Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Medi 2020.
Weinidog, fel diwydiannau eraill, fel rydych newydd ei ddweud, mae pandemig COVID-19 wedi taro diwydiant ffermio Cymru yn galed, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd y diwydiant ffermio yn ei strategaethau adfer ôl-COVID. Rydych wedi cadarnhau y byddwch yn pennu'r rheoliadau drafft ar gyfer adnoddau dŵr eleni, ac ni fydd hynny ond yn ychwanegu mwy o faich a chostau ariannol pan fydd y diwydiant angen amser sylweddol i adfer ar ôl effeithiau COVID-19. Fel y gwyddoch eisoes, mae tystiolaeth o rai cynlluniau gwirfoddol da iawn ledled Cymru. Er enghraifft, prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch afon Cymru, sy'n gynllun llwyddiannus iawn a gafodd dderbyniad da gan ffermwyr. O ystyried yr effaith ddifrifol iawn y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar ffermwyr, a wnewch chi ymrwymo yn awr i ddiddymu’r rheoliadau hyn, ac yn lle hynny, ymrwymo i weithio gyda ffermwyr i edrych ar rai o'r atebion eraill, yn enwedig ar adeg pan fydd yn rhaid i'r diwydiant ymadfer ar ôl COVID-19?