Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 16 Medi 2020.
Diolch am y cwestiynau gan yr Aelod. Ar eich pwynt cyntaf, yn ymwneud â gwyliau, rwy'n cydnabod bod Hefin David wedi bod yn sôn ddoe, ond mewn gohebiaeth, ac mewn trafodaeth â mi hefyd, am ei drigolion yn etholaeth Caerffili, ac rwy'n hapus i dderbyn awgrym yr Aelod ynglŷn ag ysgrifennu at rannau o'r diwydiant gwyliau eto. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â hwy, eu hyswirwyr, i gadarnhau unwaith eto y cyfyngiadau sydd bellach ar waith a'r ffaith na fydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn gallu mynd ar wyliau—byddai gwneud hynny'n torri'r gyfraith—ac i fynd ar drywydd ymateb ar y mater hwn ac yn wir yr ymateb rydym yn ei ddisgwyl mewn perthynas â Chaerffili. Ac rwy'n hapus i dderbyn awgrym yr Aelod i rannu'r ohebiaeth honno ag Aelodau etholaethol a rhanbarthol fel y gallwch weld y llythyr rydym wedi'i ysgrifennu ac unrhyw ymateb a gawn wedyn.
Rwy'n credu bod pwynt ehangach am y diwydiant teithio a'r niwed i'w enw da y bydd angen ei ystyried. Mae pwynt yno nid yn unig am y cwmnïau gwyliau tramor ond y rhai o fewn y DU hefyd. Nid oes a wnelo hyn yn unig â chydymdeimlad â phobl y cyfyngwyd ar eu gallu i fynd ar wyliau. Pe bai pobl yn torri'r gyfraith ac yn mynd ar wyliau beth bynnag, maent mewn mwy o berygl o gael coronafeirws oherwydd bod trosglwyddo cymunedol yn digwydd, ac nid wyf yn credu y byddai cwmnïau gwyliau'n croesawu sefyllfa lle mae rhywun wedi torri'r gyfraith i fynd ar wyliau ac o bosibl wedi cyflwyno coronafeirws i ran o'u gweithgarwch gwyliau. Mae o fudd i gwmnïau gwyliau wneud y peth iawn, ac mae'n rhaid i hynny olygu sicrhau bod ad-daliadau ar gael ac nad yw pobl yn cael eu rhoi mewn sefyllfa annifyr ac yn yr un modd, nad yw pobl eraill sy'n mynd ar wyliau yn teimlo dan fygythiad gan y bobl sy'n eistedd wrth eu hymyl o ran trafnidiaeth.
Mae yna bwynt ynglŷn â sut rydym yn cefnogi pobl, ac mae pwynt anodd iawn yma, oherwydd, yn y cyfyngiadau sydd wedi'u cyflwyno'n lleol yn Lloegr, nid ydym wedi gweld llif ychwanegol o adnoddau'n mynd tuag at gefnogi busnesau. Nawr, rydym wedi gweld hynny yng Nghaerlŷr ac ardaloedd eraill hefyd, ac unwaith eto, credaf y byddai hyn yn elwa o ymateb cydgysylltiedig yn y DU, lle gallwn eistedd i lawr a deall yr ymateb cyllidebol sydd ar gael, a ph'un a oes cynllun DU gyfan o bosibl ar gyfer busnesau lle rydym yn gosod cyfyngiadau newydd arnynt. Mae ein sefyllfa gyllidebol yng Nghymru yn golygu nad ydym mewn sefyllfa lle mae gennym lawer o arian dros ben i allu ei roi i fusnesau i'w cefnogi pan fydd angen inni roi camau iechyd cyhoeddus ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ehangach. Dyna pam rwyf fi a'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ein bod eisiau gweld proses COBRA yn ailddechrau o ddifrif, i gael sgyrsiau rheolaidd, a rhannu penderfyniadau gobeithio, ond yn yr un modd, o fewn ein cyfrifoldebau unigol ein hunain, ffordd well o gyfathrebu, ym mhob rhan o Gymru a'r DU, y dewisiadau sy'n cael eu gwneud a'r hyn sy'n sail iddynt.
O ran gwarchod, cynghorir y wlad gyfan i weithio gartref lle bynnag y bo modd, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i bobl ar y rhestr warchod, nid pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn unig. Y cyngor gan ein prif swyddog meddygol—cawsom drafodaeth fwriadol am y boblogaeth sy'n gwarchod, ac er nad ydym yn cael ein cynghori i ailgyflwyno'r trefniadau gwarchod llawn ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cyswllt uniongyrchol â phobl a oedd gynt yn cael eu gwarchod i'w hatgoffa o'r sefyllfa roeddent ynddi, y sefyllfa bresennol, ac i'w hatgoffa yn arbennig y dylent ddilyn y rheolau hyn yn llym er mwyn sicrhau eu bod yn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws, oherwydd eu bod mewn llawer mwy o berygl o niwed.
A phan ddaw'n fater o aros yn lleol, mae gennym gyfyngiadau teithio lleol, ond mae hefyd yn gyfle i bobl gefnogi eu busnesau lleol. Ac mae hynny'n ymwneud â sut rydym yn cydymffurfio â'r rheolau ein hunain fel cwsmeriaid, ond hefyd sut y mae busnesau eu hunain yn ei gwneud yn glir eu bod yn darparu amgylchedd mor ddiogel â phosibl i'w cwsmeriaid er mwyn iddynt allu parhau i ddod yn ôl, boed ar-lein neu'n gorfforol. A gobeithio y bydd pobl o ddifrif ynglŷn â'r neges hon, nid yn unig o safbwynt gorfodaeth, ond er mwyn gofalu am ein staff ac edrych ar ôl y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.