Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon ar effaith COVID ar addysg bellach ac addysg uwch a byddaf yn eu cefnogi heddiw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywydau pawb, ond neb yn fwy na'n pobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld oedi yn eu haddysg, eu datblygiad cymdeithasol yn cael ei lesteirio, ac sy'n wynebu un o'r marchnadoedd swyddi anoddaf ers cenedlaethau.
Er gwaethaf y trafferthion a wynebir gan lawer iawn o bobl ifanc yn sgil y ffiasgo TGAU a Safon Uwch dros yr haf, yr wythnos hon byddant yn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol. Bydd ffeiriau'r glas ledled y wlad yn wahanol iawn i ddigwyddiadau'r gorffennol. Nid ymwneud â chyflawniad academaidd yn unig y mae prifysgolion, mae hefyd yn dysgu pobl ifanc, gan roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddynt a helpu gyda'u datblygiad cymdeithasol. Bydd cyfyngiadau a gynlluniwyd i atal COVID-19 rhag lledaenu yn golygu y bydd myfyrwyr yn cael semester gwahanol iawn. Dim digwyddiadau cymdeithasol, dim digwyddiadau diwylliannol a dim digwyddiadau chwaraeon. Nid yw'r dosbarthiadau'n ddiogel hyd yn oed, gyda llawer yn mynd ar-lein. Mae'r holl newidiadau hyn, er bod eu hangen, wedi golygu bod myfyrwyr heddiw ar eu colled.
Rhaid i fyfyrwyr dalu'r un ffioedd dysgu am brofiad llai, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi unrhyw un o'r gwelliannau. Er fy mod yn cydymdeimlo â'r prifysgolion, y myfyrwyr sy'n dioddef fwyaf. Fy mhryder mwyaf yw'r effaith ar iechyd meddwl myfyrwyr. Mae rheolau'n golygu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr aros o fewn eu grwpiau llety, aros gyda phobl nad ydynt yn rhannu eu diddordebau o bosibl—diddordebau academaidd neu fel arall. Gallai hyn arwain at nifer fawr o fyfyrwyr yn teimlo'n ynysig ac yn unig ac yn enwedig myfyrwyr tramor. Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r sefydliadau addysg uwch roi mwy o bwyslais ar ofal bugeiliol i bob myfyriwr, nid yn unig y rhai yr ystyrir eu bod yn agored i niwed. Bydd myfyrwyr yn gweld y flwyddyn academaidd hon yn un o'r rhai anoddaf erioed. Mae popeth yn cael ei wneud i sicrhau nad yw myfyrwyr yn dioddef yn academaidd, ond nid oes digon yn cael ei wneud i sicrhau a diogelu eu lles meddyliol.
Creodd y cyfyngiadau symud argyfwng iechyd meddwl yn y gymuned ehangach, a bellach mae mesurau i atal lledaeniad COVID ar draws campysau prifysgolion yn bygwth argyfwng iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr. Rhaid i awdurdodau prifysgolion sicrhau archwiliadau meddyliol a chorfforol wythnosol ar gyfer pob myfyriwr. Rhaid iddynt wneud popeth yn eu gallu hefyd i hwyluso ac annog amrywiaeth ehangach o ddigwyddiadau cymdeithasol rhithwir. Bydd y flwyddyn academaidd hon yn anodd iawn i bob myfyriwr, a mater i'r Llywodraeth a'r awdurdodau prifysgol yw sicrhau bod pob myfyriwr wedi'u paratoi i ymateb i'r heriau hynny. Ein dyletswydd i'n pobl ifanc yw rhoi pob cam posibl ar waith i wneud y flwyddyn academaidd hon mor ddi-boen â phosibl, ac rwy'n dymuno lwc dda iawn a fy nymuniadau gorau i bob un ohonynt. Diolch yn fawr.