13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:35, 23 Medi 2020

Rydyn ni wedi dod â chynnig manwl a chynhwysfawr gerbron y Senedd heddiw, a'r bwriad ydy symud y drafodaeth oddi wrth y broblem ac at yr atebion a'r angen i weithredu, a hynny ar frys, mewn cyfnod lle mae arwyddion clir mai dwysáu y mae'r broblem. Rydyn ni'n gwybod bod pobl leol yn cael eu cau allan o'r farchnad dai mewn cymunedau ar draws Cymru, a bod hynny ar gynnydd. Mae dros 6,000 o ail gartrefi yn y sir lle dwi yn byw, yng Ngwynedd—12 y cant o'r stoc tai, un o'r canrannau gwaethaf yn Ewrop gyfan. Ac mae'r cyfnod COVID wedi dod â'r tensiynau y mae sefyllfa felly yn eu creu i'r wyneb unwaith eto. Yn y pen draw, mae angen newidiadau mawr, strwythurol i'r economi, i bolisïau ariannol, i bolisïau tai, er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa go iawn. Does yna ddim arwydd cliriach o ba mor anghyfartal ydy bywyd yn y gwledydd hyn. Mae yna rywbeth mawr o'i le lle mae cynifer o fy etholwyr i yn ennill cyflogau bychain ac yn byw mewn tai anaddas, tamp, rhy fach, heb le y tu allan, tra bod yna nifer cynyddol o dai moethus yn wag am gyfnodau hir o'r flwyddyn am fod y perchnogion, mwy cefnog, yn eu prif gartrefi mewn rhan arall, mwy goludog, o'r wladwriaeth Brydeinig anghyfartal.

Oes, mae angen newidiadau mawr, a phrysured y dydd pan fydd Senedd Cymru yn rhydd i roi'r newidiadau strwythurol yma ar waith mewn gwlad annibynnol. Yn y cyfamser, mae yna nifer o fesurau yn bosib, ac o fewn rheolaeth y Llywodraeth. Ac yn ein cynnig ni, rydyn ni'n cyflwyno pecyn o fesurau a allai wneud gwahaniaeth yn y maes cynllunio, cyllid, a thrwyddedu. Yr hyn sydd ei angen ydy'r ewyllys gwleidyddol i weithredu, a hynny ar frys. Ac mi roeddwn i'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud bod angen deddfu i leihau problemau ail gartrefi. Mae Plaid Cymru yn barod iawn i gydweithio efo'i Lywodraeth o er mwyn pasio deddfwriaeth frys, yn ystod y misoedd nesaf. Mae hon yn broblem sydd angen mynd i'r afael â hi yn syth, nid i'w gadael yn fater i'w gynnwys mewn maniffesto at etholiad mis Mai y flwyddyn nesaf. Mi fyddai cymryd camau pendant rŵan, cychwyn ar y gwaith o greu newid, yn arwydd clir a diamwys i gymunedau sydd dan bwysau aruthrol bod Llywodraeth a Senedd ein gwlad yn cymryd y mater o ddifrif, ac yn credu bod angen gweithredu ar frys.

Dydy hon ddim yn broblem sy'n unigryw i Gymru, wrth gwrs, ac mae yna wledydd ar draws y byd yn wynebu heriau tebyg. Ac yn yr adroddiad rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw yma, rydyn ni yn cynnwys mesurau sydd yn cael eu gweithredu yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd, ac yn agosach at adref, efo Northumberland, er enghraifft, yn ystyried newidiadau i'w polisi cynllunio a fyddai'n gwahardd gwerthiant eiddo i bobl o'r tu allan mewn ardaloedd lle mae gormod o ail gartrefi. Mae angen gweithredu a symud y drafodaeth ymlaen o'r broblem i'r hyn sydd angen ei wneud i'w datrys. Mi fyddwn i yn annog pawb sydd yn gwylio'r ddadl hon i ddarllen adroddiad Plaid Cymru, ac mi fyddwn ni yn falch iawn i gael eich ymateb chi, eich sylwadau chi, a syniadau pellach, ymarferol am sut i ddatrys yr argyfwng yma sy'n wynebu nifer cynyddol o'n cymunedau ni.