4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:31, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y sylwadau. Nid wyf yn credu fy mod i wedi newid safbwynt y Llywodraeth ar gau ysgolion o gwbl. Rwyf wedi bod yn eglur iawn mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw cadw ysgolion ar agor cyn belled ag y bo modd, ac fe fyddwn ni'n blaenoriaethu ysgolion uwchlaw sectorau eraill. Felly, fe wnawn ni gau rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, neu'n wir yr economi, er mwyn diogelu'r gallu ar gyfer ein hysgolion ni. Mae yna effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Ceir tystiolaeth eu bod nhw'n llai agored i niwed, ac yn llai tebygol o fod yn heintus i oedolion, ac, yn yr un modd, ceir tystiolaeth dda nad yw pob plentyn wedi ffynnu o gael eu haddysgu o bell. Dyma wirionedd sy'n cael effaith yn y tymor hwy ar ragolygon plant a phobl ifanc. Felly, nid yw safbwynt y Llywodraeth wedi newid o gwbl yn hyn o beth.

Ac ni allaf fod yn gliriach na hynny: nid oes cynllun o gwbl ar gyfer brechu gorfodol. Nid wyf yn dymuno codi sgwarnog fel hyn. Mae gennym waith sylweddol i'w wneud eleni yn cynllunio ar gyfer yr ymgyrch brechu rhag y ffliw. Mae angen inni berswadio pobl i fanteisio ar eu hawl i gael pigiad rhag y ffliw, i'w hamddiffyn nhw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas, a bydd hyn yn digwydd hefyd pryd bynnag y cawn ni frechlyn COVID. Rydym eisoes yn cynllunio sut i gyflawni hynny, ac nid yw gorfodaeth yn rhan o gynlluniau'r Llywodraeth hon.

O ran teithio lleol, gyda'r cyfyngiadau a gyflwynwyd eisoes mewn chwe ardal yn y de, mae gennym ni, wrth gwrs, gyfyngiadau eisoes sy'n atal teithio i'r ardaloedd hynny. Felly, os ewch chi'n ôl i'r sefyllfa a gawsom o'r blaen yn ystod y cyfnod pan gafwyd yr achosion cyntaf gyda'r neges i aros yn lleol, gwyddom fod hysbysiadau cosb wedi cael eu rhoi i bobl a oedd yn teithio o'r tu allan i'r ardal. Ac efallai y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw eto, ond nid cyn belled. Ac, mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni ganolbwyntio'n bennaf ar gael pob un ohonom i gyfyngu ar ein cysylltiadau, a bod yn eglur ynghylch yr hyn a ddywed y rheolau am y ffordd yr ydym ni'n cadw pellter cymdeithasol, a'r ffordd yr ydym ni'n dilyn y rheolau penodol ar gymysgu â phobl eraill dan do.

Gyda llawer iawn o symud o gwmpas yn digwydd yn y DU wrth i'r prifysgolion ailagor, rhan o'r her yw y bydd pobl yn symud o un rhan o'r wlad i'r llall, o ardal lle ceir mwy o achosion i ardal lle ceir llai, ac i'r gwrthwyneb hefyd. Fe wyddom ni, fel y gwelsom yn Rhondda Cynon Taf, mewn lleoliadau cymunedol, nad yw'r feirws yn aros o fewn un grŵp oedran arbennig, ac felly ceir pryder ynghylch sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweld niwed yn digwydd, mewn lefelau cymharol is, i boblogaeth y myfyrwyr, ond ni ddylem ddisgwyl y bydd hynny'n aros yn gyfan gwbl o fewn un bloc yn y boblogaeth.

