– Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Medi 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad llafar—yr wybodaeth ddiweddaraf ar y coronafeirws. Mae'r ddadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Ac yn olaf, mae'r cynnig i gytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 wedi'i dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad am gyngor ar gaffael yn y sector cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi? Mae eich ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar ar y mater hwn yn peri pryder mawr i mi gan eich bod wedi awgrymu y gallech chi fod yn rhoi hysbysiad cyngor ar gaffael newydd i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac yn yr ateb hwnnw a gafodd ei gyhoeddi gennych chi, gwnaethoch chi, yn benodol gyfeirio ato'n cael ei dargedu, o bosibl, at genedl Israel, oherwydd gwnaethoch chi gyfeirio ato fel rhywbeth oedd yn ymwneud â mannau lle mae anghydfodau tiriogaethol.
Nawr, wrth gwrs, o'r lleoedd di-rif ledled y byd lle mae anghydfodau tiriogaethol, soniodd yr ateb hwnnw, a gafodd ei gyhoeddi gennych chi, yn benodol am y wladwriaeth Iddewig. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn a mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth. Mae hynny'n cyfeirio at beidio â gwneud dim a allai arwain at osod safonau dwbl ar genedl Israel. Ond, wrth gyfeirio yn benodol at Israel yn eich ateb i gwestiwn ar gyngor ar gaffael, mae'n awgrymu y gallai hynny fod yn wir pe baech yn cyhoeddi'r darn penodol hwnnw o gyngor.
Felly, rwy'n bryderus iawn ynghylch y neges y mae hynny'n ei hanfon i'r gymuned Iddewig yng Nghymru. Gwn i nad yw Llywodraeth Cymru eisiau anfon negeseuon gelyniaethus i'r gymuned Iddewig a'i bod eisiau mynd i'r afael â'r gwrthsemitiaeth sy'n bodoli. Felly, byddwn i'n eich annog i ailedrych ar yr hysbysiad cyngor ar gaffael yr ydych chi'n ei baratoi, i sicrhau nad yw'ch cynigion yn amharu ar y gwaith da sydd wedi'i wneud yma yng Nghymru i ymdrin â'r cynnydd mewn gwrthsemitiaeth yn ein gwlad.
Hoffwn i sicrhau Darren Millar nad oes unrhyw fwriad o gwbl i nodi unrhyw genedl yn benodol ac roedd yr ymateb yn ymwneud â thiriogaethau wedi'u meddiannu mewn unrhyw le yn y byd. Fodd bynnag, deallaf i fod rhai pryderon sylweddol ynghylch hyn, felly rydym ni'n cymryd rhywfaint o gyngor cyfreithiol pellach cyn cymryd unrhyw gamau pellach ar y nodyn cyngor ar gaffael hwnnw, a gwn i fod y Prif Weinidog wedi cael cyfarfod da iawn gyda bwrdd y dirprwyon, lle cafodd hyn ei drafod eto. Ond er mwyn tawelu meddwl Darren Millar a phawb arall, nid oes bwriad i nodi unrhyw genedl yn benodol o ran y nodyn cyngor ar gaffael, ond rydym ni'n cymryd cyngor pellach, ac ni fydd dim byd yn cael ei gyhoeddi tan fod y cyngor hwnnw wedi dod i law ac wedi'i ystyried.
Mae llawer o bobl yn hunanynysu, neu byddan nhw yn ystod y misoedd nesaf, wrth i gyfraddau trosglwyddo COVID ymledu ledled y wlad. Rwyf i wedi cael llawer o negeseuon gan bobl yn y Rhondda, sydd eisoes wedi dioddef niwed ariannol sylweddol yn sgil y cyfyngiadau symud cyntaf. Gall rhai pobl weithio gartref, mae rhai pobl yn hunangyflogedig, mae gan rai pobl hawl i dâl salwch neu dâl salwch statudol, ac ni all eraill gael dim byd o gwbl. Nawr, rwyf i wedi cyflwyno sylwadau i San Steffan am hyn heb lwyddiant. Rhaid i ni ei gwneud hi'n hawdd i bobl gadw at y rheolau. Nawr, gan na allwn ni ddibynnu ar San Steffan, a gawn ni glywed gan Lywodraeth Cymru beth y mae wedi'i wneud i wella'r cymorth ariannol i bobl sy'n gorfod hunanynysu? Pa sylwadau neu gynlluniau ydych chi wedi'u gwneud?
