– Senedd Cymru am 4:01 pm ar 16 Medi 2020.
Yr eitem i ddilyn, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddydd Iau diwethaf, 10 Medi, roedd hi’n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Mae hunanladdiad yn cael effaith niweidiol aruthrol ar deuluoedd ac ar gymunedau, effaith sy'n para am oes. Mae'r ffeithiau am hunanladdiad yn llwm: yn 2018, bu farw 6,507 o bobl yn y DU o ganlyniad i hunanladdiad, gyda dynion deirgwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na menywod. Eleni, i nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, gweithiais gyda Chlwb Pêl-droed Cei Connah i ledaenu’r neges. Y thema eleni oedd gweithio gyda'n gilydd i atal hunanladdiad, ac rwy'n hynod falch o dîm Cei Connah, ac os caf ddweud, Lywydd, rwy'n hynod o falch o ddod yn llysgennad y clwb yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio y bydd y fideo a wnaethom gyda'n gilydd yn cyrraedd rhywun sydd angen clywed ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn, a bod cymorth ar gael. Nawr, Lywydd ac Aelodau, mae'r fideo wedi’i binio ar frig fy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, felly ystyriwch helpu eraill drwy ei rannu. Lywydd, mae mwy i'w wneud ac nid oes amheuaeth fod angen i Lywodraethau wneud mwy. Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn atal hunanladdiad. Felly, fel y dywedais ar y dechrau, cynhelir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn flynyddol ar 10 Medi, ond gadewch inni wneud ymrwymiad heddiw yma yn Senedd Cymru, yn y Senedd hon, fod Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn digwydd 365 diwrnod y flwyddyn, a bod pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd i atal hunanladdiad.
Roedd yn fraint i mi ymweld yr wythnos diwethaf, gyda fy nghyd-Aelod Adam Price, â sefydliad gwych yn Llanelli, CYCA—Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin gynt, ac a elwir bellach yn Connecting Youth, Children and Adults. Rwyf wedi bod yn ymwybodol o waith CYCA ac wedi’u cefnogi ers bron i 20 mlynedd, ac roedd yn ysbrydoledig iawn gweld sut y maent wedi mynd o nerth i nerth wrth gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn yr amseroedd heriol hyn, ac eleni, maent yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed. Byddai'n haws rhestru'r hyn nad yw CYCA yn ei wneud yn y maes na'r hyn y maent yn ei wneud, gan fod eu gwaith mor bellgyrhaeddol. Maent yn cynnal meithrinfeydd a grwpiau ieuenctid, cyrsiau addysg a hyfforddiant, maent yn darparu cwnsela a chefnogaeth unigol, a chefnogaeth i deuluoedd. Gwnaeth straeon dwy fam ifanc argraff fawr arnom, gan eu bod, drwy CYCA, nid yn unig wedi derbyn cefnogaeth gyda heriau ynysu a bywyd teuluol, ond maent hefyd wedi gallu dychwelyd at addysg; mae un yn dechrau hyfforddi fel bydwraig yr wythnos hon. Ac roedd hefyd yn wych gweld cynllun presgripsiynu cymdeithasol arloesol, lle mae meddygon teulu’n cyfeirio plant a phobl ifanc sy'n wynebu trallod at CYCA. Mae'r tîm wedyn yn gweithio gyda'r teulu cyfan, gan nodi anghenion cymorth a darparu beth bynnag sydd ei angen—cwnsela, cymorth rhianta, cymorth yn yr ysgol—ac mae'r gefnogaeth hon yn para cyhyd â bod ei hangen ar y plant a'r teulu. Mae eisoes wedi cael cryn dipyn o lwyddiant, gyda lles pobl ifanc wedi'i wella'n fawr. Dywedodd un o ddefnyddwyr y gwasanaeth wrthyf flynyddoedd yn ôl, 'Y peth am CYCA yw nad ydynt byth yn rhoi’r gorau i geisio’ch helpu'. Ac nid ydynt. Nid yw CYCA byth yn rhoi’r gorau i geisio helpu plentyn, unigolyn ifanc, oedolyn agored i niwed neu deulu. Rydym yn ffodus i’w cael yn ein tref, ein sir a'n cymuned. Pen-blwydd hapus iawn, CYCA. Edrychaf ymlaen at weld beth fyddwch chi'n ei wneud yn y 40 mlynedd nesaf.
Yr wythnos hon, rydym yn coffáu 80 mlynedd ers Brwydr Prydain, wythnos pan frwydrodd y Llu Awyr Brenhinol i'r eithaf dros ein gwlad a'n ffordd o fyw. Yn erbyn pedair gwaith yn fwy o awyrennau’r Luftwaffe, dangosodd dewrder a medr ein hawyrenwyr ei bod yn bosibl trechu goresgyniad Natsïaidd. Roedd eu llwyddiant wrth drechu’r Natsïaid yn foment bwysig yn y rhyfel, yn strategol ac yn seicolegol. Pe bai'r frwydr wedi'i cholli, byddai Prydain wedi cwympo ac ni fyddai'r gwrthymosodiad, a ddechreuodd ar y glannau hyn ac a newidiodd lwybr y rhyfel, wedi bod yn bosibl. Felly, 80 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn cofio'r ychydig rai, chwedl Churchill, y bron i 3,000 o awyrenwyr o Brydain, y Gymanwlad a phob cwr o’r byd a ymladdodd yn yr awyr gyda dewrder a phenderfyniad yn ystod haf hir a phoeth. Chwaraeodd Cymru ran bwysig ym Mrwydr Prydain: yn RAF Penarlâg, hyfforddwyd peilotiaid i hedfan awyrennau Spitfire; bu RAF Pen-bre yn gweithredu fel gorsaf reoli awyrennau wrth i awyrennau Spitfire a Hurricane esgyn oddi yno; ac o'r 67 o awyrenwyr o Gymru a ymladdodd, gwnaeth 17 ohonynt yr aberth fwyaf un. Felly, 80 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn cyfarch yr arwyr hyn ac yn diolch i Dduw am eu cyflawniadau anhygoel.
Diolch i bawb am y datganiadau yna. Byddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer.