Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch. Rydym ni wedi cael un siaradwr o bob un o'r pleidiau, ac a gaf i wneud apêl eto? Mae gennyf bedwar siaradwr ac mae'n fater i'r tri siaradwr cyn y siaradwr olaf yn llwyr i gadw at funud—gan gynnwys y Gweinidog gyda'i atebion—ac yna caiff y pedwerydd person ei alw ac, os na ellir galw'r pedwerydd person, yna mae'n ddrwg gennyf; bydd rhaid i'r pedwerydd person drafod hynny gyda'r rheini ohonoch chi a oedd o'i flaen. Vikki Howells.