Nawr, mae Plaid Cymru yn credu y gallech chi fod yn gweithredu incwm sylfaenol cyffredinol a fyddai'n helpu i atal lledaenu COVID ac yn helpu i liniaru tlodi. A ydych chi'n cytuno â ni ar hynny ac a wnewch chi hynny?
Diolch i Leanne Wood am godi'r mater hwn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig o ran i ba raddau y gallwn ni ymestyn cyllideb Llywodraeth Cymru, ond, wedi dweud hynny, rydym ni wrthi'n cynnal trafodaethau gyda Thrysorlys EM a rhannau eraill o Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cyhoeddiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud o ran rhyw fath o gymorth incwm i'r unigolion hynny nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar fathau eraill o gymorth. Rydym ni'n ceisio, drwy gydol heddiw, ddeall ffynhonnell y cyllid hwnnw'n well, yr hyn y mae'n ei olygu o ran cyllid canlyniadol Barnett, ac os gallwn ni ddweud mwy am hynny cyn bo hir, fe wn i y byddwn ni'n gwneud hynny.
Yn ystod y cwestiynau, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n ceisio dod â datganiad i'r lle hwn am y rheoliadau coronafeirws newydd a ddaw o ganlyniad i gyfarfod COBRA y bore yma. Rwy'n deall, o'r cyfryngau cymdeithasol, y bydd yn gwneud datganiad cyhoeddus ar y mater hwn heno am 20:05. Felly, byddai'n llawer gwell, rwy'n credu, i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon pe bai'n gallu dod yn ôl i'r Siambr y prynhawn yma i wneud datganiad fel y gallwn ni gael cyfle i graffu ar Lywodraeth Cymru ar y materion hyn cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heno.
Yn ail, rwy'n deall o'r datganiad busnes fod datganiad yr wythnos nesaf ynghylch y cynllun cadernid economaidd, a bydd Gweinidog yr economi'n rhoi'r datganiad hwnnw. Mae yn ei le y prynhawn yma, a gwn ei fod yn gallu clywed fy nghwestiwn, felly rwy'n gobeithio y gallwch chi gadarnhau, rheolwr busnes, y bydd y datganiad hwnnw'n cynnwys yr holl sectorau hynny y mae rheoliadau'r coronafeirws yn effeithio arnyn nhw, gan eu bod yn cael eu diwygio yr wythnos hon, ac yn enwedig yr ardaloedd hynny o Gymru, megis Blaenau Gwent, lle mae cyfyngiadau newydd ar waith. Caiff hyn effaith sylweddol ar ein heconomi ac ar lawer o bobl a theuluoedd yn ein cymunedau, ac mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn rhoi rhywfaint o gefnogaeth a chymorth sylweddol i'r bobl hynny fel rhan o'i hymateb i'r argyfwng coronafeirws sy'n parhau. Gobeithio y bydd y datganiad am yr economi yr wythnos nesaf yn ddatganiad ehangach sy'n cynnwys yr holl feysydd gwahanol hynny.
Yn olaf—
Na, nid oes 'yn olaf', Alun Davies. Rydych chi wedi cael dau bwynt ac rydych chi dros amser, ond diolch. Y Trefnydd i ymateb.
Diolch. Felly, o ran y cyntaf o'r pwyntiau hynny, fe hoffwn eich cyfeirio chi at y sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, o ran yr angen i dreulio amser y prynhawn yma yn siarad â'n partneriaid mewn llywodraeth leol ac yn yr heddlu, ac eraill, er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond, yn amlwg, mae'r Prif Weinidog yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gydweithwyr, ac, wrth gwrs, mae'r datganiad gennym ni gan y Gweinidog iechyd o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws yn ddiweddarach y prynhawn yma, a fydd yn gyfle i gydweithwyr holi'r Gweinidog iechyd am y materion hyn.
O ran y datganiad yr wythnos nesaf, gwn i mai bwriad Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth yw dweud mwy am y gronfa cadernid economaidd, ac yn enwedig cam 3. Nid wyf eisiau achub y blaen ar unrhyw beth y bydd y Gweinidog yn ei ddweud yr wythnos nesaf, ond gallaf i ddweud fy mod wedi cael trafodaethau da iawn gydag ef ac rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol iawn o ddimensiwn lleol yr heriau sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd.
Trefnydd, mae mater iechyd meddwl wedi symud i flaen ein holl feddyliau yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod y pandemig gyda'r materion iechyd meddwl cysylltiedig sydd wedi bod yn effeithio ar rai pobl. Efallai eich bod yn ymwybodol bod Mind Cymru wedi lansio eu hymgyrch Sefwch drosof i, yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru, Aelodau presennol y Senedd ac ymgeiswyr yn y dyfodol i sefyll dros faterion iechyd meddwl. Tybed a gawn ni ddatganiad neu ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n cael ei wneud cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf i gadw'r sylw ar iechyd meddwl, nawr ac ar ôl yr etholiad hwnnw.
