Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais dros £106 miliwn o fuddsoddiad yn ein heconomi wledig dros y tair blynedd nesaf. Bydd hwn yn mynd tuag at ystod o gynlluniau, gan gynnwys cefnogi busnesau fferm i wella eu perfformiad technegol ac amgylcheddol a gwella eu cynaliadwyedd. Mae polisïau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynllun cymorth llaeth diweddar Cymru, lle mae dros £983,000 wedi’i dalu i 160 o ffermwyr a gafodd eu taro galetaf gan gyflwr eithriadol y farchnad oherwydd COVID-19, yn ogystal â Chynllun y Taliad Sylfaenol a gyhoeddwyd gennyf yn ddiweddar ar gyfer 2020.