– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 15 Medi 2020.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd—Bil marchnad fewnol y DU—a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dydd Mercher diweddaf, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei Bil ar y farchnad fewnol, dim ond wyth wythnos ar ôl cyhoeddi Papur Gwyn a oedd yn honni y byddai'n ymgynghori ar gynigion y Bil. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae ei dadansoddiad ohonyn nhw yn simsan, a dweud y lleiaf. Ond rydyn ni'n gwybod nad y Llywodraethau datganoledig yn unig a gwestiynodd yr angen am ddeddfwriaeth, a chwestiynu rhagdybiaethau'r Papur Gwyn. Roedd sefydliadau fel NFU Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg ymysg y rhai o Gymru a ymatebodd yn feirniadol. Byddai Llywodraeth sydd â hyder yn ei seiliau ar gyfer deddfwriaeth mor bellgyrhaeddol a dadleuol â hyn, does bosib, yn cyhoeddi'r ymatebion y mae wedi'u cael.
Bydd dadl gwrthblaid ar Fil y farchnad fewnol yn cael ei chynnal yfory, felly heddiw byddaf yn amlinellu'r ffeithiau sy'n sail i'r pryderon difrifol sydd gennym. O'r dechrau, hoffwn i bwysleisio nad ydyn ni'n gwrthwynebu'r nod o sicrhau y gall marchnad fewnol y Deyrnas Gyfunol weithio'n esmwyth ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Yn wir, roedden ni ymysg y cyntaf i dynnu sylw at y ffaith y byddai angen inni ddatblygu ffordd newydd o lywodraethu ar y cyd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn rheoli'r berthynas rhwng cymwyseddau datganoledig a'r farchnad fewnol.
Am dair blynedd, rŷn ni wedi gweithio'n ddiflino ar fframweithiau cyffredin ym mhob un o'r meysydd a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel rhai a allai gynnwys rhwystrau diangen i greu'r farchnad fewnol. Bellach, mae'r gwaith hwn yn dod tua'i derfyn, ac nid oes yr un enghraifft wedi bod o fethiant llwyr, nac o un Llywodraeth yn atal cynnydd, yn unrhyw un o'r 28 o fframweithiau y mae Cymru'n ymwneud â nhw. Ac eto, mae'r Bil, i bob pwrpas, yn tanseilio'r gwaith hwn drwy ddarparu, i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ffordd o erydu hawl y Senedd hon i reoleiddio o fewn y meysydd hynny o gymhwysedd datganoledig fel y gwêl orau.
Byddai Rhannau 1 a 2 o'r Bil yn gorfodi egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu yn achos bron yr holl nwyddau a gwasanaethau sy'n tarddu o, neu sy'n cael eu mewnforio'n gyfreithlon i, unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol, sy'n cael eu diffinio'n achos dim gwahaniaethu fel nwyddau hyd yn oed sy'n 'pasio drwodd'. I roi enghraifft i chi, er y gallwn ni barhau â'n bwriad i wahardd naw math o blastig untro yng Nghymru os cafodd ei gynhyrchu yng Nghymru neu ei fewnforio i Gymru, ni fydden ni'n gallu atal nwyddau o'r fath a gafodd eu cynhyrchu neu eu mewnforio i Loegr neu'r Alban rhag cael eu gwerthu yng Nghymru os oedd modd eu gwerthu'n gyfreithlon yno. Mae'n ymddangos, hefyd, y byddai'n anghyfreithlon mynnu i labeli dynnu ein sylw ni at eu heffaith niweidiol ar yr amgylchedd. Er nad yw hyn yn atal y Senedd yn benodol rhag arfer ei phwerau, mae'n eu gwneud yn ddiystyr, o gofio bod y mwyafrif helaeth o nwyddau sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru yn dod o rannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, neu'n pasio drwyddyn nhw.
Er nad yw'r rhan hon o'r Bil i fod yn gwneud dim mwy na disodli cymhwysiad yr un egwyddorion yng nghyfraith yr UE, nid yw'r cynigion crai yn y Bil yn cynnwys dim o'r amddiffyniadau—o sybsidiaredd, cymesuredd ac eithriadau polisi cyhoeddus sylweddol—sy'n berthnasol yn y dull y mae'n ceisio ei efelychu. Yn hollbwysig, nid yw'n darparu terfyn safonau, a fu'n sylfaen i'r ymwahanu ledled y DU yn ystod cyfnod datganoli. Mae Rhan 3 yn ceisio gosod yr un dull o ymdrin â chymwysterau proffesiynol, er, o ddatgan fy muddiant fel cyfreithiwr, fy mod i'n sylweddoli bod y proffesiwn cyfreithiol ei hun wedi'i eithrio. Ond, fel cyfreithiwr eto, gallaf dynnu sylw hefyd at y ffaith bod hwn yn ddarn cymhleth o ddrafftio a fydd hefyd yn rhoi llawenydd i gyfreithwyr ledled y wlad. Nid ydym yn glir eto a fyddai hyn mewn gwirionedd yn ei gwneud yn amhosibl atal athrawon o rannau eraill o'r DU nad oes ganddynt y cymwysterau a'r profiad sy'n ofynnol gan ein deddfwriaeth ni rhag cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i addysgu yng Nghymru, ond gallai glymu'r cyngor hwnnw yn glymau cyfreithiol am flynyddoedd i ddod.
Mae Rhan 4 o'r Bil yn rhoi swyddogaeth newydd i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o ran darparu Swyddfa'r Farchnad Fewnol. Mae'r swyddogaethau a gynigir ar gyfer y swyddfa hon yn rhai y gallem eu cymeradwyo'n gyffredinol, ond mae'n gwbl amhriodol mai adran anweinidogol o Lywodraeth y DU, y mae ei phrif swyddogaethau'n ymwneud â materion a gadwyd yn ôl yn llwyr, sy'n cael y swyddogaeth hon heb ddiwygio ei threfniadau llywodraethu'n helaeth.
Mae Rhan 5 o'r Bil yn ymwneud â phrotocol Gogledd Iwerddon. Mae braidd yn rhyfedd, yn ddigynsail mae'n debyg, fy ngweld fy hun ar yr un ochr i unrhyw ddadl ag Arglwyddi Howard a Lamont, ond bydd hynny'n dweud wrthych mor eang yw'r ystod o leisiau y mae'r rhan hon o'r Bil yn gwbl wrthun iddyn nhw. Bydd unrhyw un sy'n credu ym mhwysigrwydd rheolaeth y gyfraith, a phwysigrwydd cadw at gytundebau cyfreithiol yr ydych wedi ymrwymo iddynt yn rhwydd, hyd yn oed yn syml i sicrhau y bydd pleidiau eraill yn y dyfodol yn barod i wneud cytundebau â chi, yn arswydo y gallai Llywodraeth gynnig pwerau gweinidogol sy'n diystyru cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol mewn modd mor uniongyrchol. Mae'r darpariaethau yn y Rhan hon hefyd yn gwaethygu bygythiad posibl i borthladdoedd Cymru drwy gymell trefniadau cludo nwyddau o ynys Iwerddon i ddefnyddio llwybrau fferi o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.
Mae Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU, am y tro cyntaf yn yr 21 mlynedd ers datganoli, ariannu gweithgareddau mewn meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru—nid ym maes datblygu economaidd yn unig, ond ym maes iechyd, tai, seilwaith addysgol, chwaraeon a diwylliant. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch un peth: mae Llywodraeth yn San Steffan sy'n ceisio'r pŵer i wario mewn meysydd datganoledig a'r pŵer i reoli'r cyllid sydd ar gael, yn Llywodraeth sy'n ceisio torri ar ddatganoli. Ac mae'n amlwg bod Llywodraeth sydd wedi methu mor helaeth â buddsoddi yng Nghymru mewn cysylltiad â'r pethau y mae'n gyfrifol amdanyn nhw eisoes—rheilffyrdd, band eang, y morlyn llanw, ynni ar raddfa fawr—yn amlwg yn bwriadu ariannu ei blaenoriaethau ei hun drwy frigdorri'r gyllideb y mae'r Senedd hon yn ei rheoli ar hyn o bryd, a'n gadael â hyd yn oed llai o gyfle a hyblygrwydd i ddiwallu anghenion pobl Cymru yr ydym wedi ein hethol i'w gwasanaethu.
