12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Uwch

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:55, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn atgoffa'r Aelodau Ceidwadol hefyd fod eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU a Phwyllgor Deisebau San Steffan wedi gwrthod galwadau am ostyngiad cyffredinol yn y ffioedd dysgu o ganlyniad i'r pandemig. Y gwir amdani yw na fyddai gostyngiad cyffredinol yn y ffioedd neu ganslo dyledion ond yn gwneud niwed—yn niweidio—ansawdd addysg a'r gwasanaethau y gall ein prifysgolion eu darparu i fyfyrwyr, oni bai, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU yn fodlon darparu'r cyllid angenrheidiol i wrthbwyso unrhyw ostyngiad yn y ffioedd, ac ni welaf hynny'n digwydd yn fuan.

At hynny, gwyddom fod toriadau i ffioedd neu ddileu dyledion ohonynt eu hunain o fudd yn bennaf i'r myfyrwyr cyfoethocaf a'r graddedigion sy'n ennill y cyflogau mwyaf. Nid yw'n gwneud dim i roi arian ym mhocedi myfyrwyr yn awr, yn wahanol i'n pecynnau newydd diwygiedig i fyfyrwyr, sy'n darparu cyllid grant yn syth i bocedi myfyrwyr i'w cynorthwyo gyda chostau byw.

Rhaid i mi ddweud, er gwaethaf yr holl ansicrwydd, rydym yn gweld y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn elwa o'r cymorth hwn, gyda'r myfyriwr cyffredin o Gymru'n cael £7,000 y flwyddyn fel grant nad yw'n ad-daladwy. Ni fyddai'r un myfyrwyr yn cael ceiniog pe baent yn byw dros y ffin. Ar ben hynny, y bore yma clywais gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi dyrannu'r nifer uchaf erioed o ysgoloriaethau i fyfyrwyr Cymraeg i ganiatáu iddynt astudio eu haddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg—talwyd dros 300 o ysgoloriaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Helpu myfyrwyr i ymdopi â chaledi yn awr yw blaenoriaeth cynrychiolwyr myfyrwyr yng Nghymru yn ôl yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf. Gwyddom yn bendant fod rhai myfyrwyr wedi dioddef yn ariannol yn ystod y pandemig. Dyna pam ein bod wedi gofyn i CCAUC sicrhau bod rhywfaint o'r arian ychwanegol sydd ar gael i'r sector yn cynorthwyo sefydliadau i ddarparu cyllid caledi i fyfyrwyr, yn seiliedig ar ble y gwelwn angen clir am gyllid o'r fath. 

Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru ein bod yn ddiweddar, mewn cyfnod o anhawster ariannol mawr i lawer, wedi gweithredu'r pecyn cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr mwyaf hael yn Ewrop, pecyn a fydd yn cynorthwyo oedolion, myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedigion yn arbennig i gamu ymlaen i addysg uwch i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn amgylchedd sy'n heriol o ran y farchnad lafur. A hynny cyn inni sôn am ymestyn y cyfrifon dysgu unigol y byddwn yn awr yn eu cyflwyno ledled Cymru gyfan, gan ganiatáu i bobl yr effeithiwyd ar eu rhagolygon swyddi—neu eu hincwm yn wir—gan COVID-19 ymgymryd â dysgu ychwanegol.

Er mor wahanol ac anarferol y gallai profiad myfyrwyr fod eleni, caf fy nghalonogi gan y ffaith bod cyfraddau mynediad at addysg uwch yn 18 oed yn uwch na 30 y cant am y tro cyntaf erioed ymhlith ymgeiswyr o Gymru. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd o 2 y cant yn nifer y myfyrwyr a welwyd yn cael eu lleoli drwy UCAS mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae honno'n bleidlais o hyder go iawn yn ansawdd addysg uwch yng Nghymru. A ninnau'n gweld gostyngiad o hyd yn nemograffeg pobl ifanc 18 oed, rydym yn dal i fod wedi gallu cynyddu nifer y bobl sydd wedi dewis dod i astudio yma yng Nghymru.

