngallu'r ysgolion i ddarparu dysgu o bell. Rydym wedi dysgu gwersi; ac rydym yn dysgu'r gwersi o ran yr hyn a oedd yn gweithio'n dda, a'r hyn a oedd yn rhwystr i hynny.

Ac wrth imi siarad nawr, er nad yw rhai o'r awdurdodau lleol yn arbennig o hoff ohono, mae Estyn yn ymweld â phob awdurdod lleol unigol i'w sicrhau eu hunain bod yr awdurdod lleol yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod cynlluniau cadarn ganddynt sy'n caniatáu iddynt ystwytho eu darpariaeth, pe byddai'r feirws yn effeithio ar ddosbarthiadau unigol neu ysgolion unigol. Ac fel y dywedais i, mae'r arolygwyr allan yno ar hyn o bryd, ac fe fyddan nhw'n adrodd yn ôl i mi. Rydym ni wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Rydym ni o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y lefel honno o sicrwydd.

O ran dysgu cydamserol ac anghydamserol, cyhoeddwyd cyngor yn ôl ym mis Ebrill ynghylch sut y gall ysgolion wneud hynny'n ddiogel ac effeithiol. O ran profion tymheredd, ar hyn o bryd, nid yw'r Prif Swyddog Meddygol yn cynghori bod tymheredd yn cael ei wirio mewn ysgolion, er bod rhai ysgolion yn gwneud hynny. Ni ddylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn dymheredd uchel fod yn anfon eu plentyn i'r ysgol. Mae tymheredd uchel yn symptom o goronafeirws. Os ydych chi'n amau bod tymheredd uchel gan eich plentyn, mae angen i'r plentyn hwnnw gael ei brofi ac ni ddylai'r plentyn hwnnw fod yn mynd i'r ysgol. Fe fyddwn ni'n parhau i ddarparu gwybodaeth a chyfleoedd ychwanegol drwy gydol y cyfnod hwn i drafod gyda phenaethiaid a'u cynrychiolwyr sut y gallwn sicrhau eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i ysgol ei wneud pe byddai plentyn yn cael ei daro'n wael. Ond yr hyn a welsom ni hyd yma yw bod ysgolion, lle mae hynny wedi digwydd, wedi cymryd camau ar unwaith i amddiffyn plant a staff.

O ran Addysg Bellach, wel, mae'n amlwg bod ein colegau ni'n atebol hefyd i bwerau arolygu sydd gan Estyn, ac fe fyddem ni'n disgwyl i Estyn barhau i weithio law yn llaw â'n colegau addysg bellach i fodloni ein hunain bod y ddarpariaeth yn y colegau hynny cystal ag y gallai fod. Fel y gwyddoch, mae Addysg Bellach yn rhan gadarn o'n system addysg ni yng Nghymru sydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cyflawni canlyniadau rhagorol, ac mae colegau wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r Llywodraeth i sicrhau y gall eu dysgwyr nhw ddychwelyd yn ddiogel.

O ran arian ar gyfer dal i fyny, fe ddarparwyd £29 miliwn. Mae pob awdurdod lleol wedi cael dyraniad ar gyfer ysgolion unigol. Rhoddwyd swm o arian i bob partneriaeth ranbarthol hefyd i gynorthwyo ysgolion i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn dull sydd â sail tystiolaeth iddo, ac felly bydd pob ysgol wedi cael dyraniad. Mae'r arian hwnnw ar gael, ac fe fyddwn i'n disgwyl y bydd penaethiaid a'r awdurdodau addysg lleol yn cynllunio'r tymor hwn, ar sail yr wythnosau cyntaf hyn yn ôl yn yr ysgol, o amgylch sut y gellir defnyddio'r arian hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol. Roeddwn i mewn ysgol gynradd yn y Gelli Gandryll yr wythnos diwethaf, ac roedd gan Mrs B, pennaeth gwydn yr ysgol gynradd honno, gynllun cadarn yn ei le eisoes ynglŷn â sut yr oedd yn bwriadu defnyddio'r dyraniad i'w hysgol hi.