Mae Rhan 7 o'r Bil yn newid yn glir y setliad datganoli yn benodol drwy ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o faterion a gadwyd yn ôl. Dirprwy Lywydd, mae diddordeb y Llywodraeth Geidwadol hon mewn cymorth gwladwriaethol yn ei harwain at fentro aberthu cytundeb masnach rydd â'r UE a heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ond, yn amlwg, y bwriad yma yw ein cau ni allan rhag cyd-greu cyfundrefn cymorth gwladwriaethol gadarn ar gyfer y DU gyfan, ac mae'n fygythiad sylweddol i fusnesau Cymru.
Yn olaf, mae Rhan 8 o'r Bil yn cynnwys y cynnig i wneud y Bil cyfan yn ddeddfiad gwarchodedig, na all y Senedd hon ei ddiwygio hyd yn oed pan fydd yn effeithio, fel y mae'n sicr o wneud, ar faterion datganoledig—pŵer y dylid ei ddefnyddio'n gynnil siawns ond sydd wedi'i ddefnyddio mwy o weithiau yn y tair blynedd diwethaf nag yn y 18 mlynedd flaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi'i ystyried yn wael ac sy'n niweidiol iawn. Byddwn yn gweithio gyda gwleidyddion o bob plaid a heb blaid yn y Senedd i sicrhau, oni chaiff ei ailwampio drwy welliant, nad yw'r Bil hwn yn mynd ar y llyfr statud. Rydym wedi cynnig cynigion amgen adeiladol. Byddai Llywodraeth ddoeth yn San Steffan yn edrych arnyn nhw o'r newydd.
Diolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad, er bod ei glywed o'i wefusau cynddrwg ag yr oedd pan groesodd fy nesg yn gynharach heddiw. Ni ddylai fod yn syndod i Aelodau Senedd Cymru na phobl Cymru bod Llywodraeth Cymru yn ceisio tanseilio ymdrechion Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid i bobl y Deyrnas Unedig y byddai'n cynnal ac yn cryfhau uniondeb a gweithrediad llyfn marchnad fewnol y DU.
Fel y gwyddoch, Gweinidog, mae'r Bil hwn yn darparu fframwaith ar gyfer trosglwyddo pwerau'r Undeb Ewropeaidd yn drefnus yn ôl o Frwsel i'r Deyrnas Unedig. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu ac mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ei groesawu. Rydych chi wedi brandio'r Bil hwn droeon fel ymgais i gipio pŵer, ac mae nifer o bobl eraill wedi ceisio cyflwyno hyn fel cipio pŵer. Efallai y gallwch chi fod yn benodol, Gweinidog, heddiw, a dweud wrthyf pa bwerau y bydd y Bil hwn yn eu trosglwyddo o Senedd Cymru, oherwydd y realiti amdani yw nad oes unrhyw rai'n cael eu trosglwyddo i ffwrdd o Senedd Cymru. Mae'r realiti ymhell o fod yn wir. Onid yw'r Bil hwn, ymhell o fod yn ymgais i gipio pŵer, yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r pwerau hynny'n drefnus o'r UE i'r Deyrnas Unedig? Ac, mewn gwirionedd, mae ugeiniau o bwerau newydd a fydd yn cael eu rhoi i'r Senedd hon, wedi'u trosglwyddo'n uniongyrchol o Frwsel i Senedd Cymru ac, yn wir, i'r deddfwrfeydd datganoledig eraill. A bydd y pwerau nad ydyn nhw'n cael eu trosglwyddo i'r lle hwn yn cael eu trosglwyddo, a hynny'n gwbl briodol, i Lywodraeth y DU a Senedd y DU yn unol â dymuniadau pobl Prydain a phobl Cymru yn refferendwm Brexit. Nawr, a wnewch chi ddweud wrth bobl Cymru pam yr ydych yn gwrthwynebu bod Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn dal y pwerau hyn pan na wnaethoch wrthwynebu bod Senedd Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd a'r bobl ym Mrwsel yn dal y pwerau hyn? Pam mae Llywodraeth Cymru mor bryderus ynghylch Llywodraeth a Senedd y DU yn gosod rheolau o ran cymorth gwladwriaethol, ond nid oedd yn ymddangos bod gennych unrhyw broblem ynghylch y rheolau hynny'n cael eu gosod ym Mrwsel?
Yn yr un modd, pam mae gan Lywodraeth Cymru broblem gyda Rhan 6 o'r Bil? Rydych chi wedi awgrymu bod hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhyw fath o frigdorri grant bloc Cymru er mwyn cefnogi blaenoriaethau gwario Llywodraeth y DU, ond wrth gwrs rydych chi'n gwybod bod hyn yn nonsens llwyr. Nid oes dim tystiolaeth i gefnogi eich honiad. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl glir y bydd unrhyw wariant yn ychwanegol at symiau canlyniadol Barnett a gawn yma yng Nghymru nid yn cael ei dynnu ohonyn nhw—yn ychwanegol. Nawr, nid wyf i'n gwybod amdanoch chi ond byddwn i'n croesawu unrhyw beth sy'n ychwanegol at Barnett, ac rwy'n credu y dylech chi fod yn ei groesawu hefyd. Ni allaf gredu eich bod yn gwrthod cynnig a allai ddod ag adnoddau ychwanegol sylweddol i Gymru o ganlyniad i'r darn hwn o ddeddfwriaeth.
Ac, wrth gwrs, nid yw'r Bil mewn gwirionedd yn torri cyfraith ryngwladol na domestig. Mewn gwirionedd, mae'n darparu rhwyd ddiogelwch—rhwyd ddiogelwch—y gall y DU syrthio'n ôl arni pe byddai'r UE yn parhau i geisio rhannu'r Deyrnas Unedig drwy greu ffin tariff rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhywbeth sydd wrth gwrs yn gwbl annerbyniol ac yn mynd yn groes i'r ymrwymiad y mae'r UE eisoes wedi'i roi yn erthygl 4 o brotocol Gogledd Iwerddon, sy'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth tollau'r Deyrnas Unedig.
A ydych yn derbyn mai dyna y mae erthygl 4 o brotocol Gogledd Iwerddon yn ei ddweud mewn gwirionedd? Ac os felly, oni fyddwch yn cydnabod bod y Bil hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod hynny'n parhau i fod yn wir y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod pontio?
Wel, roedd honna'n araith eithaf neilltuol, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi clywed cyfres o ffuglen wedi'i phwytho at ei gilydd gan oportiwnistiaeth wleidyddol lwyr. Rwy'n cytuno â David Melding ar hyn—ni fyddai'r blaid y mae'r Ceidwadwyr yn honni ei bod, sy'n credu yn yr undeb, hyd yn oed yn dechrau cyflwyno deddfwriaeth fel hon yn y Senedd—ac rwy'n ei edmygu am ei safbwynt ar egwyddor y mae wedi'i gyflwyno yn y lle hwn mewn ymateb i'r gyfres warthus hon o gynigion.
Y ffuglen gyntaf yw bod gennym ni bwerau newydd yn y Senedd o ganlyniad i'r Bil hwn. Rwyf wedi gofyn i'r Aelodau fy nghyfeirio i'r rhan o'r Bil sy'n rhoi'r pwerau hynny i ni. Nid yw'n bodoli. Rydym ni'n gwybod, Dirprwy Lywydd, mai'r setliad datganoli, y ddeddfwriaeth ddatganoli, yw'r hyn sy'n gwella pwerau'r Senedd hon o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd; nid y Bil hwn.