Bydd y niferoedd calonogol hyn yn helpu ein sector i wella ei sefyllfa ariannol, a gaiff ei gryfhau ymhellach gan y gronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch gwerth £27 miliwn a dalwyd gennym yn ddiweddar i CCAUC. Efallai nad yw Plaid Cymru yn ei chroesawu, ond gallaf eich sicrhau bod CCAUC, y sefydliadau a'r is-gangellorion yn bendant yn ei chroesawu. Rwy'n disgwyl i'r cyllid hwn gynnal capasiti addysgu ac ymchwil hanfodol lle gwelwn ddirywiad dros dro yn y refeniw, ac i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac addysg a fydd yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd ehangach.

Mae'r arian ychwanegol hwn yn golygu bod cyfanswm cyllid CCAUC eleni yn £203 miliwn. Mae hwnnw'n gynnydd o'r £117.5 miliwn a gâi pan ddeuthum yn Weinidog addysg am y tro cyntaf. Soniodd Suzy Davies am symiau canlyniadol gan Lywodraeth San Steffan mewn perthynas ag addysg uwch. Gadewch i mi ddweud wrth Suzy: mae'r arian a ryddhawyd i sefydliadau yn Lloegr wedi bod ar sail benthyciadau. Rydym yn rhoi arian sychion i'n prifysgolion, ac nid ydym yn disgwyl iddynt ei ad-dalu, sydd unwaith eto'n wahanol iawn i'r ymagwedd a welir dros y ffin.

Wrth edrych i'r dyfodol, gwyddom y bydd y tymor nesaf yn her i brifysgolion a cholegau. Rydym wedi cydgynhyrchu canllawiau gyda'r sector fel y gallant weithredu'n ddiogel. Mae colegau wedi rhoi gwybod inni am nifer fach o achosion o'r clefyd ymhlith staff a myfyrwyr sydd wedi digwydd y tymor hwn eisoes, ond rwyf wedi bod yn gwbl hyderus eu bod wedi dilyn y protocolau ar gyfer profi, olrhain a diogelu er mwyn cadw'r achosion hyn dan reolaeth. Yr adborth a gefais gan golegau yw bod myfyrwyr yn gyffredinol yn cydymffurfio'n dda iawn â rheolau sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol, hylendid a gorchuddion wyneb. Mae llawer, os nad pob un, o'n sefydliadau wedi rhoi contractau cymdeithasol ar waith bellach neu wedi ychwanegu mesurau diogelwch COVID at gontractau cymdeithasol ac ymddygiadol sy'n bodoli'n barod i'w gwneud yn glir fod gan ein myfyrwyr rôl bersonol i'w chwarae yn helpu i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Ond yn amlwg, byddwn yn monitro'r sefyllfa mewn prifysgolion yn ofalus wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i gampysau yr wythnos hon. Mae'n bleser gennyf ddweud bod canolfan brofi yn cael ei hadeiladu ar dir Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd wrth i ni siarad, Ddirprwy Lywydd, i ddarparu cyfleusterau profi ychwanegol yn y sefydliad hwnnw a'r ardal honno. 

Rwy'n cloi drwy annog pawb sy'n ymwneud ag addysg uwch ac addysg bellach i aros yn ddiogel, i gadw pellter cymdeithasol, i olchi eich dwylo'n amlach, i wisgo gorchudd wyneb, i osgoi cymdeithasu dan do gyda phobl o'r tu allan i'ch aelwyd, ac i aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un arall ar yr un aelwyd â chi symptomau, ac os bydd gennych symptomau, gofynnwch am brawf. Ond fel y dywedodd rhywun, rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'n myfyrwyr, boed mewn ysgolion, colegau addysg bellach, neu'n dod i'n prifysgolion, ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Diolch yn fawr.