6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:30, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r Bil hwn yn mynd â ni yn ôl o leiaf 100 mlynedd i'r adeg pan ddywedodd yr Encyclopaedia Britannica 'For Wales, see England'. Yn hytrach na bod yn arweinyddion ar amddiffyniadau amgylcheddol, byddwn yn segurwyr, yn dibynnu ar frwdfrydedd Llywodraeth y DU, neu beidio, dros ddiogelu ein moroedd rhag llygredd plastig. Rydych chi eisoes wedi dweud wrthym y byddai ein hymgais i wahardd yr holl blastig untro yn y wlad hon yn cael ei danseilio'n llwyr drwy ein gorfodi i gymryd plastigau untro a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o'r DU, a fyddai'n ei gwneud ein hymgais yn ddi-werth, a dweud y gwir.

Fe wnaethoch chi sôn am fframweithiau cyffredin. Rydym ni i gyd o blaid fframweithiau cyffredin, ond mae'r gair 'cyffredin' yn allweddol, onid yw? Nid fframweithiau a gafodd eu gorfodi, fframweithiau cyffredin a gytunwyd rhwng pedwar parti gwahanol. Felly, mae hwn yn ymddangos i mi yn ddiwrnod trist iawn a fyddai'n cyflymu'r broses o chwalu'r Deyrnas Unedig, oherwydd mae'n sicr y byddai Gogledd Iwerddon yn dewis masnachu gyda'i chymydog agosaf er mwyn atal chwalu cytundeb Gwener y Groglith. Pam na fyddech chi? Byddai hyn yn gwbl warthus.

Felly, os daw'r Bil hwn yn gyfraith, mae'n debyg na allem ni atal bwyd amhur a fyddai'n dod o fargen wael gyda'r Unol Daleithiau rhag cael ei orfodi ar ein dinasyddion, ac ni fyddai pobl yn gwybod pa un a oedden nhw'n bwyta bwyd a addaswyd yn enetig ai peidio, oherwydd ni fyddai angen ei labelu yn y modd hwnnw. Ni fyddem ychwaith yn gallu amddiffyn ein dinasyddion rhag y rhaglen adeiladu is-safonol—