Y rheswm y mae'r Bil hwn yn bodoli, fel yr wyf i'n credu ein bod ni ar ddeall o'r araith a roddodd Alun Cairns yn y Senedd neithiwr, yw nad yw'r Ceidwadwyr, i bob pwrpas, meddai, yn hoffi'r Llywodraeth y mae pobl Cymru wedi pleidleisio amdani. Dyna sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon. Nid ydyn nhw'n hoffi sut y mae pethau yn cael eu gwneud yng Nghymru. Felly, mae unrhyw ffuglen sy'n dweud bod hwn yn ymarfer democrataidd wedi ei chwalu, yn fy marn i, gan y sylw hwnnw.
Ac rwy'n credu bod y syniad hwn bod y rhain yn bwerau a gafodd eu harfer gan fiwrocratiaid ym Mrwsel yn flaenorol—. Rwy'n deall bod honno'n llinell gyfleus i gefnogwr Brexit, ond, mewn gwirionedd, mae adran 46 yn deddfu i gymryd pwerau sy'n bodoli eisoes. Mae'r pwerau hyn i wario yng Nghymru yn bodoli eisoes; maen nhw'n bwerau Llywodraeth Cymru, a'r rheswm y maen nhw wedi eu cynnwys yn y Bil hwnnw yw galluogi Llywodraeth y DU i gipio rheolaeth dros y gyllideb, gwariant a seilwaith yng Nghymru. Ac mae'r syniad y dylem ni dderbyn gair y Llywodraeth hon mewn cysylltiad â chyllidebau yn y dyfodol, pan fo'n deddfu i dorri cytundeb rhyngwladol, yn gwbl chwerthinllyd yn fy marn i.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Allaf i ddechrau drwy hefyd ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Nawr, wrth gwrs, mae mater Mesur y farchnad fewnol yn hynod, hynod ddyrys ac, yn wir, yn peryglu holl fodolaeth Cymru. Mae'n siom enbyd bod y fath Fesur yn gweld wyneb dydd. Y pictiwr mawr, wrth gwrs, ydy ei bod hi'n anghyfrifol tu hwnt i unrhyw Lywodraeth yrru ymlaen efo'r agenda Brexit tra bod pandemig COVID yn dal i fod yn gymaint o fygythiad i'n gwlad ac i'n pobl, ond dwi'n deall mai dadl arall ydy honno, sbo, ac a gaf i fanylu ar y Mesur yma sydd gerbron?
Nawr, yn nhermau cydadnabyddiaeth, fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod yna beryg bod ein pwerau i ddeddfu yma yn y Senedd yn cael eu cyfyngu os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno efo'n bwriad ni? Dywedasoch chi fod pethau'n bellgyrhaeddol. Dwi'n ddigon hen i gofio'r dadleuon i newid y Ddeddf i wahardd ysmygu yn dechrau yma yng Nghymru, yn y Cynulliad fel yr oedd e, yn y flwyddyn 2000, yng ngwyneb gwrthwynebiad clir Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pryd. Heb ddatganoli, gellid dadlau na fyddai'r gwaharddiad ar ysmygu erioed wedi digwydd, felly hefyd mesurau fel presgripsiynau am ddim a newid y system rhoi organau—newid cyfraith yn fan hyn yng Nghymru yng ngwyneb gwrthwynebiad llwyr ar y pryd o ochr Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, allaf i ofyn: pa obaith i Gymru allu deddfu o'r newydd i Gymru yn y dyfodol os nad ydy San Steffan yn cytuno? Ac a fydd yn rhaid inni dderbyn safonau is i'n bwydydd—cyw iâr clorinedig, unrhyw un? Ac a oes yna amddiffyniad yn erbyn preifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol? Dyna beth mae'r ddadl yma ynglŷn ag e—nid rhywbeth sych ynglŷn â'r cyfansoddiad a phwerau, ond rhywbeth fyddai'n effeithio ar bobl bob dydd.
Nawr, yn nhermau Rhan 6 o'r Bil, y pwerau cymorth cyllidol, dwi'n clywed beth y dywedasoch chi, a hefyd ro'n i'n gwrando—roedd yn rhaid imi wrando—ar eiriau Darren Millar. Yn nhermau Rhan 6, mae'n edrych fel bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael rhwydd hynt i wario ar brosiectau mewn meysydd datganoledig, fel dŷch chi wedi'i ddweud, ac o gofio bod isadeiledd dŵr wedi ei gynnwys yn y Rhan yma, dyna gynyddu pŵer San Steffan a lleihau pwerau'r Senedd yma a gwneud y posibilrwydd real o Dryweryn arall—boddi cwm arall yn erbyn dymuniadau pobl Cymru. Cofiwch Dryweryn, yn wir. Allaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol: fyddwch chi'n cytuno na ddylid colli pwerau o fan hyn heb gydsyniad y Senedd hon?
Ac i gloi—dwi'n sylweddoli'r amser, Dirprwy Lywydd—a ydych chi'n cytuno, Cwnsler Cyffredinol, taw annibyniaeth i Gymru ydy'r unig ffordd nawr i ddiogelu Cymru fel endid gwleidyddol, neu ynteu ysgrifennu llythyr arall i gwyno a pharhau i ddioddef cael ein sathru fel cenedl?
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiynau hynny. Mae'r pwerau sydd gyda ni ar hyn o bryd, yn sgil y newidiadau sydd yn arfaethedig yn y Mesur hwn, ddim yn bwerau gallwn ni eu gweithredu yn y dyfodol, ac fel mae Dai Lloyd ei hun yn dweud, nid cwestiwn cyfansoddiadol yn unig yw hwn; mae’n gwestiwn sy’n effeithio ar fywyd pob dydd pobl yng Nghymru. Felly, plastigau, safonau adeiladu, isafswm alcohol, cig eidion gyda hormones, pob mathau o bethau sydd yn effeithio ar fywyd pob dydd, naill ai drwy nwyddau, bwydydd ac ati, mae peryg i’r rheini i gyd mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cyfeiriad yn y Bil, yn un o’r rhannau yn y Bil, nad yw’r gwasanaeth iechyd o fewn sgôp y Bil, ond gall hynny gael ei newid gan Weinidog yn San Steffan heb unrhyw rwystredigaeth wrth y Senedd hon. Felly, mae risg yn perthyn i hynny hefyd i’r gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus. Mae pwerau gallwn ni barhau i'w defnyddio ond gallwn ni ddim eu gorfodi, ac mae pwerau gallwn ni barhau i'w defnyddio ond gall y Llywodraeth yn San Steffan fynd o’u hamgylch nhw. Mae enghreifftiau o’r holl bethau hynny yn y Bil, a dyna pam rŷn ni’n ei wrthwynebu fe mor ffyrnig.
Dwi’n anghytuno ar ben y daith mae Dai Lloyd yn disgrifio ar ddiwedd ei araith, ond mae’n sicr ddigon yn sgil hyn fod angen diwygio sylfaenol ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, a’r setliad cyfansoddiadol yn gyffredinol, er mwyn ein bod ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n cynnal y safonau mae pobl yng Nghymru wedi disgwyl ac wedi mwynhau dros y ddau ddegawd diwethaf.
Cwnsler Cyffredinol, unwaith eto, mae'n ymddangos eich bod eisiau rhwystro Brexit. Pleidleisiodd eich plaid yn erbyn pob cytundeb tynnu'n ôl, gan ddeddfu i'n hatal rhag gadael yr UE heb gytundeb, i geisio aros yn yr UE er bod Cymru a'r DU wedi pleidleisio i adael. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad rhagorol, er nad oeddech chi'n gwrthwynebu bod yr UE yn arfer pwerau, wnewch chi ddim ymestyn yr un cwrteisi i Lywodraeth y DU. Yn wir, yn eich ymateb i Bapur Gwyn y farchnad fewnol, mae'n ymddangos eich bod yn cwestiynu dilysrwydd Llywodraeth y DU i arfer pŵer ledled y DU. Fe ddyfynnaf yr hyn a ddywedwyd gennych:
'mae cyd-destun y DU yn allweddol. Drwy ddeddfu fel hyn, byddai Llywodraeth y DU yn gorfodi model o gyd-gydnabyddiaeth, a hynny heb wahaniaethu, ar dair gwlad arall y DU'.
