Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch, Llywydd. Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd. Fel y gwelsom ni yn ddiweddar, mae'n dal i achosi heriau mawr i bob un ohonom ni ac yn arbennig i'n hawdurdodau lleol.
Hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi bod mor ymatebol wrth dorchi llewys i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Rydym ni wedi gweld ymgysylltu a chyd-gynhyrchu fel na welsom ni erioed o'r blaen; y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn gweithio law yn llaw i gefnogi ein dinasyddion a'n cymunedau, yn enwedig y rhai a oedd fwyaf agored i niwed—dull unigryw Gymreig lle gallai arweinwyr llywodraeth leol fynd at y Gweinidogion ynghylch y materion a oedd o bwys gwirioneddol, pan roedd hynny'n bwysig. Rydym ni wedi ymrwymo cyllid sylweddol i lywodraeth leol. Mae cronfa galedi llywodraeth leol yn darparu bron iawn £0.5 biliwn i gefnogi awdurdodau i ymateb i effeithiau'r pandemig. Hoffwn ddiolch i CLlLC, y cyngor partneriaeth a Chymdeithas Trysoryddion Cymru am eu gwaith parhaus gyda ni i alluogi gwasanaethau i barhau i redeg, addasu a diwallu anghenion poblogaethau lleol.
Ar gyfer y dyfodol, bwriadwn roi ein system a'n strwythurau partneriaeth gymdeithasol sefydledig ar sail statudol, cryfhau trefniadau ymhellach a chefnogi trafodaethau adeiladol gyda'n partneriaid cymdeithasol ar gyfer y dyfodol y mae ar Gymru ei eisiau ar ôl COVID-19. Un o flaenoriaethau'r dyfodol hwnnw yw atal digartrefedd a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Ar ddechrau'r pandemig, aethom ati ar unwaith i amddiffyn y rhai a oedd yn ddigartref, gan ddarparu £10 miliwn o gyllid ychwanegol, i sicrhau na adawyd neb heb lety. Rhoddwyd cymorth i dros 2,200 o bobl gael llety dros dro neu mewn argyfwng—cyflawniad enfawr. Ond mae heriau o'n blaenau. Rwyf wedi'i gwneud hi'n gwbl glir nad wyf eisiau gweld neb yn cael ei orfodi'n ôl ar y strydoedd.
I'r perwyl hwn, ym mis Mai, cyhoeddais gam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd. Cyflwynodd pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru geisiadau, yn nodi sut y byddant yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r strydoedd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu, i drawsnewid y llety a gynigir ledled Cymru. Roedd gor-alw sylweddol am gymorth o'r gronfa arian cyfalaf wreiddiol yn adlewyrchu maint yr uchelgais i sicrhau newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Dangosodd yn eithaf amlwg hefyd nad oedd y gronfa gychwynnol o £10.5 miliwn o gyfalaf yn cyd-fynd â'r uchelgais yr ydym ni i gyd yn ei rhannu. Felly, cynyddais yn sylweddol yr arian cyfalaf cyffredinol sydd ar gael i £50 miliwn, gan ddangos ein hymrwymiad i wneud newid sylweddol a gwirioneddol drawsffurfiol o ran cyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym ni wedi dyrannu cyllid dros dro i 70 o brosiectau cyfalaf, gan gefnogi pobl i gael llety sefydlog neu drawsnewid gwasanaethau ar gyfer y tymor hir.
Eto o ran tai, rwy'n croesawu atal troi pobl allan tan 20 Medi, ac rwy'n hapus iawn fod y llys wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod effeithiau'r pandemig yn cael eu hystyried. Gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael imi dan Ddeddf Coronafeirws 2020, rwyf wedi gweithredu i roi amddiffyniad ychwanegol i bobl sy'n rhentu drwy gynyddu cyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan i chwe mis, ac eithrio o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau tebyg ers hynny. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i amddiffyn rhentwyr gan liniaru effeithiau ar landlordiaid ar yr un pryd. Felly, bwriadaf wneud rheoliadau sy'n ymestyn yr amddiffyniadau presennol tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Ar yr un pryd, ac i gydnabod yr angen i fynd i'r afael ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gymunedau ac ymddygiad negyddol arall mewn modd amserol, bwriadaf leihau'r cyfnodau rhybudd lle mae sail i feddiannu eiddo oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig i'r sefyllfa oedd yn bodoli cyn COVID. Lle mae ôl-ddyledion rhent wedi cronni oherwydd COVID-19, bydd tenantiaid y sector rhentu preifat yn gallu gwneud cais am fenthyciad drwy'r cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth cyn bo hir pan fydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach y mis hwn. Rydym ni hefyd wedi darparu £1.4 miliwn ychwanegol i hybu gwasanaethau sy'n helpu pobl yng Nghymru i reoli dyledion problemus a gwella incwm eu haelwydydd.
