Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i gydweithwyr am y cyfle i drafod ein sector addysg uwch a'n sector addysg bellach, ac rwy'n hynod falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â'r ddau sector yn ystod y cyfnod anodd hwn. A dyna pam, Ddirprwy Lywydd, rwy'n cyflwyno gwelliant y Llywodraeth, sy'n diolch, fel Senedd, i fyfyrwyr, colegau a phrifysgolion yng Nghymru am eu hymdrechion, eu gwydnwch, eu hyblygrwydd a'u dyfalbarhad wrth ymateb i'r heriau a grëir gan y pandemig hwn.
Fel ein hysgolion, ni chaeodd y colegau a'r prifysgolion yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Ers mis Mawrth, maent wedi parhau i ddarparu addysg, asesu ac ymchwilio o bell. Ond maent hefyd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i gefnogi ein hymateb cenedlaethol i COVID-19, drwy raglenni hyfforddi newydd gyda byrddau iechyd lleol, darparu llety i weithwyr allweddol a darparu offer a chyfarpar diogelu personol hanfodol i'n hysbytai. A hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad, a oedd yn tynnu sylw at yr ymchwil a fu'n digwydd drwy gydol y cyfnod hwn i'n helpu ni fel cenedl ac yn wir, y Deyrnas Unedig i ddeall yn well beth yw effeithiau COVID-19 a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud i gefnogi ein gwlad wrth inni barhau i wynebu'r heriau hyn.
Rydym yn llwyr gydnabod yr aflonyddwch a achoswyd i ddysgu, yn enwedig mewn colegau addysg bellach, a dyna pam ein bod wedi darparu £11 miliwn ychwanegol i golegau i dalu costau ychwanegol cymorth addysgu i ddysgwyr a allai fod wedi colli dysgu yn gynharach yn y flwyddyn. Ac mae hynny wedi'i gyplysu â £4 miliwn arall i ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion hefyd. A rhaid i mi ddweud wrth fy nghyd-Aelodau Ceidwadol fod arian dal i fyny yn Lloegr wedi hepgor y sector addysg bellach yn fwriadol, ac nid ydym wedi gwneud hynny yma yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi dyrannu £5 miliwn arall i gynorthwyo dysgwyr galwedigaethol i ddychwelyd i'r coleg i'w helpu i ennill eu trwydded i ymarfer cymwysterau, a £3.2 miliwn arall ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn colegau ac addysg i oedolion i ddarparu offer digidol i hwyluso dysgu ar-lein. Ac mae'n rhaid i mi ddweud eu bod, yn ystod y pandemig, yn fy nghyfarfodydd niferus gydag is-gangellorion, yn siarad yn ganmoliaethus iawn am eu gallu i ymgysylltu â dysgwyr ar-lein, ac roeddent yn dweud wrthyf ad nauseam eu bod yn falch iawn o'r ffaith eu bod yn gallu cyflwyno gweithgareddau ar-lein i gynifer o'u dysgwyr, ac ymgysylltu â hwy drwy'r gweithgareddau hynny. A dyna oedd penaethiaid colegau yn ei ddweud pan oedd y pandemig ar ei anterth.
Ac mewn addysg uwch, bydd rhan o'n cyllid ychwanegol yn mynd tuag at fuddsoddi mewn technolegau dysgu a chyfleusterau dysgu cyfunol i helpu prifysgolion i gynnal profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Nawr, rwy'n deall y bydd gan rai myfyrwyr bryderon am allu eu prifysgol a'u coleg i sicrhau parhad addysg deg a chyfoethog o ansawdd uchel o ganlyniad i'r aflonyddwch a ddaeth i'w rhan, ac sy'n debygol o ddod i'w rhan, o ganlyniad i'r pandemig hwn. Yn y colegau roeddem eisoes ar y ffordd tuag at weledigaeth ar gyfer dysgu ôl-16 a oedd yn cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb a gweithgareddau digidol ymhell cyn COVID-19. Rwyf am i hyn gyflymu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan adeiladu ar yr enghreifftiau niferus o addysgu cyffrous ac arloesol a welsom yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Mae ein prifysgolion wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu arloesol a chefnogol y tymor hwn, drwy gymysgedd o ddarpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ac rwy'n hyderus iawn, hyd yn oed os nad yw rhai pobl yn y Siambr hon, y gallant gyflawni'r ymrwymiad hwn. O ystyried bod arolygon cenedlaethol o fyfyrwyr wedi dangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad myfyrwyr, dangosodd arolygon yn ystod y pandemig yn wir fod myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn teimlo bod eu prifysgol wedi'u cefnogi'n well yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud na myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ac a gaf fi ddweud yn glir wrth Laura Anne y bydd pob prifysgol yng Nghymru, pob un ohonynt, yn darparu dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn?
Nawr, yn unol â Llywodraethau eraill, byddem yn cynghori myfyrwyr addysg uwch, a allai deimlo nad yw eu darpariaeth wedi bod o ansawdd digon da yn ystod y cyfnod hwn, i ystyried prosesau unioni eu sefydliadau eu hunain, a phrosesau Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch. Ac mae gennyf i a fy swyddogion berthynas waith agos â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol i fonitro nifer a natur y cwynion a ddaw gan fyfyrwyr yng Nghymru.