6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:34, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, a diolch am fy ngalw.

Nid wyf wedi fy synnu gan ddatganiad y Cwnsler Cyffredinol, oherwydd mae'n benderfynol o farw yn ffos olaf y gwrthwynebiad sydd ar ôl o ran y rhai a oedd eisiau aros yn yr UE i weithredu ewyllys y bobl, a phobl Cymru ar hynny, yn refferendwm Brexit bedair blynedd yn ôl. Ond mae'n haeru'n eiddgar ei ddatganiad bod y pwerau yn y Bil hwn yn diystyru cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol yn uniongyrchol, ond mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020, adran 38, yn nodi y bydd Senedd y DU yn sofran, ac i ddyfynnu nid oes unrhyw beth yn y Ddeddf hon sydd yn amharu ar sofraniaeth...y Senedd.

Felly, beth bynnag a gynigir yn y Bil hwn, os caiff ei bleidleisio drwy ddau Dŷ'r Senedd, fydd cyfraith y wlad ac ni ellir ei beirniadu o fod yn torri cyfraith y DU, oherwydd dyna fydd y gyfraith.

Yn ail, o ran cytundebau rhyngwladol, mae'n un o egwyddorion craidd cytundeb Gwener y Groglith na ellir newid statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon heb gydsyniad pobl Gogledd Iwerddon. Mae Deddf Uno 1801, sy'n sefydlu'r statws cyfansoddiadol hwnnw, yn dweud bod dinasyddion y DU i gyd ar yr un sylfaen o ran masnach a mordwyo ac ym mhob cytuniad â phwerau tramor. Wrth gwrs, mae gosod rhwystr tariff ym môr Iwerddon, sef yr hyn y mae'r UE wedi gorfodi'r Llywodraeth Geidwadol i'w dderbyn yn eu ffolineb yn y cytundeb ymadael a phrotocol Gogledd Iwerddon, ynddo'i hun yn torri cytundeb Gwener y Groglith yn amlwg. Nawr, mae Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y DU ill dau wedi dweud na fyddan nhw'n gosod mannau gwirio ar y ffin. Dim ond yr UE sydd wedi gadael yn agored y posibilrwydd y gallai hyn ddigwydd er mwyn diogelu marchnad sengl gysegredig yr UE.

Nid yw'r UE, dros y pedair blynedd neu ddwy flynedd neu beth bynnag ydyw o drafodaethau, wedi negodi'n ddidwyll yn fy marn i, oherwydd eu bod wastad wedi bod â'r  amcan terfynol o fod eisiau cynnal cyrhaeddiad tiriogaethol ychwanegol cyfreithiau marchnad fewnol yr UE, nid yn unig yn awr ond yn y dyfodol hefyd. Yr hyn y maen nhw eisiau i ni ei wneud yw derbyn newidiadau mewn rheoliadau y byddan nhw yn pleidleisio arnynt, ac na fydd gennym ni lais ac na fydd gennym ni bleidlais arnynt. Ni fyddai unrhyw wladwriaeth sofran â chanddi hunan-barch byth yn derbyn gwaradwydd o'i fath. Ac yn ail, maen nhw eisiau cynnal cyrhaeddiad tiriogaethol ychwanegol Llys Cyfiawnder Ewrop fel dehonglydd y gyfraith. Unwaith eto, ni allai unrhyw wladwriaeth sofran â chanddi hunan-barch dderbyn hynny o gwbl. Felly, os nad yw'r UE wedi bod yn negodi'n ddidwyll o dan Gonfensiwn Fienna 1969 ar y Gyfraith Cytuniadau, yna byddai cyfiawnhad perffaith i Lywodraeth y DU basio'r Bil hwn drwy'r Senedd.