Gan edrych y tu hwnt i'r pandemig, rydym yn parhau â'n Bil i ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i gynyddu sicrwydd deiliadaeth. Mae'r Bil yn ymestyn y cyfnod rhybudd dim bai o ddau i chwe mis, a bydd landlordiaid yn cael eu hatal rhag cyflwyno hysbysiad dim bai tan o leiaf chwe mis o'r dyddiad meddiannaeth. Mae hyn yn golygu y bydd gan y rhai sy'n rhentu eu cartrefi o leiaf 12 mis o sicrwydd deiliadaeth o ddechrau eu contract, sy'n golygu y bydd sicrwydd deiliadaeth yng Nghymru yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae canlyniadau'r pandemig yn bellgyrhaeddol, ac, yn anffodus, bydd effaith economaidd COVID-19 yn golygu cynnydd sylweddol mewn tlodi. Cyn argyfwng COVID-19, comisiynais adolygiad tlodi plant, a oedd yn ceisio archwilio beth arall y gellid ei wneud i wella amgylchiadau i blant a phobl ifanc. Mae'r pandemig wedi cael effeithiau mor bellgyrhaeddol ar fywydau pobl yng Nghymru a'n heconomi, credwn nad yw canfyddiadau'r adolygiad hwnnw bellach yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yn llawn. Mae camau ymarferol i helpu i liniaru effaith yr argyfwng ar deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn fater brys ac angenrheidiol ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl a rhoi cymorth i deuluoedd i feithrin cydnerthedd ariannol. Rydym yn cydweithio â'n rhanddeiliaid i ddatblygu'r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod rhai o'r buddion y mae awdurdodau lleol yn eu cynnig megis prydau ysgol am ddim a gostyngiad yn y dreth gyngor yn fwy hygyrch, yn ogystal â helpu i wneud y weinyddiaeth yn symlach ac yn llai dwys o ran adnoddau i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn datblygu dull 'dim ffordd anghywir' drwy system gymorth fwy integredig, gan gyfyngu ar sawl gwaith y mae'n rhaid i deuluoedd ac unigolion gysylltu a sawl gwaith y mae'n rhaid iddyn nhw ddweud eu stori er mwyn cael cymorth. A byddwn yn sicrhau bod gan y trydydd sector a gweithwyr rheng flaen eraill yr hyfforddiant, yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi unigolion a theuluoedd i gynyddu eu hincwm i'r eithaf.
Hoffwn orffen, Llywydd, drwy sôn am rai meysydd eraill a oedd yn sail i'n hymateb i'r pandemig ac a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaethau wrth inni symud ymlaen. Diolch i awdurdodau lleol yn cynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym ni wedi gallu parhau i gyflawni amcanion ailgylchu a chamau gweithredu ar ddatgarboneiddio. Rydym yn parhau i gefnogi cymunedau ac eisiau adfywio canol trefi ac ehangu ar y twf mewn caffis trwsio a siopau diwastraff. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi dyfarnu cyllid i Gaffi Trwsio Cymru ac wedi darparu cyllid ychwanegol i FareShare Cymru ehangu eu darpariaeth ailddosbarthu bwyd dros ben. Ac yn olaf, rydym ni wedi ehangu'r gronfa economi gylchol fel y gall gefnogi'r ymateb i'r amgylchiadau ar ôl COVID, a chyfrannu at adferiad gwyrdd. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, ond rydym ni wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd. Bydd y cydweithio hwn yn darparu gwersi clir a llawer iawn o arferion da y gallwn ni ac y dylem ni eu mabwysiadu wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.