O ran yr heriau sy'n ymwneud ag adeiladau trwyddedig, rydym eisoes yn ystyried beth y dylid ei wneud; mae'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn fwriadol. Rydym eisoes wedi cael dadl ynglŷn ag oriau cau cynharach a'r cyfyngiadau sydd gennym ni am 11 o'r gloch, ac rydym yn ystyried a ddylid symud i 10 o'r gloch. Mae rhywbeth i'w ddweud am gysondeb yn hyn o beth a allai helpu gyda'r neges, a rhan o'r cyfarfod a oedd i'w groesawu yn COBRA heddiw oedd y gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU y byddai o gymorth cael trafodaeth rhwng pedair Llywodraeth y DU, o ran trafod a chytuno ar benderfyniadau lle bynnag y bo modd gwneud hynny, ond fe fyddai hefyd o gymorth o ran cyfathrebu. Roedd yna gydnabyddiaeth rannol, o leiaf, nad oedd peidio â chael cyfarfodydd pedair gwlad wedi bod o gymorth o ran eglurder yn y cyfathrebu. Mae hynny'n bwysig i bobl sy'n awyddus i ddilyn y rheolau a chydnabod ei bod yn bwysig ymddwyn yn unol â'r canllawiau. Felly, nid dim ond ystyried mater 10 o'r gloch a wnawn, rydym hefyd yn ystyried a ddylai hynny ddigwydd o ran gweini wrth fyrddau. Mae cyfyngiadau eraill yn bosibl cyn inni orfod cau i lawr. Fel y soniais o'r blaen, mae'n bosibilrwydd, ond nid yn gynllun, y gellid gwneud yr hyn a wnaeth Iwerddon, lle maen nhw wedi cadw'r tafarndai ar agor, ond dim ond os ydyn nhw'n cynnig bwyd hefyd. Felly mae yna sawl ffordd wahanol i'w throedio cyn cyrraedd y pwynt o gau'r tafarndai yn llwyr, oherwydd pe byddem yn gwneud hynny gallwn fod yn siŵr iawn y bydd rhywfaint o'r yfed yn symud i aelwydydd pobl, sef lle mae'r fectorau mwyaf arwyddocaol o ledaenu'r feirws wedi digwydd.

Fe godwyd materion yn ymwneud â phrofi yng nghyfarfod COBRA y bore yma. Yn y cyflwyniad gyda Dido Harding, y cyfeiriodd Prif Weinidog Cymru ato, roedd yna gydnabyddiaeth unwaith eto fod angen gwella'r sefyllfa, gyda'r heriau hysbys iawn nid yn unig o ran niferoedd y profion, ond o ran cyflymder cwblhau'r profion hynny hefyd. Mae gennym ni yma yng Nghymru wasanaeth olrhain cyswllt da iawn—sy'n hynod effeithiol, yn sylweddol well na'r gwasanaeth yn Lloegr. Ond os yw pobl, yn rheolaidd, yn gorfod aros am dri diwrnod am eu profion, yna ceir her o ran a yw'r bobl hynny, a'u cysylltiadau nhw, eisoes yn cymysgu o fewn y gymuned. Felly mae honno'n rhan o'r her yr ydym ni'n awyddus i ymdrin â hi.

Ac o ran defnyddio'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n ei ryddhau i'r system, rydym yn mynd i gael lonydd ychwanegol a mwy o brofion ym mhob canolfan profi trwy ffenest y car. Rydym yn creu nifer ychwanegol o unedau profi symudol hefyd. Ar hyn o bryd, fe fyddan nhw'n cael eu rhoi yn yr ardaloedd lle mae'r nifer fwyaf o achosion—ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ond fe fyddwn ni'n parhau i geisio deall pa mor hir y mae disgwyl inni orfod aros i'r rhaglen labordai goleudy fod yn ei hôl ar y trywydd iawn. Ac efallai y bydd angen inni gymryd camau pellach i newid mwy o'n profion ni, i sicrhau eu bod yn fwy dibynadwy a chadarn, i'r capasiti yr ydym ni wedi cymryd yr amser a'r adnoddau i'w adeiladu yma yng Nghymru, yn ogystal â'r £32 miliwn a gyhoeddais i o'r blaen i atgyfnerthu ein seilwaith profi ni yma yng Nghymru drwy'r hydref a'r gaeaf.