Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Allaf i ddechrau drwy hefyd ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Nawr, wrth gwrs, mae mater Mesur y farchnad fewnol yn hynod, hynod ddyrys ac, yn wir, yn peryglu holl fodolaeth Cymru. Mae'n siom enbyd bod y fath Fesur yn gweld wyneb dydd. Y pictiwr mawr, wrth gwrs, ydy ei bod hi'n anghyfrifol tu hwnt i unrhyw Lywodraeth yrru ymlaen efo'r agenda Brexit tra bod pandemig COVID yn dal i fod yn gymaint o fygythiad i'n gwlad ac i'n pobl, ond dwi'n deall mai dadl arall ydy honno, sbo, ac a gaf i fanylu ar y Mesur yma sydd gerbron?
Nawr, yn nhermau cydadnabyddiaeth, fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod yna beryg bod ein pwerau i ddeddfu yma yn y Senedd yn cael eu cyfyngu os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno efo'n bwriad ni? Dywedasoch chi fod pethau'n bellgyrhaeddol. Dwi'n ddigon hen i gofio'r dadleuon i newid y Ddeddf i wahardd ysmygu yn dechrau yma yng Nghymru, yn y Cynulliad fel yr oedd e, yn y flwyddyn 2000, yng ngwyneb gwrthwynebiad clir Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pryd. Heb ddatganoli, gellid dadlau na fyddai'r gwaharddiad ar ysmygu erioed wedi digwydd, felly hefyd mesurau fel presgripsiynau am ddim a newid y system rhoi organau—newid cyfraith yn fan hyn yng Nghymru yng ngwyneb gwrthwynebiad llwyr ar y pryd o ochr Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, allaf i ofyn: pa obaith i Gymru allu deddfu o'r newydd i Gymru yn y dyfodol os nad ydy San Steffan yn cytuno? Ac a fydd yn rhaid inni dderbyn safonau is i'n bwydydd—cyw iâr clorinedig, unrhyw un? Ac a oes yna amddiffyniad yn erbyn preifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol? Dyna beth mae'r ddadl yma ynglŷn ag e—nid rhywbeth sych ynglŷn â'r cyfansoddiad a phwerau, ond rhywbeth fyddai'n effeithio ar bobl bob dydd.
Nawr, yn nhermau Rhan 6 o'r Bil, y pwerau cymorth cyllidol, dwi'n clywed beth y dywedasoch chi, a hefyd ro'n i'n gwrando—roedd yn rhaid imi wrando—ar eiriau Darren Millar. Yn nhermau Rhan 6, mae'n edrych fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael rhwydd hynt i wario ar brosiectau mewn meysydd datganoledig, fel dŷch chi wedi'i ddweud, ac o gofio bod isadeiledd dŵr wedi ei gynnwys yn y Rhan yma, dyna gynyddu pŵer San Steffan a lleihau pwerau'r Senedd yma a gwneud y posibilrwydd real o Dryweryn arall—boddi cwm arall yn erbyn dymuniadau pobl Cymru. Cofiwch Dryweryn, yn wir. Allaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol: fyddwch chi'n cytuno na ddylid colli pwerau o fan hyn heb gydsyniad y Senedd hon?
Ac i gloi—dwi'n sylweddoli'r amser, Dirprwy Lywydd—a ydych chi'n cytuno, Cwnsler Cyffredinol, taw annibyniaeth i Gymru ydy'r unig ffordd nawr i ddiogelu Cymru fel endid gwleidyddol, neu ynteu ysgrifennu llythyr arall i gwyno a pharhau i ddioddef cael ein sathru fel cenedl?