Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 15 Medi 2020.
Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf i ddiolch ar goedd yn ddiffuant i'r holl staff sy'n rhan o'r teulu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud hyd yma ers i'r achosion o COVID gael eu cyhoeddi'n swyddogol ym mis Mawrth, ac, yn wir, i chi fel Gweinidog, a'r Llywodraeth hefyd? Oherwydd, rwy'n siŵr y bu'r pwysau ar bob un ohonoch chi fel unigolion yn gymaint o her ag unrhyw beth yr ydych chi wedi'i wynebu yn eich bywydau gwleidyddol os nad yn eich bywydau cyfan. Ond hoffwn ofyn cyfres o gwestiynau am y cynllun yr ydych chi wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad heddiw.
Mae'n bwysig bod cynlluniau o'r fath yn cynnal hyder, ac mae hyder yn elfen hollbwysig, nid yn unig ymhlith y staff a fydd yn cyflawni'r cynllun hwn, ond yn amlwg y cyhoedd y mae'n rhaid iddynt ei gefnogi. Ddoe, cawsom y tor diogelwch data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y profion a'r data a gafodd ei arddangos yn gyhoeddus. Y prynhawn yma clywsom gan y Prif Weinidog nad oedd yn gwybod dim am y tor diogelwch data hwnnw tan 2 o'r gloch brynhawn ddoe, pan gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hynny i'r cyhoedd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf roedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod ar 2 Medi am y data hwn a ryddhawyd, a'ch bod chi fel Gweinidog wedi cael gwybod ar 3 Medi. A wnewch chi roi gwybod i'r Cynulliad heddiw am yr amserlen pan oedd yr wybodaeth hon ar gael ichi, a pham y cadwoch yr wybodaeth honno yn hytrach na'i rhannu â chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth? Neu a fu i chi ei rannu â chydweithwyr eraill yn y Llywodraeth, ond nid â'r Prif Weinidog? Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio pan fydd anghysondeb o'r fath—ac mae'n anghysondeb, rwy'n derbyn, y toriad data, ond mae'n anghysondeb difrifol o 18,000 o enwau'n ymddangos ar wefan gyhoeddus, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau'n ffyddiog.
Yn ail, a wnewch chi amlygu sut y bydd y cynllun hwn yn dechrau mynd i'r afael â'r broblem o ymdrin â'r rhestrau aros sydd wedi cronni dros fisoedd yr haf? Oherwydd mae'n hollbwysig i ni wneud cynnydd yn y maes penodol hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi pan ddywedwch ei fod yn gyfnod cythryblus iawn pan fo gennych chi COVID ac amseroedd aros a phwysau arferol y gaeaf, ond mae'n bwysig y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd rhai o'r amseroedd aros hyn yn lleihau.
Yn drydydd, o ran y rhaglen brechu rhag y ffliw, a allwch chi ddweud a oes digon o ddosau ar gael i fodloni gofynion y rhaglen brechu rhag y ffliw yr ydych chi wedi'i rhoi ger ein bron? Gan fod carfan newydd o unigolion wedi'i chyflwyno i'r cynllun, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae trafodaethau eto i'w cynnal gyda'r cwmnïau fferyllol i sicrhau digon o ddosau i sicrhau bod digon o frechlyn ffliw ar gael yn y wlad.
Yn bedwerydd, mae'n hanfodol ein bod yn deall y cymorth sydd ei angen ar y staff, mewn lleoliadau cymdeithasol ac mewn lleoliadau iechyd. A ydych yn ffyddiog y bydd y cynllun hwn yr ydych chi wedi'i roi ger ein bron heddiw i ymateb i bwysau'r gaeaf yn diwallu anghenion staff mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a gofal iechyd, fel y gallan nhw deimlo eu bod yn y pendraw yn cael eu cefnogi, boed hynny o ran cyfarpar diogelu personol neu o ran sicrhau y gallan nhw wneud y penderfyniadau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r amgylchiadau sy'n eu hwynebu yn eu hardaloedd eu hunain?
Yn olaf, a wnewch chi amlygu i mi'n benodol—oherwydd y mae'n bryder a gyflwynwyd i mi ynghylch gwasanaethau deintyddol—sut y bydd y cynllun hwn yn mynd i'r afael â'r problemau cronig y mae'r gwasanaeth deintyddol yn y wlad hon yn eu hwynebu ar hyn o bryd, wrth ddychwelyd mor agos at y drefn arferol ag sy'n bosibl, er mai trefn arferol newydd fydd yn ein hwynebu oherwydd rheoliadau COVID?