Ond nid yw Llywodraeth y DU yn gorfodi dim ar wledydd eraill, gan ei bod yn cynrychioli pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae'n atebol i Senedd lle mae pobl Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn cael eu cynrychioli, ac eto rydych chi'n honni y bydd Gweinidogion y DU yn diystyru cyfraith ddomestig, er bod Senedd San Steffan yn deddfu i gyfreithloni'r hyn a wnânt.
Gweinidog, onid y rheswm yr ydych chi'n anghytuno â Bil marchnad fewnol y Senedd honno yw oherwydd nad ydych chi'n cytuno â'i nod o gadw ein hundeb at ei gilydd, cyd-gydnabyddiaeth a diffyg gwahaniaethu rhwng pedair gwlad, ac atal rhwystrau rhwng ein gwledydd, gan gynnwys y rhai y byddai'r UE yn eu gosod ar Fôr Iwerddon i rannu Cymru a Gogledd Iwerddon? Gweinidog, rydych chi eisiau i ni barhau i fod wedi'n clymu i'r UE ac rydych chi eisiau i ddatganoli wahaniaethu a rhannu ein Teyrnas Unedig. Ond nid yw pobl y Deyrnas Unedig eisiau hynny. Onid yw'n iawn bod Senedd San Steffan yn eu cynrychioli nhw drwy'r Bil hwn?
Dirprwy Lywydd, nid y rheswm y mae'r Aelod yn ei roi yw'r rheswm yr wyf i wedi herio'r Bil hwn o gwbl; mae'n union oherwydd fy mod i'n deall, os bydd Llywodraeth y DU yn mynd ymlaen fel hyn, bod hynny'n fygythiad i'r undeb, mewn gwirionedd, ac nid wyf i eisiau gweld hynny'n digwydd. Ac rwy'n gwybod nad yw datganoli a safonau uchel yn agos o gwbl at frig rhestr blaenoriaethau'r Aelod, ond maen nhw yn y lle hwn, ac rwy'n parhau i gredu yn y sylwadau a wnes i yn y llythyr hwnnw.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i unrhyw ddealltwriaeth o ddatganoli y dylai Llywodraeth y DU weithredu ar sail gytunedig gyda Llywodraethau eraill yn y DU o ran materion datganoledig. Ac rydym ni wedi cyflwyno, fel Llywodraeth, dull amgen ar gyfer cyflawni hynny, sy'n adeiladol, a fyddai'n gallu gweithio, a gyda llaw mae'n un y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cymryd rhan ynddo. Felly, nid ydym ni'n gwrthwynebu'r syniad o farchnad fewnol. Rydym ni hefyd wedi dweud, gyda llaw, nad ydym ni'n gwrthwynebu elfennau o ddeddfwriaeth i gefnogi'r fframweithiau cyffredin, ond mae ffordd well o lawer ymlaen na'r ffordd y mae'r Bil hwn yn ei gynrychioli. Bydd yn parhau â gwaith fframweithiau cyffredin a chyflawni'r gyfres hon o ganlyniadau ar sail gytunedig ledled y DU, nid ar sail orfodol, sef yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei gynrychioli.
Mick Antoniw fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Dirprwy Lywydd, nid yw'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cael cyfle hyd yma i archwilio'r Bil hwn yn fanwl. Fe'i cynhyrchwyd yn hwyr iawn yn y dydd, gydag ychydig iawn o rybudd ymlaen llaw, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Llun, pryd y byddwn yn archwilio'r holl faterion penodol hyn.
Ond mae gan y pwyllgor gyfrifoldeb penodol ynglŷn â chyfansoddiad y lle hwn, ac ynglŷn â materion sy'n ymwneud â moeseg democratiaeth seneddol a rheol y gyfraith fe ddywedwn i. Mae un o egwyddorion sylfaenol y Cenhedloedd Unedig yn ymwneud â rheol y gyfraith, ac rwyf yn rhoi llawer o bwyslais ar hyn oherwydd eich bod chi wedi cyfeirio at lawer o ganlyniadau'r ddeddfwriaeth hon, ond credaf ei bod yn bwysig nad ydym ni'n colli golwg ar rai o'r egwyddorion democrataidd sylfaenol yr ydym yn gweithredu arnynt. Mae egwyddorion llywodraethu'r Cenhedloedd Unedig yn nodi bod rheol y gyfraith yn hanfodol i heddwch a diogelwch rhyngwladol a sefydlogrwydd gwleidyddol; i sicrhau cynnydd a datblygiad economaidd a chymdeithasol; a diogelu hawliau pobl a rhyddid sylfaenol. Mae'n sylfaenol i fynediad pobl at wasanaethau cyhoeddus, i atal llygredd, i atal camddefnyddio pŵer, ac i sefydlu'r contract cymdeithasol rhwng pobl a'r wladwriaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth hon, fel y'i drafftiwyd, yn diystyru rheolaeth y gyfraith yn llwyr. Rwyf eisiau cyfeirio at bedair agwedd. Un, yr anghyfreithlondeb, sydd eisoes wedi'i gyfaddef. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd i Lywodraeth ddeddfu mewn modd anghyfreithlon ac i ddadlau bod yr anghyfreithlondeb yn iawn oherwydd efallai nad yw ond mewn modd penodol a chyfyngedig. Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern. Pe byddwn i yn eich mygio chi y tu allan i'r Siambr hon, Cwnsler Cyffredinol, er na fyddwn i byth, byth yn gwneud hynny, ni fyddai'n dderbyniol i mi ddweud yn y llys, 'Wel, fy arglwydd, ie, ond dim ond mygio penodol a chyfyngedig iawn oedd hwn, onid e?' Mae'n gwbl chwerthinllyd.
Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried yr awgrym pan ddaw cydsyniad deddfwriaethol i'r Siambr hon o ran moeseg cydsynio i ddeddfwriaeth sy'n diystyru rheolaeth y gyfraith yn llwyr ac yn cynnal anghyfreithlondeb, a chredaf fod hwnnw'n faes efallai y gallech chi fod eisiau ei archwilio. Mae hefyd yn gagio'r llysoedd a barnwyr rhag amddiffyn rheolaeth y gyfraith.
Ac, yn bedwerydd, mae'n rhoi pŵer dilyffethair yn nwylo Gweinidogion y Llywodraeth na fyddan nhw'n atebol i'r Senedd, na San Steffan, na Chymru wrth arfer y pwerau hynny. Nawr, mewn iaith llafar gwlad, pe byddem ni'n edrych ar Rwsia neu Belarws neu rai o'r gwledydd hynny, byddem ni'n dweud ei fod yn gyfystyr ag unbennaeth etholedig. Roosevelt, rwy'n credu—gobeithio fy mod i'n iawn—a ddywedodd mewn gwirionedd mai'r ffordd orau o esbonio rheolaeth y gyfraith yw edrych ar y gwledydd nad oes ganddyn nhw reolaeth y gyfraith.
Yn rhan o'r ymarfer hwn, fe wnes i ychydig o ymchwil gyfreithiol, ac roeddwn yn ceisio dod o hyd i enghraifft pan fo gwlad ddemocrataidd yn Ewrop erioed wedi ceisio defnyddio'r math hwn o anghyfreithlondeb, ac fe wnes i ddod o hyd i un. Fe wnes i ddod o hyd i wladwriaeth Ewropeaidd a fu'n binacl rheolaeth y gyfraith, gydag un o'r Seneddau pwysicaf, gyda chyfansoddiad a oedd yn cael ei barchu ledled y byd, lle y cyflwynwyd deddfwriaeth i ddileu ymreolaeth gwladwriaethau datganoledig, i rymuso'r Llywodraeth i ddeddfu i dorri'r cyfansoddiad ac i ddadrymuso'r farnwriaeth. Y ddeddf honno oedd Deddf galluogi gweriniaeth Weimar yn 1933 a ddaeth â Hitler i rym.
