Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch, Weinidog, am y datganiad, a dwi yn cydnabod y gwaith helaeth rydych chi a'ch tîm wedi ei wneud ar hyn dros y misoedd diwethaf. Rwy'n credu bod y pandemig wedi gwneud i nifer o bobl sylweddoli bod angen uwchraddio'r hawl i gartref fod yn fater o hawl ddynol a bod digartrefedd yn rhywbeth sy'n niweidio pawb o fewn cymdeithas. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i geisio atal unrhyw un rhag dychwelyd i'r strydoedd, ond mae'ch datganiad yn cyfeirio at roi pobl mewn llety dros dro mewn rhai llefydd er mwyn cyflawni hyn, pan mae'n glir bod angen datrysiad tymor hir. Dwi'n gwybod eich bod chi eisiau cael datrysiad tymor hir i hyn, ond mae gen i rywfaint o bryder bod brys o ran symud rhai pobl oddi ar y strydoedd wedi arwain at ddefnyddio cyfleusterau amhriodol mewn rhai achosion. Er enghraifft, rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd o bobl, yn dilyn perthynas niweidiol, yn cael eu rhoi mewn llety brys gyda phobl oedd â phroblemau o ran cam-drin cyffuriau. Yn amlwg, doedd hynny ddim yn sefyllfa dda i neb, felly byddwn yn gofyn ichi edrych eto ar yr opsiynau sydd gan gynghorau er mwyn sicrhau bod llety priodol ar gael i bawb. Dwi yn gweld bod nifer o gynghorwyr wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hyn dros y misoedd diwethaf. Yn ogystal, buaswn i'n hoffi gweld llwybr i sicrhau bod llety brys ond yn cael ei ddefnyddio dros dro a bod gennym atebion tymor hir ar gyfer pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref.
Nawr, i droi at y manylion o ran ehangu'r mesurau 'no evictions' sydd yn y datganiad, rŷn ni'n croesawu ehangu hyn, ond mae gen i bryder o ran y cynnig i leihau'r cyfnod hysbysu ar gyfer ymddygiad sydd yn wrthgymdeithasol a cham-drin domestig. A allwch chi roi sicrwydd inni, plis, mai'r flaenoriaeth yn yr achos hwn fydd gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu troi allan yn cael llety arall a'u bod nhw'n cael help gyda'r problemau sydd ganddyn nhw? Wrth gwrs, mae hyn yn fater cymhleth, dwi'n gweld hynna, ac mae nifer o asiantaethau yn mynd i fod yn ymwneud ag ef, ond dyma'r achosion mwyaf cymhleth sydd angen y mwyaf o gymorth hefyd.
Rwyf eisiau hefyd sicrwydd o ran y fenter arbed benthyciadau i denantiaid, os taw dyna'r cyfieithiad cywir. Dwi ddim yn siŵr y bydd cynyddu dyledion pobl sy'n debygol o ffeindio eu hunain mewn sefyllfa letchwith, efallai, yn ariannol, am flynyddoedd efallai, wir yn datrys y broblem. Onid yw'n annheg bod landlordiaid nawr yn cael bail-outs, mewn ffordd, gan y Llywodraeth, pan dyw llawer o sectorau ddim? Felly, hoffwn i wybod pa fesurau diogelwch sydd mewn lle i sicrhau nad ydy rhai landlordiaid yn cymryd mantais o'r fenter hon, dim ond i daflu tenantiaid mas unwaith mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi.
I gloi, hoffwn nodi mater sydd ddim yn cael ei drin yma y buaswn i wedi hoffi ei weld yn y datganiad, sef y diffyg tai cymdeithasol a diffyg tai fforddiadwy. Ydyn, mae'r niferoedd craidd yn cynyddu, ond maen nhw'n disgyn yn fyr iawn o beth sydd ei angen. Yr eliffant yn yr ystafell, os dwi'n gallu dweud hynny yn Gymraeg, yw'r ffaith bod gennym system gynllunio sydd â sicrwydd o elw wedi ei adeiladu i mewn iddi. Hynny yw, gall ddatblygwyr ddefnyddio'r Arolygiaeth Gynllunio i atal awdurdodau lleol rhag cael eu siâr haeddiannol o dai fforddiadwy mewn datblygiadau. Nid yw eich Llywodraeth wedi mynd i'r afael â hyn. Felly, a allwch chi ddweud pryd y byddwch chi'n yn gwneud i ffwrdd gyda'r gallu sydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ganiatáu datblygiadau sydd heb gyfran ddigonol o dai fforddiadwy? Pryd fyddwch yn gwneud i ffwrdd gyda'r hawl iddo fe wneud hynny? Diolch.