Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol imi gyhoeddi ein bwriad i ddatblygu cynllun diogelu'r gaeaf ar gyfer Cymru dros yr haf. Rwy'n falch o gadarnhau ein bod bellach wedi cyhoeddi'r cynllun hwnnw, yn dilyn ein gwaith gyda rhanddeiliaid. Mae digwyddiadau'r wythnos diwethaf wedi atgyfnerthu pam y mae angen hwn. Er gwaethaf yr holl gynnydd da a wnaed dros yr haf, mae'r sefyllfa'n parhau'n ansicr. Nid yw pandemig COVID-19 ar ben, ac fel y cawsom ein hatgoffa unwaith eto, gall y feirws ledaenu'n gyflym gydag achosion lleol sylweddol.
Rydym i gyd yn gwybod bod y gaeaf wastad yn adeg heriol o'r flwyddyn i'n staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Gadewch imi fod yn glir: bydd yr heriau y gaeaf hwn yn wirioneddol ryfeddol. Yn ogystal â phwysau arferol y gaeaf, bydd angen inni ymateb i'r pandemig COVID sydd heb ddod i ben. Nid ymchwydd diweddar y feirws yn yr wythnosau diwethaf fydd diwedd ein heriau. Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn penderfynu a oes angen i ni gyflwyno mesurau mwy sylweddol fyth i reoli'r feirws. Felly, mae'n rhaid inni fod yn barod am y gwaethaf. Bwriad cynllun diogelu'r gaeaf yw dwyn ynghyd prif gyfraniadau y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n diogelu'r cyhoedd, helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni ac ymgysylltu â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid allweddol, a byddwn yn cydweithio i gadw Cymru'n ddiogel.
Rydym wedi clywed gan gynghorau iechyd cymuned am y pethau a fydd bwysicaf i unigolion a chymunedau. Mae ymgysylltu â grwpiau proffesiynol a phartneriaid ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn ddefnyddiol i sicrhau bod cyd-destun cynllun diogelu'r gaeaf yn glir. Bydd ein disgwyliadau o ran y GIG a'r sector gofal yn cael eu nodi'n fwy penodol yn fframwaith gweithredol y GIG ar gyfer chwarteri 3 a 4, a gyhoeddir yr wythnos nesaf. Cefnogir cynllun diogelu'r gaeaf gan becyn sefydlogi'r GIG gwerth £800 miliwn a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, ynghyd â'r arian ychwanegol a ddarperir i awdurdodau lleol a'r sector gofal.
Mae'r cynllun yn tynnu sylw at nifer o feysydd sydd bellach yn gyfarwydd, ond rhai sy'n hanfodol i reoli'r feirws, gan gadw cymunedau'n ddiogel ac yn iach a lleihau'r galw ar ein GIG a'n gwasanaethau gofal. Er enghraifft, elfen allweddol o'r cynlluniau atal ac ymateb lleol yw'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu. Mae hyn yn amddiffyniad allweddol rhag trosglwyddo eang sy'n dibynnu'n helaeth ar gydweithrediad cyhoeddus, gonestrwydd a chydymffurfiaeth â'r cyngor hwnnw. Mae'r cynllun yn nodi'r angen i'r cyhoedd gefnogi ymgyrch ehangach a chynhwysfawr i frechu rhag y ffliw yr hydref hwn. Dylai hyn helpu i leihau'r pwysau tymhorol y mae'r ffliw yn ei roi ar ein GIG. Nid oes ffordd hawdd o fynd i'r afael â COVID-19, mae angen i bawb wneud ei ran i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.
Mae tystiolaeth wyddonol yn llywio ein penderfyniadau a bydd yn parhau i wneud hynny. Rwy'n cydnabod y bu hi'n anodd ac yn heriol iawn i ni fel unigolion a chymunedau. Mae cydweithio fel cenedl wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru yn gwneud eu rhan i helpu i gyfyngu effaith y feirws. Parodd y gostyngiad dros yr haf i rai pobl ymlacio a bod yn hunanfodlon ynglŷn â'r bygythiad parhaus. Bu lleiafrif o bobl hefyd na wnaethant ddilyn y rheolau'n fwriadol ac efallai eu bod yn credu bod COVID-19 wedi diflannu. Nid yw wedi gwneud hynny ac mae nifer yr achosion yn cynyddu.
Er gwaethaf ymdrechion enfawr y rhan fwyaf o bobl, mae rhai ardaloedd yn profi niferoedd llawer uwch o achosion sy'n debygol o arwain at bobl agored i niwed yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, gadewch imi fod yn gwbl glir: os ydym ni eisiau osgoi rhagor o gyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol, rhaid i'n hymddygiad newid a newid yn gyflym. Rydym ni mewn sefyllfa debyg nawr i ddechrau mis Chwefror eleni—ychydig wythnosau cyn y dewis i gyflwyno cyfyngiadau symud cenedlaethol a wnaethpwyd ym mis Mawrth gan bob gwlad yn y DU.
Rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion yn ardal bwrdeistref Caerffili, Merthyr Tudful, y Rhondda ac yng Nghasnewydd. Bydd Aelodau'n gwybod y bu'n rhaid gweithredu camau lleol a'u bod yn cael eu hadolygu'n gyson. Nid yw cyfyngu ar symudiadau pobl a gosod cyfyngiadau ar fywyd bob dydd erioed wedi bod yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gymryd yn ysgafn. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny i helpu i achub bywydau a lleihau'r risgiau i'n pobl fwyaf agored i niwed.
Mae arwyddocâd y cynnydd mewn achosion yn ystod yr wythnos diwethaf yn golygu bod gennym ni gyfle cyfyng iawn o ran amser i weithredu ac osgoi ymyrraeth fwy radical. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld mwy o gyfyngiadau, ond ni allaf bwysleisio digon, os na fyddwn yn dechrau gweld gostyngiad mewn achosion, ac mai dim ond drwy newidiadau yn ein hymddygiad y gallwn ni gyflawni hynny, yna bydd bywydau yn cael eu colli. Nid wyf eisiau gweld cyfyngiadau symud cenedlaethol, ond os yw'r dewis rhwng hynny a mwy o niwed, gan gynnwys marwolaethau, yna byddwn yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i gadw Cymru'n ddiogel.
Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â gweithwyr a chydweithwyr allweddol eraill yn y trydydd sector, yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau a gofal i ni a'n hanwyliaid. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni yn ein tro wneud ein rhan i ymladd y feirws a helpu i gadw Cymru'n ddiogel, pa un ai glynu wrth y rheolau, cadw pellter cymdeithasol neu ymarfer hylendid dwylo da yw hynny. Byddwn yn parhau i fyw gyda'r feirws mewn sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd am beth amser i ddod. Mae'n rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus drosom ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau.
Nid yw cynllun diogelu'r gaeaf yn ateb i bopeth, a bydd yn cymryd amser i ni i gyd ail godi ar ein traed yn dilyn y pandemig hwn. Fodd bynnag, mae'r cynllun yn dangos ein hymrwymiad parhaus i bobl Cymru drwy gydol yr argyfwng eithriadol hwn ym maes iechyd y cyhoedd. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i wneud y peth priodol. Gallwn i gyd wneud dewisiadau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.