Nawr, nid wyf i eisiau bod yn felodramatig am hyn, ond mae democratiaeth yn fregus, mae rheolaeth y gyfraith yn fregus, ac mae'r ddeddfwriaeth hon, fel yr ydych chi wedi ei disgrifio mor briodol, yn gwbl atgas, ac rwyf am ofyn un cwestiwn i chi: a ydych chi'n cytuno â mi fod ein democratiaeth yn rhy bwysig i gael ei thanseilio gan y math hwn o ddeddfwriaeth?
Diolch i Mick Antoniw am y sylwadau yna, ac mae ei sylwadau yn cario pwys arbennig o ystyried ei swyddogaeth fel Cwnsler Cyffredinol blaenorol hefyd. Ond fe dywedaf y pwynt hwn: mae'n gywir i ddweud bod rhannau o'r Bil hwn yn deddfu i, fwy neu lai, roi gweithrediadau gweinidogol uwchlaw y gyfraith. Mae darpariaethau datganedig sy'n nodi y ceir gwneud rheoliadau pa un a ydyn nhw'n cydymffurfio â chyfraith ddomestig neu gytundebau rhyngwladol ai peidio. Nawr, mae hynny'n ddeifiol, yn fy marn i, o enw da Llywodraeth Prydain. Mae Llywodraethau Prydeinig olynol wedi dweud eu bod yn ymrwymo i reolaeth y gyfraith a'i fod yn hanfodol i synnwyr Prydain ohono'i hun yn y byd, a chredaf fod darpariaethau o'r math hwnnw mewn deddfwriaeth yn ddeifiol i'r enw da hwnnw. Maen nhw'n llygru'r enw da rhyngwladol hwnnw, ond hefyd maen nhw'n rhoi rhwystrau ychwanegol o fewn y DU ar y berthynas rhwng y Llywodraethau, sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar ymrwymiadau a wnaed rhwng y naill Lywodraeth a'r llall, a chredaf, ar yr adeg benodol hon, na ddylai Llywodraeth y DU fod yn chwilio am resymau dros wneud hynny. Credaf fod amrywiaeth o safbwyntiau yn y Siambr hon ynglŷn â'r Bil hwn, yn sicr mae amrywiaeth o safbwyntiau yn y Siambr hon ynglŷn â'r cefndir y mae gadael yr UE yn ei roi iddo, ond rwy'n gobeithio y gallem sicrhau clymblaid ehangach o lawer o ran cefnogaeth yn y Siambr hon ar fater rheolaeth y gyfraith a'r perygl y mae'r Bil hwn yn ei achosi i reolaeth y gyfraith.
Cwnsler Cyffredinol, yr oedd ymddygiad rhai ASau Ceidwadol yn nadl y Bil marchnad fewnol neithiwr yn warthus. Fe wnaethon nhw gamliwio'r ffeithiau yn barhaus drwy wrth-ddweud sinigaidd, gan honni bod y Bil wedi rhoi pwerau datganoledig newydd wrth lawenhau ynghylch y ffaith ei fod yn mynd â hwy i ffwrdd. Roedd yn arbennig o sarhaus, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, i glywed y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yn croesawu cymal 46, sy'n trosglwyddo pwerau gwario eang o Gymru i San Steffan, ar ôl iddo ddweud wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ym mis Tachwedd 2017 nad oedd agenda o ran tynnu pwerau'n ôl oddi wrth Llywodraeth Cymru.
Roedd agenda, ac yr oedd ef yn ei chefnogi. Mae'r Torïaid wedi ein camarwain bob cam o'r ffordd ac wedi codi cywilydd ar eu hunain drwy eu hymddygiad gwarthus. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw statws presennol y cytundeb rhynglywodraethol gan fod y Torïaid bellach wedi torri pob cymal allweddol, gan gynnwys cymal 6, sy'n datgan bod
Llywodraeth y DU yn ymrwymo i wneud rheoliadau drwy broses gydweithredol ac yn unol â'r cytundeb hwn?
Ac a allwch fy sicrhau i y byddwch yn gwneud beth bynnag sydd ei hangen i ddiogelu pwerau ein Senedd, gan gynnwys ystyried cyflwyno achos i'r Goruchaf Lys, efallai ar y cyd â Llywodraeth yr Alban?
Dirprwy Lywydd, diolchaf i Delyth Jewell am y gyfres yna o gwestiynau. Credaf fod y pwynt am yr araith a roddodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol neithiwr yn y Senedd yn pwysleisio'r ffaith fod y gwrthwynebiad mewn gwirionedd yn ymwneud â'r hyn a wnawn gyda'n pwerau yn y fan yma, nid y pwerau eu hunain. Felly mae'n wrthwynebiad i'r math o ddull y mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi'i ddefnyddio o ran buddsoddi, safonau ac yn y blaen—pethau sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl yng Nghymru. Gallaf ei sicrhau hi y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel Llywodraeth i ddiogelu hawliau'r lle hwn. Mae nifer o drafodaethau yn mynd rhagddynt yn fewnol am gwmpas ein gallu i weithredu. Yn sicr, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud eisoes, byddwn eisiau gweithio gyda phleidiau yn y Senedd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth hon, ond byddwn yn edrych arno o safbwynt cyfreithiol hefyd.
O ran y cytundeb rhynglywodraethol, fe wnaf i ddweud, yng ngoleuni'r dyfalu yn y wasg, nad oeddwn i'n teimlo ei fod o gymorth o gwbl, mewn gwirionedd, yn ystod y dyddiau diwethaf o ran diddymu'r Ddeddf parhad a'r cytundeb rhynglywodraethol, rwyf yn glynu wrth weithredoedd y Llywodraeth hon wrth geisio dod i'r cytundeb hwnnw gyda Llywodraeth y DU. Cydymffurfiwyd ag ef, yn gyffredinol, a bu'n sylfaen i'r rhaglen fframweithiau cyffredin, sef y ffordd iawn, yn ein barn ni, i ddatblygu datrysiad i'r cwestiynau hyn. Byddwn yn annog Llywodraeth y DU i edrych eto ar allu'r rhaglen fframweithiau cyffredin i ddisodli'r hyn y maen nhw wedi darparu ar ei gyfer yn y Bil hwn. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd ymlaen lawer mwy adeiladol a chydweithredol.
Mae'r Bil hwn yn mynd â ni yn ôl o leiaf 100 mlynedd i'r adeg pan ddywedodd yr Encyclopaedia Britannica 'For Wales, see England'. Yn hytrach na bod yn arweinyddion ar amddiffyniadau amgylcheddol, byddwn yn segurwyr, yn dibynnu ar frwdfrydedd Llywodraeth y DU, neu beidio, dros ddiogelu ein moroedd rhag llygredd plastig. Rydych chi eisoes wedi dweud wrthym y byddai ein hymgais i wahardd yr holl blastig untro yn y wlad hon yn cael ei danseilio'n llwyr drwy ein gorfodi i gymryd plastigau untro a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o'r DU, a fyddai'n ei gwneud ein hymgais yn ddi-werth, a dweud y gwir.
Fe wnaethoch chi sôn am fframweithiau cyffredin. Rydym ni i gyd o blaid fframweithiau cyffredin, ond mae'r gair 'cyffredin' yn allweddol, onid yw? Nid fframweithiau a gafodd eu gorfodi, fframweithiau cyffredin a gytunwyd rhwng pedwar parti gwahanol. Felly, mae hwn yn ymddangos i mi yn ddiwrnod trist iawn a fyddai'n cyflymu'r broses o chwalu'r Deyrnas Unedig, oherwydd mae'n sicr y byddai Gogledd Iwerddon yn dewis masnachu gyda'i chymydog agosaf er mwyn atal chwalu cytundeb Gwener y Groglith. Pam na fyddech chi? Byddai hyn yn gwbl warthus.
