Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 22 Medi 2020.
Diolch am y gyfres o sylwadau, ac fe geisiaf i ymateb i'r pwyntiau sydd â chwestiynau ynghlwm wrthyn nhw. Mae'r Senedd, wrth gwrs, yn pleidleisio ar y rheoliadau a'r cyfyngiadau sylweddol a gyflwynwyd a'r ymyriadau ar ryddid pobl, ac rwy'n cydnabod hynny; nid yw'n benderfyniad hawdd na syml. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud serch hynny yw osgoi niwed, nid aros nes y bydd niwed sylweddol wedi cael ei achosi. Yn y don gyntaf, o'n cymharu ni â Lloegr, rydym ni wedi gweld llawer llai o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Felly, mae hynny'n gadarnhaol, ac eto i gyd rydym ni'n parhau i weld fod yna fwy na 2,500 o bobl wedi colli eu bywydau i goronafeirws. Mae hynny er gwaethaf y mesurau sylweddol a wnaed gennym. Gallwn fod yn hyderus y buasai llawer iawn mwy o farwolaethau, mae arnaf ofn, oni bai am y mesurau hyn, a dyna pam mae angen inni weithredu.
O ran yr her ynghylch a ddylem ni ddefnyddio'r wialen fedw ar gyfer y bobl hynny nad ydyn nhw'n dilyn y rheolau, mewn gwirionedd, angen dwyn perswâd sydd arnom ni, i annog a chefnogi pobl i ddilyn y rheolau. Ac, yn arbennig felly, dyna pam mae'r mesurau ariannol i gefnogi hunanynysu mor bwysig. Fe fyddai cael eglurder cyflym ynghylch y symiau canlyniadol ar gyfer hynny i'w groesawu'n fawr ym mhob un o'r pedair gwlad, ac roedd yn bwynt a godwyd yng nghyfarfod COBRA heddiw, sef bod angen eglurder ar gyfer Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ynglŷn â'r arian a fydd ar gael i helpu pobl sy'n hunanynysu. Oherwydd os ydych yn cael tâl salwch statudol, a bod angen ichi hunanynysu am 14 diwrnod, efallai y byddwch chi'n gweld na allwch fwydo eich teulu na thalu eich biliau. Nid yw honno'n sefyllfa y dymunwn roi pobl ynddi, felly fe allai achosi i bobl beidio â mynd am y prawf yn y lle cyntaf. Felly, cyn gynted ag y cawn ni eglurder am y cyllid, fe fyddwn ni'n hapus i ddod yn ôl gyda chynllun i sicrhau bod hynny ar waith.