6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:32, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Jenny Rathbone yn iawn i dynnu sylw at y datblygiadau arloesol yr ydym ni wedi'u cyflawni yn y Senedd hon mewn llawer o'r enghreifftiau a roddodd. Rydym ni'n falch o'r safonau hynny yma yng Nghymru, ac mae pobl yng Nghymru yn falch o allu dibynnu arnyn nhw. Boed yn isafswm pris alcohol, hormonau cig eidion a labelu ar gyfer hynny, boed yn blastigau untro, safonau tai, rheoleiddio landlordiaid, mae'r holl feysydd polisi hyn lle'r ydym yn uchelgeisiol o ran ein cyrhaeddiad fel Senedd yn y fantol o ganlyniad i agweddau ar y Bil hwn. Ac rydym ni'n gweithio drwy bob cymal o'r Bil i ganfod yn union faint o her y mae rhai o'i ddarpariaethau yn ei achosi i'n huchelgeisiau.

Rwyf eisiau dweud yr un peth hwn: rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth allu ymwahanu mewn gwahanol rannau o'r DU mewn meysydd lle'r ydym ni eisiau gwneud hynny i adlewyrchu blaenoriaethau ein gwahanol wledydd. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus iawn mewn ffordd sy'n rhoi balchder i bobl yn y safonau hynny mewn gwahanol rannau o'r DU, ac sydd hefyd yn galluogi'r gymuned fusnes, cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr i ddeall y safonau y mae'r pethau hyn yn cael eu hadeiladu arnynt. Mae'r cynigion yr ydym wedi'u cyflwyno fel dewis amgen i'r Bil hwn yn adeiladu ar yr hanes hwnnw o 20 mlynedd o ymwahanu a sicrwydd, ac nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU edrych eto ar y gyfres honno o gynigion ac ailwampio'r Bil hwn, mewn gwirionedd, i roi'r mecanweithiau cytunedig hynny, y broses honno o gytuno, wrth wraidd y farchnad fewnol.