Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 22 Medi 2020.
Diolch, Weinidog, am y datganiad yna. Cyn imi ofyn cwpwl o gwestiynau am y datganiad ei hun, mae gen i gwpwl o sylwadau am yr atebion y clywsom ni yn y fan yna. Mi fydd pobl wedi dychryn yn clywed y gallai ysgolion gau eto—fel cam olaf, fel y dywedoch chi. Dwi'n sicr, fel un, yn edrych ymlaen am ddatganiad clir iawn gan y Llywodraeth—y Gweinidog Addysg, nid y chi—y bydd addysg yn parhau y tro yma yn ddiamwys os ydy ysgolion yn gorfod cau, a dyna beth fydd rhieni, dwi'n meddwl, yn disgwyl ei glywed.
Dwi'n croesawu hefyd eich eglurhad chi ynglŷn â brechiadau gorfodol—dydy o ddim yn gynllun, meddai chi. Dyma pam fod dewis geiriau mor ofalus gan ein harweinwyr ni ar yr adeg hon—. Rydych chi'n dal i ddweud, 'Dydyn ni ddim yn cynllunio gwneud hyn.' Mae eisiau bod yn glir iawn na fydd y Llywodraeth yn gwneud hyn, oherwydd dyma'r math o beth sydd yn mynd i godi amheuon mawr ym meddyliau etholwyr ledled Cymru, yn hytrach na'u cael nhw i ddilyn a bod yn dymuno dilyn cyngor a chyfarwyddyd y Llywodraeth.
Ychydig o gwestiynau. Dwi'n croesawu ehangiad y cyfyngiadau—mae'n amlwg bod y patrwm yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Rydym ni'n sicr yn croesawu dilyn y patrwm yma o gyfyngiadau lleol. Un peth rydych chi'n ei wneud, wrth gwrs, ydy gofyn i bobl aros o fewn eu hardaloedd eu hunain. Mae yna anomali yn fan hyn ar draws Prydain. A gaf ofyn i chi: ydy o'n fwriad i siarad efo'r Llywodraeth yn Lloegr, awdurdodau lleol yn Lloegr, i ofyn iddyn nhw wneud yr un fath? Achos, ar hyn o bryd, er bod pobl yng Nghymru yn gorfod aros yn eu ardaloedd eu hunain, os ydyn nhw'n ardaloedd o risg, ardaloedd o dan gyfyngiadau, does dim byd i atal pobl rhag teithio i Gymru o ardaloedd eraill. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth sydd angen ei drafod ar y lefel uchaf rhwng Llywodraethau.
Ydy'r Gweinidog yn credu bod angen y plan B yn barod? Er enghraifft, mae yna, i fi, lefydd amlwg lle dydych chi ddim yn mynd yn ddigon pell. Does yna ddim cyfyngiad, ar wahân i gau am 11 y nos, ar dafarndai, gymaint ag a fyddai pobl, dwi'n meddwl, yn dymuno ei weld. Rydym ni y tu ôl i Loegr yn sicr ar hyn erbyn hyn. Ydych chi yn ystyried mynd gam ymhellach a gofyn i bobl gau yn gynharach fel cam lleiaf, dim ond agor y tu allan, cau tafarndai a bwytai hyd yn oed, os, a dim ond os, yr ydych chi'n gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol iddyn nhw?
I gloi, dwi angen, unwaith eto, tynnu sylw at y broblem yn fan hyn. Rydym ni'n cefnogi'r cyfyngiadau ychwanegol, yn gofyn os ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell, ond mae'n rhaid mynd i'r afael â'r broblem efo profi. Rydych chi wedi rhoi datganiad allan heddiw yn dweud y bydd hi'n wythnosau nes y bydd lighthouse labs wedi cael ei ddatrys. Dydy hynny ddim yn digon da. Rydych chi'n dweud bod yna 28,000 o brofion ychwanegol yr wythnos yng Nghymru rŵan, yn cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â hynny. Fedrwch chi egluro o ble yn union mae'r 28,000 o brofion yr wythnos yma yn dod, a phryd byddwn ni'n gweld eu heffaith nhw yng Nghymru?
Ac o ran y datganiad gan y Prif Weinidog heno, plis a wnewch chi dynnu fo ymlaen fel ein bod ni'n gallu cael hwn yn y Senedd y prynhawn yma? Diolch yn fawr.