2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 22 Medi 2020.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn dilyn colli'r apêl yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys gan fenywod a anwyd yn y 1950au yr effeithiwyd arnynt gan newid oedran pensiwn y wladwriaeth o 60 i 66? OQ55546
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dwfn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ar ran menywod yng Nghymru sydd wedi wynebu'r anghyfiawnder o'u hoedran pensiwn y wladwriaeth yn cael ei godi heb rybudd effeithiol na digonol. Rwy'n ymwybodol o ddyfarniad y Llys Apêl, a byddaf, wrth gwrs, yn monitro unrhyw apêl os caiff ei chyflwyno i'r Goruchaf Lys.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Bydd ef yn gwybod fy mod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag ymgyrchwyr ar draws fy rhanbarth i, yn enwedig yn Llanelli a Sir Benfro, ar y mater hwn. Roedd y canlyniad yn amlwg yn siomedig, ond nid oedd yn syndod llwyr.
Tybed a fydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ei bod yn ymddangos yn debygol bellach y daw'r ateb i hyn o benderfyniadau gwleidyddol yn hytrach nag o unrhyw ddyfarniad cyfreithiol. A fyddai hon yn adeg amserol i Lywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau unwaith eto i Lywodraeth y DU ar ran menywod Cymru a gafodd eu heffeithio gan hyn?
Mae'n ymddangos i mi, yn sgil argyfwng COVID, fod hyn yn arbennig o berthnasol. Wrth gwrs, mae gennym lawer o fenywod a fyddai wedi disgwyl gallu ymddeol ond sydd bellach yn gorfod aros yn y gwaith. Ac efallai y bydden nhw mewn sefyllfa, os byddai modd iddyn nhw ymddeol a chael yr hawl i'r pensiwn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, i allu ymddeol ychydig yn gynharach ac o bosibl ryddhau rhywfaint o waith i bobl iau, y bydd ei angen yn ddybryd.
Wel, rwy'n rhannu siom yr Aelod â chanlyniad yr apêl; fel y dywed hi, efallai'n fwy o siom nag o syndod o ystyried cynnydd yn y mater. Mae'r menywod hyn yn fenywod sydd wedi wynebu gwahaniaethu, yn aml iawn, drwy gydol eu bywydau gwaith. Felly, bydd yn arbennig o siomedig i fod wedi cael y canlyniad hwnnw.
Fel y bydd hi'n gwybod, rwyf wedi parhau i chwilio am gyfleoedd i allu ymyrryd, o bosibl, ac nid oes yr un ohonyn nhw, yn anffodus, wedi dod i'r amlwg. Ond yn ei chwestiwn, rwy'n credu ei bod hi'n iawn yn dweud, o ystyried nad yw'r strategaeth ymgyfreitha yn dwyn ffrwyth fel y gallem fod wedi ei obeithio efallai, fod yna rai cynigion ymarferol y mae llawer o'r grwpiau hyn wedi'u cyflwyno er mwyn pontio i gyfres fwy cyfiawn o ganlyniadau. Rydym wedi gohebu'n gyson â Llywodraeth y DU, fel y mae'r Aelod yn gwybod. Rwy'n credu, yn anffodus, na chafwyd ateb i'n llythyr diweddaraf hyd yn oed. Ond, byddwn ni'n parhau i gyflwyno'r sylwadau hynny fel bod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â'r menywod hyn, nid yn y llysoedd, ond wrth geisio datrys yr hyn sydd wedi bod ers peth amser, yn anghyfiawnder mawr.