Felly, os daw'r Bil hwn yn gyfraith, mae'n debyg na allem ni atal bwyd amhur a fyddai'n dod o fargen wael gyda'r Unol Daleithiau rhag cael ei orfodi ar ein dinasyddion, ac ni fyddai pobl yn gwybod pa un a oedden nhw'n bwyta bwyd a addaswyd yn enetig ai peidio, oherwydd ni fyddai angen ei labelu yn y modd hwnnw. Ni fyddem ychwaith yn gallu amddiffyn ein dinasyddion rhag y rhaglen adeiladu is-safonol—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—y mae'n ymddangos sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg, i ddiddymu'r holl gyfreithiau cynllunio a chaniatáu i ddatblygwyr adeiladu pa bynnag hofelau cyflym sydd ganddyn nhw mewn golwg, yn hytrach na'r tai am oes o ansawdd da yr hoffem ni eu cynhyrchu. Maen debyg y byddem yn cael ein hatal rhag diwygio ein rheoliadau Rhan L fel eu bod yn addas i'w diben o ran ein rhwymedigaethau argyfwng hinsawdd.
Mae Jenny Rathbone yn iawn i dynnu sylw at y datblygiadau arloesol yr ydym ni wedi'u cyflawni yn y Senedd hon mewn llawer o'r enghreifftiau a roddodd. Rydym ni'n falch o'r safonau hynny yma yng Nghymru, ac mae pobl yng Nghymru yn falch o allu dibynnu arnyn nhw. Boed yn isafswm pris alcohol, hormonau cig eidion a labelu ar gyfer hynny, boed yn blastigau untro, safonau tai, rheoleiddio landlordiaid, mae'r holl feysydd polisi hyn lle'r ydym yn uchelgeisiol o ran ein cyrhaeddiad fel Senedd yn y fantol o ganlyniad i agweddau ar y Bil hwn. Ac rydym ni'n gweithio drwy bob cymal o'r Bil i ganfod yn union faint o her y mae rhai o'i ddarpariaethau yn ei achosi i'n huchelgeisiau.
Rwyf eisiau dweud yr un peth hwn: rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth allu ymwahanu mewn gwahanol rannau o'r DU mewn meysydd lle'r ydym ni eisiau gwneud hynny i adlewyrchu blaenoriaethau ein gwahanol wledydd. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus iawn mewn ffordd sy'n rhoi balchder i bobl yn y safonau hynny mewn gwahanol rannau o'r DU, ac sydd hefyd yn galluogi'r gymuned fusnes, cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr i ddeall y safonau y mae'r pethau hyn yn cael eu hadeiladu arnynt. Mae'r cynigion yr ydym wedi'u cyflwyno fel dewis amgen i'r Bil hwn yn adeiladu ar yr hanes hwnnw o 20 mlynedd o ymwahanu a sicrwydd, ac nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU edrych eto ar y gyfres honno o gynigion ac ailwampio'r Bil hwn, mewn gwirionedd, i roi'r mecanweithiau cytunedig hynny, y broses honno o gytuno, wrth wraidd y farchnad fewnol.
Neil Hamilton. Na, allwn ni ddim eich clywed chi, Mr Hamilton. Mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen, neu mae angen i rywun ei droi ymlaen. Dyna chi.
Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, a diolch am fy ngalw.
Nid wyf wedi fy synnu gan ddatganiad y Cwnsler Cyffredinol, oherwydd mae'n benderfynol o farw yn ffos olaf y gwrthwynebiad sydd ar ôl o ran y rhai a oedd eisiau aros yn yr UE i weithredu ewyllys y bobl, a phobl Cymru ar hynny, yn refferendwm Brexit bedair blynedd yn ôl. Ond mae'n haeru'n eiddgar ei ddatganiad bod y pwerau yn y Bil hwn yn diystyru cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol yn uniongyrchol, ond mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020, adran 38, yn nodi y bydd Senedd y DU yn sofran, ac i ddyfynnu nid oes unrhyw beth yn y Ddeddf hon sydd yn amharu ar sofraniaeth...y Senedd.
Felly, beth bynnag a gynigir yn y Bil hwn, os caiff ei bleidleisio drwy ddau Dŷ'r Senedd, fydd cyfraith y wlad ac ni ellir ei beirniadu o fod yn torri cyfraith y DU, oherwydd dyna fydd y gyfraith.
Yn ail, o ran cytundebau rhyngwladol, mae'n un o egwyddorion craidd cytundeb Gwener y Groglith na ellir newid statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon heb gydsyniad pobl Gogledd Iwerddon. Mae Deddf Uno 1801, sy'n sefydlu'r statws cyfansoddiadol hwnnw, yn dweud bod dinasyddion y DU i gyd ar yr un sylfaen o ran masnach a mordwyo ac ym mhob cytuniad â phwerau tramor. Wrth gwrs, mae gosod rhwystr tariff ym môr Iwerddon, sef yr hyn y mae'r UE wedi gorfodi'r Llywodraeth Geidwadol i'w dderbyn yn eu ffolineb yn y cytundeb ymadael a phrotocol Gogledd Iwerddon, ynddo'i hun yn torri cytundeb Gwener y Groglith yn amlwg. Nawr, mae Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y DU ill dau wedi dweud na fyddan nhw'n gosod mannau gwirio ar y ffin. Dim ond yr UE sydd wedi gadael yn agored y posibilrwydd y gallai hyn ddigwydd er mwyn diogelu marchnad sengl gysegredig yr UE.
Nid yw'r UE, dros y pedair blynedd neu ddwy flynedd neu beth bynnag ydyw o drafodaethau, wedi negodi'n ddidwyll yn fy marn i, oherwydd eu bod wastad wedi bod â'r amcan terfynol o fod eisiau cynnal cyrhaeddiad tiriogaethol ychwanegol cyfreithiau marchnad fewnol yr UE, nid yn unig yn awr ond yn y dyfodol hefyd. Yr hyn y maen nhw eisiau i ni ei wneud yw derbyn newidiadau mewn rheoliadau y byddan nhw yn pleidleisio arnynt, ac na fydd gennym ni lais ac na fydd gennym ni bleidlais arnynt. Ni fyddai unrhyw wladwriaeth sofran â chanddi hunan-barch byth yn derbyn gwaradwydd o'i fath. Ac yn ail, maen nhw eisiau cynnal cyrhaeddiad tiriogaethol ychwanegol Llys Cyfiawnder Ewrop fel dehonglydd y gyfraith. Unwaith eto, ni allai unrhyw wladwriaeth sofran â chanddi hunan-barch dderbyn hynny o gwbl. Felly, os nad yw'r UE wedi bod yn negodi'n ddidwyll o dan Gonfensiwn Fienna 1969 ar y Gyfraith Cytuniadau, yna byddai cyfiawnhad perffaith i Lywodraeth y DU basio'r Bil hwn drwy'r Senedd.
Wel, rwy'n credu y byddwn i'n dweud yn syml, o ran barn yr Aelod am gyfreithlondeb rhai o'r darpariaethau hyn, fy mod i'n credu bod pwysau llethol y farn gyfreithiol yn groes i'w farn ef. Ond roeddwn i'n ei chael hi'n anodd clywed cwestiwn yr oeddwn yn cael fy ngwahodd i'w ateb, Dirprwy Lywydd.
Gweinidog, mae'r Bil hwn yn sarhad ar ein democratiaeth. Daeth Llywodraeth y DU i gytuniad gyda'r Undeb Ewropeaidd. Yna, fe wnaethon nhw ofyn am fandad gan y bobl ar gyfer y cytuniad hwnnw. Fe wnaethon nhw ymgorffori'r cytuniad hwnnw mewn deddfwriaeth, a llai na blwyddyn yn ddiweddarach maen nhw'n ymwrthod â'r mandad hwnnw, yr ymrwymiad hwnnw a'r ddeddfwriaeth honno. A dywedir wrthym ni yn y fan yma nad oes gennym ni gyfle, dim cyfle o gwbl i wneud sylwadau hyd yn oed ac na fydd ymgynghori â ni ynghylch cyfyngu pwerau'r Senedd hon, pan all strwythurau llywodraethu'r DU—Senedd y DU a Llywodraeth y DU gyda'i gilydd—ddisodli'r Senedd hon, ein hatal rhag arfer y pwerau y mae'r bobl wedi ein hethol i'w wneud. Mae dau refferendwm wedi rhoi pwerau i ni yn y lle hwn, a gall Llywodraeth y DU roi hynny o'r neilltu yn rhwydd heb ymgynghori hyd yn oed â'r Senedd hon a'i Haelodau a'i Llywodraeth. Mae hynny'n annerbyniol.
Dirprwy Lywydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro wrthym ni sut y bydd y Bil hwn yn effeithio ar rai o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Llywodraeth hon, sut y gallwn ni ymateb i'r galwadau arnom sydd gan y bobl sydd wedi ein hanfon ni yma, a sut y gallwn ni wedyn greu strwythur o fewn y Deyrnas Unedig lle na all Senedd y DU a Llywodraeth y DU amddifadu'r lle hwn o bwerau sydd wedi'u rhoi gan y bobl. O'm rhan i, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni fynd yn ôl. Siaradodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd am weithredoedd canrif yn ôl; efallai ei bod hi'n bryd nawr i ni gofio'r hyn yr etholwyd Keir Hardie am y tro cyntaf ym Merthyr Tudful i'w gyflawni—hunanlywodraeth, Teyrnas Unedig ffederal, lle mae pwerau sydd yn y lle hwn yn cael eu diogelu yn y lle hwn ac na ellir eu tynnu o'r lle hwn heb i'r bobl gael dweud eu dweud.
Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. O ran y cwestiwn cyntaf, gofynnodd beth y mae hyn yn ei wneud o ran yr effaith ar ein pwerau ni yma yn y Senedd, mae nifer o ddarpariaethau yn y Bil sydd naill ai'n cyfyngu ar y pwerau hynny, boed hynny wrth reoleiddio bwyd neu reoleiddio amgylcheddol. Mae'n golygu y gellir arfer pwerau ond, i bob pwrpas, nid eu gorfodi, neu mae'n golygu y gellir osgoi pwerau, i bob pwrpas. Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd y mae'r Bil hwn yn ymosod ar gymhwysedd y Senedd hon a Gweinidogion Cymru. Mae darpariaethau yn y Bil sy'n galluogi yn uniongyrchol ariannu agweddau ar dai neu seilwaith iechyd. Mae setliad eisoes sy'n darparu bod y pwerau hynny'n cael eu harfer gan y Senedd hon a Gweinidogion Cymru ar ran pobl Cymru, ac os oes rhagor o fuddsoddiad i'w roi ar gael i gynorthwyo seilwaith yng Nghymru, rydym ni'n hapus iawn â hynny, ond mae Llywodraeth sydd eisoes â'r pwerau i wneud hynny, a'r Llywodraeth hon yw honno.
Rwy'n credu bod y pwynt olaf y mae'n ei wneud yn bwysig iawn. Mae'n ymddangos i mi, wrth ystyried deddfwriaeth o'r math hwn, sy'n amlwg, mewn un cymal, yn ychwanegu'n benodol at nifer y materion a gedwir yn ôl yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, mae cychwyn ar y math hwnnw o ddeddfwriaeth heb geisio gwneud hynny mewn ffordd mor gydweithredol, ac mor agored â Llywodraethau datganoledig â phosibl—rwy'n credu bod hynny yn dangos cyfyngiadau'r trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa pan fo angen i ni edrych ar ddiwygio sylfaenol rhai o'r trefniadau hynny. A'r ffordd yr oedd yn sôn am Keir Hardie a'r ymgyrch hunanlywodraeth, sef un lle mae Llywodraethau'r DU yn gweithredu fel pedair Llywodraeth, dull pedair gwlad—rydym ni wedi bod yn sôn am hynny, onid ydym ni, yn ystod y misoedd diwethaf—un sydd wir yn ymwreiddio pwerau gwahanol Lywodraethau ledled y DU mewn modd sylweddol iawn. Ac nid am resymau cyfansoddiadol yn unig, ond oherwydd y ffordd y maen nhw'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru, a'n hatebolrwydd ni fel Llywodraeth i'r bobl hynny am y dewisiadau a wnawn, ac mae'n rhaid i hynny fod wrth wraidd ein hymateb i hyn.
Rhianon Passmore. Rhianon Passmore. A all rhywun droi meicroffon Rhianon ymlaen i ni os gwelwch yn dda? Dyna ni.
Rwy'n colli fy sgrin o hyd. Mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd. Allwch chi ddod yn ôl ataf i?
Iawn. Iawn. David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi archwilio'n fawr iawn gyda chydweithwyr y sefyllfa y mae'r Bil hwn, yn gyfansoddiadol, yn ei rhoi ni ynddi, ac ni wnaf archwilio hynny cymaint â hynny ymhellach. Ond rwy'n credu bod arnom ni angen—. Rydym ni wedi clywed y rhethreg yn amlwg iawn gan gefnogwyr Brexit dros y blynyddoedd diwethaf y bydd gennym ni bwerau drwy i'r UE eu rhoi yn ôl i ni. A yw'n wir bod y Bil hwn mewn gwirionedd yn tanseilio ein gallu i gyflawni unrhyw benderfyniadau sy'n seiliedig ar y pwerau hynny? Oherwydd, mae'n rhoi'r hawl i Weinidogion y DU wneud penderfyniadau sy'n tanseilio ein penderfyniadau ni. Ac felly, pan fydd pobl yn fy etholaeth i yn disgwyl i ni gyflawni amodau neu bolisïau penodol, gallwn ni wneud hynny yn y fan yma, ond gallai Gweinidogion Llywodraeth y DU gyflawni rhywbeth gwahanol o ganlyniad i hynny. Dyna y mae pobl eisiau ei wybod. Maen nhw eisiau deall beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. A'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw mewn gwirionedd yw y gallwn ni wneud penderfyniad, ond y gall Gweinidogion y DU ei newid heb ymgynghori â ni na'r bobl hyd yn oed. Mae hynny'n gywir.
A ydych chi hefyd yn cytuno â mi efallai fod hyn yn ddiwedd ar fframweithiau cyffredin mewn gwirionedd? Oherwydd, roedd y fframweithiau cyffredin yn rhywbeth y gwnaethom ni gytuno arnyn nhw, rhywbeth a gyflwynwyd gennym fel ffordd bosibl o gydweithio i ddod i'r sefyllfaoedd hyn. Ond mae hon yn sefyllfa lle mae'n ymddangos bod hynny wedi'i daflu allan drwy'r ffenestr, lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i orfodi penderfyniadau. Felly, a yw hyn yn diwedd y fframweithiau cyffredin?
Ac, yn olaf, y gronfa ffyniant gyffredin. Rydym ni wedi bod yn gofyn cwestiynau am flynyddoedd am y gronfa ffyniant a rennir, ac mae'n ymddangos yn awr, mewn gwirionedd, pan addawodd cefnogwyr Brexit i ni na fyddai Cymru yn colli ceiniog y byddem ni wedi ei chael gan Ewrop—mae'n ymddangos yn awr nad ydym ni am gael unrhyw beth. Pan allem ni wneud penderfyniad, fel y gallem ni o'r blaen, bydd yn cael ei benderfynu yn Llundain, ac felly mae'r gronfa ffyniant gyffredin, o'm rhan i, wedi'i dileu yn llwyr.
Diolch i David Rees am y cwestiynau yna. O ran y pwynt cyntaf, mae e'n iawn i ddweud, fel yr oedd Jenny Rathbone yn ei ddweud yn ei chwestiwn hi yn gynharach, ein bod ni yn gosod safonau bwyd, ac rydym ni'n falch o hynny yma yng Nghymru, ond os bydd rhan arall o'r DU yn dewis mabwysiadu safonau is ar sail benodol, ni fyddem ni'n gallu atal y nwyddau a'r bwydydd hynny rhag cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd a siopau yng Nghymru. Felly, byddai hynny yn enghraifft uniongyrchol i chi o'r math o ffordd na fyddai'n bosibl gorfodi'r safonau y byddem ni'n eu gosod a'u deddfu yma yn y Senedd, mewn gwirionedd
Byddai gennym ni ddull mwy uchelgeisiol o reoli plastigau untro, mae'n debyg, na Llywodraeth y DU ar ran Lloegr, ond byddai gennym ni her wrth orfodi hynny pe byddai'r rheolau'n is yn Lloegr, ac y bydden nhw'n galluogi plastigau i fod ar y farchnad yng Nghymru mewn ffordd na allem ni ei gorfodi'n effeithiol. Felly, mae nifer o enghreifftiau ymarferol iawn am y cyfyngiadau ymarferol y byddem ni'n eu hwynebu wrth weithredu ein blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru. Felly, nid dadl gyfansoddiadol yn unig yw hon; mae hyn yn ymwneud ag agweddau ymarferol siopa wythnosol pobl, i bob pwrpas.
O ran y fframweithiau cyffredin, rwy'n gofyn i Lywodraeth y DU ddwysáu ei hymrwymiad i'r fframweithiau cyffredin, oherwydd rwy'n credu mai yn y fframweithiau cyffredin y ceir y modd o reoleiddio'r cyfresi hyn o gwestiynau. Felly, rydym ni wedi gallu ymwahanu ers 20 mlynedd rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU o ran rhai o'r materion hyn, ac rydym ni eisiau gallu parhau i wneud hynny. A'r ffordd o wneud hynny yw ei wneud ar sail gytunedig a'i reoli. Ni fyddwn bob amser yn gallu dod i gytundeb, yn amlwg, ond bydd proses ar gyfer datrys hynny mewn ffordd sy'n parchu'r ffaith bod pŵer wedi'i ddatganoli yn y DU mewn ffordd nad yw'r Bil hwn yn ei wneud.
Ac yn olaf, o ran eich pwynt am y gronfa ffyniant gyffredin. I bob pwrpas, bydd y pwerau gwario yn y Bil, y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd iddi ei hun o feysydd datganoledig, yn eu galluogi, i bob pwrpas, i weithredu rhai agweddau ar y gronfa ffyniant gyffredin yn uniongyrchol yng Nghymru. Rydym ni bob amser wedi gwybod, onid ydym ni, fod y pwerau hynny wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, ac y bu ymrwymiadau, mewn gwirionedd, na ddangoswyd erioed, gan Lywodraeth y DU, na fyddai'r pwerau hynny'n cael eu tynnu ymaith? Wel, mae pwerau yn y Bil hwn a fyddai'n galluogi torri'r addewid hwnnw.
Diolch. Fe rown gynnig arall i Rhianon Passmore. Rhianon Passmore.
Diolch. ydych chi'n gallu fy nghlywed i, Dirprwy Lywydd?
Gallaf, mae hynna'n iawn.
Diolch yn fawr iawn. Diolch am fy ngalw yn ôl. Gadewch i ni fod yn onest—Bil marchnad fewnol Llywodraeth Dorïaidd y DU yw'r diweddaraf mewn rhes hir o gamau cwbl annealladwy gan Boris Johnson a'i Lywodraeth. Ac rwyf i'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw gan Gwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd. Bydd ar bobl Cymru nawr, yn fwy nag erioed, angen cyfrifoldeb a chynrychiolaeth swyddogaethol llawn Llywodraeth Lafur Cymru i ddadlau dros ein dyfodol yn wyneb esgeulustod ac anallu parhaus Torïaid y DU. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ailddatgan i'm hetholwyr yn Islwyn y bydd Llywodraeth Lafur Cymru bob amser yn amddiffyn un o egwyddorion pwysicaf cyfraith ryngwladol, ac yn diogelu hawliau pobl Cymru, o dan ddatganoli a enillwyd drwy ymdrech galed, i barhau i bennu ein blaenoriaethau, heb iddynt gael eu glastwreiddio gan San Steffan? Heb barch at reolaeth cyfraith ryngwladol, bydd safle a dylanwad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn llawer llai yng ngolwg y byd.
Neithiwr, trosglwyddodd Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i'r cam nesaf. Ac eto, yn wrthnysig, byddai Bil Marchnad Fewnol y DU yn atal yr UE rhag blocio bwyd, fel y'i gelwir. Dywedodd cadeirydd Ceidwadol y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, Syr Bob Neill, yn gryf fod y Bil yn cynnwys cymal dybryd, diangen a allai fod yn niweidiol, a fyddai'n torri rhwymedigaethau rhyngwladol y DU. Ac ar gyfer Darren Millar, cadeirydd y Ceidwadwyr sydd wedi cyflwyno'r gwelliant hwnnw. Mae e'n cynnig dileu'r cymal a fyddai'n torri cyfraith ryngwladol. Ond y tu allan i hyn, erys diffygion difrifol, sylfaenol i'r Bil hwn o niwed democrataidd, economaidd a chymdeithasol i Gymru. Mae hwn, Dirprwy Lywydd, yn Fil gwael, ac yn Fil gwael i Gymru. Mae colli swyddogaethau yn y Bil yn amlwg. Mae colli ein gallu presennol i arwain y ffordd wrth wahardd plastigau penodol a'r awdurdod newydd yn y DU sy'n cynnig lleihau safonau ansawdd bwyd uchel Cymru, er enghraifft, drwy bennu blaenoriaethau y DU yn bresennol drwy gydol y Bil hwn. Ond ar ben hyn i gyd—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Nid yw'r bonws o Lywodraeth y DU yn gallu cymryd rhan o'n hincwm yng Nghymru yn dderbyniol. Cwnsler Cyffredinol, pa sylwadau a chamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, gan weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, i frwydro yn erbyn yr ymosodiad difrifol hwn ar Gymru ac enw da Prydain? A pha flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i'r bwriad i leihau pwerau Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y Bil hwn?
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau yna. Gallaf roi sicrwydd pendant iddi y bydd y Llywodraeth hon yn sefyll o blaid buddiannau pobl yng Nghymru mewn cysylltiad â'r Bil hwn. A byddwn yn gweithio gydag unrhyw un sy'n rhannu'r safbwyntiau hynny ac sy'n rhannu'r blaenoriaethau hynny. Hoffwn dalu teyrnged i gyd-Aelodau seneddol yn fy mhlaid i, ac mewn pleidiau eraill yn y Siambr hon, a wnaeth sefyll dros yr egwyddorion hynny ddoe yn Senedd y DU yn y modd y mae hi'n ei ddisgrifio. Ond nid wyf i'n ddigon diniwed i feddwl bod y Prif Weinidog yn debygol o gredu bod gair Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i fod yn hynod argyhoeddiadol. Ond byddwn yn ei annog i wrando ar eiriau tri chyn Brif Weinidog Ceidwadol, yn ogystal ag ystod o gyn-swyddogion y gyfraith ac Arglwydd Gangellorion mewn Llywodraethau Ceidwadol blaenorol. Mae hon yn gynghrair eang o bryder. Nid yw'n fater pleidiol wleidyddol yn unig. Mae amrywiaeth o bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol sydd, am wahanol resymau, yn gofidio'n fawr iawn am y Bil hwn. A byddwn yn dweud wrtho nad yw'n rhy hwyr i wrando ar y geiriau hynny ac i wrthdroi ei safbwynt ar y Bil hwn.
Diolch yn fawr iawn. Ac mae hynny'n dod â ni i ddiwedd y siaradwyr ar gyfer yr eitem yna. Felly, nid oes rhagor o fusnes, felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.