Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 23 Medi 2020.
Mae'n ddrwg gennyf, cefais drafferth i agor y meic. Bydd llawer o'r hyn a ddywedaf yn awr yn adleisio'r hyn y mae Gweinidog yr wrthblaid Geidwadol dros addysg eisoes wedi'i ddweud, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaeth.
Mae'r pandemig coronafeirws wedi arwain at darfu'n eang ar gynifer o sectorau o'n heconomi yng Nghymru. Bydd rhywfaint o'r niwed economaidd sy'n cael ei achosi yn anadferadwy, ac i bawb mewn addysg lawnamser, bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma nawr yn bwrw cysgod hir. Un cyfle ar eu haddysg a gaiff y bobl ifanc sy'n ceisio am gymwysterau ar hyn o bryd, ac mae'r effaith ar eu hastudiaethau eisoes wedi achosi cryn ofid.
Roedd myfyrwyr a oedd yn mynd i brifysgolion a cholegau y mis hwn yn wynebu'r gofid o weld ysgolion yn cau ychydig wythnosau'n unig cyn iddynt sefyll eu harholiadau Safon Uwch, pan fydd llawer ohonynt bron â bod wedi cwblhau pum tymor o astudio. Ar ôl dioddef cythrwfl emosiynol y ffiasgo canlyniadau yn gynharach y mis hwn, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau newydd wrth i lawer ohonynt ddechrau ar eu haddysg bellach neu addysg uwch. Mae pobl ifanc wedi colli cyfle i ymgymryd â chynifer o ddefodau newid byd, ac mae angen i bob un ohonom wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn colli cyn lleied ag sy'n bosibl o gyfleoedd o'r fath. Un o'r profiadau gorau o fynd i'r brifysgol yw dysgu byw'n annibynnol a gwneud ffrindiau newydd, ac eto bydd y cyfyngiadau ar ryngweithio cymdeithasol yn cyfyngu ar y cyfleoedd hyn.
Fel y mae pwynt 5 ein cynnig yn dweud yn glir, ni argymhellwyd gostyngiad yn y ffioedd dysgu eleni, er na fydd llawer o fyfyrwyr yn gosod troed mewn ystafell ddosbarth neu ddarlithfa hyd yn oed. Wrth gwrs, ceir ffyrdd o fanteisio ar dechnoleg newydd a defnyddio cyfarfodydd rhithwir fel ffordd o ategu dysgu, ond ni ddylai gymryd lle dysgu wyneb yn wyneb yn llwyr. Dylai myfyrwyr ddisgwyl rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb, ond mae'n amlwg mai mater i brifysgolion a cholegau, gyda chanllawiau cadarn gan Lywodraeth Cymru, yw pennu'r ffyrdd mwyaf diogel o weithredu. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod dysgu'n barhaus a bod cynlluniau trwyadl ar waith i sicrhau parhad cyrsiau, hyd yn oed os bydd rheoliadau COVID yn mynd yn llymach, ac yn y senario waethaf, ein bod yn wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau symud.
Rydym i gyd yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae colegau a phrifysgolion addysg bellach yn ei chwarae yn uwchsgilio ein gweithlu i ateb yr her anferthol o ailadeiladu economi Cymru mewn byd ôl-COVID, ac mae angen i bob un ohonom gydnabod y bydd Cymru ôl-COVID yn edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn i'r hyn ydoedd o'r blaen. Mae'r cynnydd mewn rhyngweithio cymdeithasol ar-lein bron yn sicr yma i aros, ac mae hynny ynddo'i hun yn creu heriau o ran sicrhau bod gennym weithlu sydd â'r sgiliau i ateb y galw. Cydnabu bron i hanner y cyflogwyr a arolygwyd gan y Brifysgol Agored y byddai mentrau prentisiaeth a dysgu seiliedig ar waith yn hanfodol i adferiad eu sefydliad ar ôl y coronafeirws dros y flwyddyn nesaf. Mae'n hanfodol, felly, fod cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg ein myfyrwyr.
Bydd pwynt 6 ein cynnig yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i fyfyrwyr fod yn hyderus fod yr hyn y maent yn talu amdano mewn ffioedd yn deg am yr hyn y maent yn ei gael mewn gwirionedd. Yn hollbwysig, mae angen mesurau cyflym arnom i fynd i'r afael ag allgáu digidol a sicrhau bod gan bob dysgwr ffordd o gael mynediad at bob agwedd ar eu cwrs. Mae ColegauCymru wedi nodi bod diffygion sylweddol o hyd yn y ddarpariaeth o offer, meddalwedd a chysylltedd TGCh, ac o ran y risg o gynyddu'r gagendor digidol, mae hynny'n rhywbeth y gwn ei fod yn amlwg iawn ac yn bryder i fy etholwyr yn Nwyrain De Cymru. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud, er gwaethaf yr ymdrechion gorau i gynnal dysgu, ei bod yn anochel y bydd tarfu ar rai o ganlyniadau hyfforddeiaethau, prentisiaethau a rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru. Dangosodd arolwg diweddar gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr fod mwy na chwarter y myfyrwyr prifysgol yn methu manteisio ar ddysgu ar-lein, ac roedd mwy na thraean o'r farn nad oedd y ddarpariaeth ar-lein yn safonol nac o ansawdd da. Mae'n rhywbeth y mae angen inni fod yn bryderus yn ei gylch.
Hoffwn glywed hefyd gan y Gweinidog am oblygiadau unrhyw newidiadau i'r maes llafur ar gyfer cyfnod allweddol 5, yn benodol mewn perthynas â gofynion mynediad ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, gan mai dyma'r adeg y bydd disgyblion blwyddyn 13 presennol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u camau nesaf. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn boen erchyll i gynifer o'n pobl ifanc, ac fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach heddiw, mae'n rhaid ei fod wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl llawer ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio mai canlyniad y ddadl heddiw yw y gallwn i gyd gytuno a chynnig ffyrdd o'i gwneud yn decach iddynt. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig.