Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 23 Medi 2020.
Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Nid yw'n rhywbeth sy'n llithro oddi ar y tafod yn hawdd o ddydd i ddydd, ond rwy'n croesawu cyfraniad agoriadol rhagorol y Cadeirydd y credaf ei fod yn esbonio'r cyd-destun i'r gwaith pwysig hwn.
Roedd yr adroddiad yn un diddorol iawn i ymwneud ag ef, oherwydd mae'n edrych ar faes sy'n allweddol i ddatganoli ar hyn o bryd—pwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd, nid yn unig yn y ffordd ddamcaniaethol y buom yn sôn amdano ers cyhyd. Fel y dywed yr adroddiad, mae ffin Cymru'n boblog iawn, gyda 17 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi. Gyda 44 y cant o boblogaeth Cymru yn talu treth incwm, o'i gymharu â 47 y cant o boblogaeth y DU, roedd hi'n amlwg i ni ar y pwyllgor fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o ddatblygu sylfaen treth incwm Cymru a chynyddu refeniw treth i'r eithaf.
Os caf droi at yr argymhellion yn fyr. Yn argymhelliad 1 rydym yn argymell mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i wella'r broses o gasglu data yng Nghymru ac i ddefnyddio arbenigedd CThEM yn y maes hwn i gefnogi ymchwil. Yn y cyfamser, mae argymhelliad 3 yn galw am wella data sy'n benodol i Gymru, ac wrth gwrs, rydym i gyd am weld hynny. Mae diffyg data Cymreig yn her gyson i ddatganoli cyllidol. Yn wir, faint o ddadleuon a gawn yn y Siambr hon ac ar Zoom lle nad yw diffyg data Cymreig yn codi? Mae'n codi drwy'r amser, ac mae angen gwella hynny ar draws nifer o bortffolios.
Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ymchwil a gyflawnwyd gan Brifysgol Caerdydd, 'A Welsh tax haven?'. Mae'n ddeunydd darllen diddorol iawn. Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad yw newidiadau yn y gyfradd sylfaenol yn cael fawr o effaith ar fudo ac arenillion treth, ond byddai effeithiau sylweddol i newidiadau i'r cyfraddau ychwanegol ac uwch. Roedd hynny'n fy atgoffa—rwy'n siŵr ei fod yn atgoffa Mike Hedges—o'r gwaith a wnaeth yr Athro Gerry Holtham rai blynyddoedd yn ôl yn y maes hwn, pan ddaeth i'r casgliad ei bod hi'n eithaf anodd yn ymarferol newid cyfraddau treth a chael effaith gadarnhaol, heblaw am ostwng y gyfradd uwch o drethiant oddeutu 10c yn y bunt, rhywbeth a allai annog entrepreneuriaid a thyfu sylfaen drethi Cymru. Ac mae hynny'n ganolog i'r broblem economaidd sy'n ein hwynebu yng Nghymru ac sydd wedi ein hwynebu ers peth amser. Yn y bôn, mae sylfaen drethi Cymru'n rhy fach. Rwy'n deall yn iawn pam, mewn cwestiynau cynharach i'r Gweinidog cyllid ac yn wir mewn trafodaethau gyda'r Prif Weinidog, y dangoswyd amharodrwydd i godi trethi, er y bu trafodaethau yn ystod y pandemig COVID ynglŷn ag a allai hynny fod yn anochel ar ryw adeg. Wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r sylfaen drethi'n ddigon gwan fel y mae, felly byddai'n rhaid ystyried unrhyw gynnydd yn ofalus iawn a gallai gael effaith negyddol yn y pen draw.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eisoes wedi dweud bod y bwlch y pen rhwng treth y DU a Chymru yn deillio o'r ffaith bod incwm cyfartalog is gan drethdalwyr Cymru. Wel, nododd 'A Welsh tax haven?' fod effeithiau mudo ac effeithiau amrywio'r gyfradd uwch ar refeniw yn dod yn gryfach dros gyfnod hirach, gyda gostyngiad yn y gyfradd ychwanegol o 45 y cant i 40 y cant yn ôl pob tebyg yn cael yr effaith fwyaf ar gynyddu refeniw treth Cymru ar gyfradd flynyddol o £55 miliwn ar ôl 10 mlynedd. Felly, ceir budd cronnol o doriadau treth dros amser, ond wrth gwrs, yr ochr arall i'r geiniog yw bod lleihau'r cyfraddau'n golygu, yn y tymor byr o leiaf, fod gostyngiad mewn refeniw a gwariant cyhoeddus, rhywbeth nad yw'n arbennig o dderbyniol, yn enwedig mewn pandemig.
Nawr, gwnaed rhai cymariaethau â'r Alban ac mae modelu wedi'i wneud yno i weld effaith cyfraddau treth incwm gwahaniaethol i'r gogledd a'r de o'r ffin, ond daeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad fod sefyllfaoedd yr Alban a Chymru yn rhy wahanol i allu gwneud cymhariaeth effeithiol. Yn wir, nid yw ceisio dod i gasgliadau o newidiadau treth mewn gwledydd eraill yn gweithio. Mae angen mwy o ymchwil sy'n benodol i Gymru yn y maes hwn ac mae hynny'n mynd i gymryd amser i ddatblygu. Ond mae'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon heddiw yn dangos pa mor bell rydym wedi dod a pha mor bell y mae'r system dreth yma eisoes wedi esblygu. Ac mae datganoli pwerau trethu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn rhoi nifer o gyfleoedd i'r Senedd hon ddefnyddio'r system honno i annog entrepreneuriaeth, tyfu'r sylfaen drethi ac ysgogi'r economi. Yn achos gostwng trethi, yn y pen draw gallai hynny gynhyrchu mwy o refeniw treth a dylid edrych arno'n ofalus.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r pandemig yn amlwg yn gwneud newidiadau mawr yn anodd ar hyn o bryd, ond mae polisi treth yn allweddol ac fe fydd yn parhau i fod yn allweddol wrth inni adeiladu'n ôl yn well y tu hwnt i'r pandemig. O'm rhan i, rwy'n credu bod angen inni gadw trethi yng Nghymru mor isel â phosibl ac rwy'n gobeithio bod hwn yn adroddiad a fydd yn cyfrannu at gorff cynyddol o waith fel bod gennym fwy o ddata sy'n benodol i Gymru ac inni allu gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen arnom yng Nghymru i dyfu'r economi a chadw'r sylfaen drethi yma'n effeithlon ac yn effeithiol.