Os gaf i, Llywydd, ar fater cysylltiedig, 10 Medi oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Gwn iddo gael ei grybwyll yn y Siambr hon yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, o bosibl gan Jack Sargeant. Tybed a gawn ni ddatganiad—unwaith eto, gofynnodd Jack am hyn—gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud yr hyn a allwn i helpu i atal hunanladdiad, i weld yr arwyddion rhybudd cyn i'r diwedd ofnadwy ddod i rywun fel y gallwn ni wneud ychydig mwy i wrando a darparu'r Gymru garedicach honno yr ydym i gyd am ei rhoi i'n cydweithwyr a'n ffrindiau.
Diolch, Nick Ramsay, am hynna, ac yn bendant, byddaf yn trafod gyda'r Gweinidog iechyd o ran beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i hyrwyddo'r diwrnod hwnnw, ond hefyd i hyrwyddo'r neges ei bod yn hollol iawn i siarad â phobl. Mae'n iawn peidio â bod yn iawn, fel y dywedodd Jack Sargeant wrthym ni yn y Siambr yr wythnos diwethaf. Rwy'n gwybod y bydd pob cyd-Aelod wedi cael gohebiaeth gan Mind Cymru, yn nodi eu hymgyrch newydd, gan ein hannog fel Aelodau'r Senedd a holl Aelodau'r Senedd yn y dyfodol i wneud yr addewid hwnnw i sefyll dros iechyd meddwl, a gwn y byddwn ni i gyd yn awyddus iawn i ymgysylltu â hynny.
Wrth gwrs, rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun cyflawni tair blynedd newydd 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn ddiweddar. Mae hynny wedi bod yn gam pwysig ymlaen, ac yn enwedig, rwy'n credu, o ran gwella mynediad at therapïau seicolegol. Gallaf ddweud bod y Gweinidog iechyd hefyd wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd i ofyn am gynigion o ran cyllid ar gyfer y gronfa drawsnewid o 2021-22 ymlaen er mwyn rhoi'r olwg hwy honno a'r safbwynt hwy hwnnw ar fuddsoddi mewn trawsnewid iechyd meddwl.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd, un gan Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ynglŷn â'i gyhoeddiad diweddar ynghylch y cynnig llwybr coch sy'n ymwneud, wrth gwrs, â'r A55 ar hyd coridor Sir Fflint? Rwyf wedi cael lli o ymholiadau gan etholwyr sy'n bryderus iawn ac sy'n gweld tebygrwydd dilys a chlir rhyngddo a'r penderfyniad ynghylch ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd. Yn amlwg, mae pryderon ynghylch cost—mae'r gost ragamcanol o £210 miliwn yn 2016 bellach dros £300 miliwn. Rydym ni'n gwybod ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yma yng Nghymru. Wel, os yw hynny'n golygu rhywbeth, yna'n sicr mae'n golygu bod angen i'r Llywodraeth gamu'n ôl ac o leiaf ystyried dewisiadau eraill heblaw priffordd bedair lôn yn unig. Ac, wrth gwrs, mae pandemig COVID wedi newid telerau'r ddadl, gan y bydd mwy o bobl yn gweithio gartref, sy'n golygu y bydd llai o alw ar ein seilwaith ffyrdd yn y blynyddoedd i ddod. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am gael adferiad coronafeirws sy'n ,'Datblygu economi decach, wyrddach a mwy cadarn.' Wel, os nad yw hynny'n golygu ailedrych ar y cynnig hwn, yna mae'n amlwg ei fod yn fusnes fel arfer i Lywodraeth Cymru ac nid oes dim byd wedi newid o gwbl.
Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd—ac mae hyn yn ymwneud â'ch swydd yn Weinidog cyllid—yn tynnu'r cynllun grant ardrethi ar gyfer pob cynhyrchydd ynni dŵr masnachol yn ôl. Rwy'n credu bydd hynny'n effeithio ar tua 50. Rwy'n sylweddoli eich bod chi dal yn cefnogi saith cynllun dŵr cymunedol, ond, yn fwy cyffredinol, mae'r sector yn ddig iawn, mewn gwirionedd, nad yw wedi gallu cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon a allai fod wedi dylanwadu ar eich penderfyniad. Mae llawer o'r cynlluniau bellach—
A wnewch chi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda, Llyr?
Wel, yn y bôn, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog cyllid yn esbonio pam y mae hi'n credu bod tynnu'r cynllun grant ardrethi ar gyfer generaduron ynni dŵr yn ôl yn syniad da, o ystyried uchelgeisiau'r Llywodraeth o ran di-garbon-net.
Diolch i Llyr am y cwestiynau yna, ac, wrth gwrs, mae'r cynllun grant ardrethi annomestig ynni dŵr yn rhan o bortffolio Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ond rwy'n gwybod y bydd yn gallu clywed eich sylwadau ynghylch hynny y prynhawn yma.
O ran llwybr coch yr A55, y bwriad, yn ôl yr hyn yr wyf i yn ei ddeall yw parhau ac adolygu'r gweithgarwch ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb nawr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd wrth i'r cynllun symud ymlaen. Ond bydd hefyd yn cynnwys gwella cysylltiadau teithio llesol, cysylltiadau teithio ar fysiau a gwella cadernid y seilwaith presennol yn ogystal â lleihau tagfeydd. Ac fe wn y byddan nhw'n cynnal rhai ymchwiliadau amgylcheddol ar hyd y llwybr mwyaf ffafriol yn ddiweddarach eleni. Arolygon anymwthiol fydd y rhain yn bennaf gyda nifer fach o ecolegwyr yn ceisio nodi meysydd posibl i'w harolygu ymhellach. Mae hynny'n golygu y byddan nhw'n cysylltu â thirfeddianwyr lleol i drafod mynediad i dir. Felly, dyna'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i, ond wrth gwrs byddaf yn sicrhau bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ymwybodol iawn o'r pryderon yr ydych chi wedi'u codi.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar gadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill mewn archfarchnadoedd. Oherwydd y sefyllfa coronafeirws sy'n gwaethygu, mae rhai archfarchnadoedd eisoes wedi ailgyflwyno ciwiau, systemau un ffordd ac ati, ond mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi pa bynnag bwysau sydd eu hangen ar archfarchnadoedd i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.
Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer teuluoedd sy'n disgwyl babanod. Ar hyn o bryd, nid yw partneriaid yn cael bod yn bresennol yn ystod apwyntiadau sganio, a dim ond yn cael bod gyda'u partner adeg esgor. Nid mater bach yw hwn. Nid salwch yw beichiogrwydd, ac rwy'n credu y gallai rhai o'r cyfyngiadau hyn effeithio ar iechyd meddwl, wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch i chi i Lynne Neagle am godi'r ddau fater pwysig yna, ac fe wn i ei bod hi wir wedi bod yn llais cryf, o ran sicrhau bod archfarchnadoedd yn chwarae eu rhan bwysig yn helpu i gadw pobl yn ddiogel. Rwy'n gallu rhoi sicrwydd, yn ystod y cyfarfodydd rheolaidd y mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn eu cael gyda'r diwydiant bwyd a'r archfarchnadoedd, ei bod hi'n dal i bwysleisio pa mor bwysig ydyw. Rwy'n credu bod llawer mwy o ymdrech wedi bod yn ddiweddar a llawer mwy o sylw ar orfodi, a bydd awdurdodau lleol yn cyflwyno hysbysiadau gwella i siopau unigol ac adeiladau eraill nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon ofynnol. Gwn i fod eu hetholwyr yn aml yn gofyn i Aelodau'r Senedd dynnu sylw'r awdurdodau lleol at siopau sydd wedi peri pryderon iddyn nhw, a bydd yr awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau a chamau gweithredu lle mae'r diffygion hynny wedi'u nodi. Ond rwy'n awyddus i roi'r sicrwydd hwnnw bod hwn yn destun sgwrs gref rhwng Llywodraeth Cymru a'r archfarchnadoedd.
Mae'r ail fater eto'n bwysig iawn, o ran cymorth i famau cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth, ac rwy'n gwybod bod y trefniadau'n cael eu hadolygu'n gyson oherwydd ein bod yn cydnabod rhan bwysig y partner yno o ran cefnogi'r unigolion. Ond os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus am unrhyw beth, y cyngor cyntaf yw siarad â'r fydwraig, oherwydd bydd y byrddau iechyd bob amser yn ystyried amgylchiadau unigol, yn enwedig lle y gallai fod anghenion iechyd meddwl neu anabledd dysgu neu fathau eraill o gymorth y gallai fod eu hangen ar yr unigolyn. Ond, fel y dywedais, rydym ni'n parhau i adolygu hyn yn gyson.
Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar adroddiad Llywodraeth San Steffan NRPB-M173. Rwy'n deall nad yw bellach ar gael i'r cyhoedd, ond mae'n dangos yn gwbl glir bod plwtoniwm wedi bod yn gollwng o Hinkley Point i'r aber ers degawdau. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod adroddiad a phrofion Llywodraeth y DU, ym 1982, wedi dangos bod hynny'n gynnydd enfawr mewn gollyngiad plwtoniwm drwy'r bibell wastraff. Felly, aeth lefel uchel iawn o blwtoniwm i mewn i'r aber yn ôl gwyddonwyr, ac maen nhw, fel y dywedais i, wedi cyflwyno'r dystiolaeth. Y broblem i mi yw bod y Llywodraeth wedi caniatáu i'r mwd gael ei ollwng yn 2018 oherwydd dywedon nhw nad oedd angen profi am blwtoniwm neu allyrwyr alffa, pelydriad alffa, oherwydd nad oedd unrhyw gynnydd cyfatebol mewn gama. Nawr, yr hyn y mae adroddiad NRPB-M173 yn ei ddangos yw nad oes angen uchafbwynt mewn pelydriad gama pan fo uchafbwynt mewn plwtoniwm. Felly, mae gennych chi uchafbwynt enfawr o blwtoniwm yn gollwng i'r aber, ac rwy'n credu ei bod yn rhesymol, felly, tybio ei fod yn y mwd.
A wnewch chi ofyn eich cwestiwn os gwelwch yn dda, Neil McEvoy?
Gwnaf. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw: beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynghylch hyn?
Wel, gyda pharch, Llywydd, hwn yw'r datganiad busnes, ac nid yw Neil McEvoy na minnau'n wyddonwyr. Felly, byddwn i'n awgrymu'n barchus ei fod yn ysgrifennu at y Gweinidog ar y mater penodol hwnnw, er fy mod yn deall bod y Pwyllgor Deisebau hefyd â diddordeb ac, maes o law, bydd cyfle i'r Gweinidog ymateb i adroddiad pwyllgor ar hyn.
Os gallaf i ddechrau drwy gofnodi fy nghefnogaeth i gyfraniad fy nghyd-Aelod Nick Ramsay, o ran atal hunanladdiad ac iechyd meddwl.
Yn ail, Gweinidog, mae'r adferiad economaidd o goronafeirws yn rhywbeth y mae angen i ni ddechrau cynllunio ar ei gyfer a mynd i'r afael ag ef nawr. Efallai bod Aelodau'n ymwybodol i mi ysgrifennu darn ar wefan Labourlist ddechrau'r haf er mwyn i hynny fod yn adferiad gwyrdd, a galwais am fargen newydd werdd i Gymru. Dim ond ddoe, roedd adroddiad bod Airbus wedi datgelu'r awyren deithwyr ddi-allyriadau a hinsawdd-niwtral gyntaf. Os ydym ni eisiau bod o ddifrif ynghylch adferiad gwyrdd, mae angen gwneud adenydd yr awyren honno yng Nglannau Dyfrdwy. Nawr, er mwyn i hynny ddigwydd, Gweinidog, mae angen i Lywodraeth y DU gefnogi'r diwydiant awyrofod gyda bargen sy'n benodol i'r sector i ddiogelu swyddi a diogelu sgiliau. Gweinidog, a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ynghylch beth y dylai natur adferiad gwyrdd fod yng Nghymru a pha gymorth sydd ei angen?
Diolch i Jack Sargeant am godi hynna a'r newyddion a allai fod yn gyffrous iawn o ran dyfodol hedfan, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef bod yn rhaid i Gymru chwarae ei rhan mewn unrhyw ddyfodol. Mae'n iawn wrth ddweud bod angen i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i'r sectorau strategol bwysig hyn—y diwydiannau awyrofod, dur a modurol, dim ond i enwi rhai ohonyn nhw. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn barod i chwarae ei rhan. Rwy'n gwybod bod datganiad ar yr agenda yn yr wythnosau nesaf sy'n ymdrin yn rhannol â'r adferiad gwyrdd, ond efallai na fydd yn canolbwyntio'n benodol ar y sylw penodol y mae Jack Sargeant yn chwilio amdano. Ond rwy'n siŵr y bydd yn dod o hyd i ffordd greadigol o wneud ei ymyriadau yn y ddadl honno.
Diolch i'r Trefnydd. Mi fydd yna egwyl nawr ac fe fyddwn yn ôl ymhen ychydig.