– Senedd Cymru am 7:27 pm ar 23 Medi 2020.
Rwy'n ymddiheuro, Mark Isherwood. Rhaid eich bod yn meddwl beth oedd yn digwydd. Fy nghamgymeriad i. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i gyflwyno'r ddadl fer. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. rwy'n siarad heddiw fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol. Ceir dros 250 o gyflyrau niwrolegol cydnabyddedig. Yng Nghymru, mae tua 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau.
O 2011 ymlaen, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o gynlluniau cyflawni ym maes iechyd. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn 2014. Yn 2019, mynegodd pobl â chyflyrau niwrolegol, clinigwyr ac elusennau bryderon nad oedd y cynllun cyflawni, a ddiwygiwyd yn 2017, wedi arwain eto at newid ar y raddfa y dylid ei ddisgwyl. Roeddent yn cwestiynu a oedd gweithredu'r cynllun wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau bod triniaeth a gofal yn diwallu anghenion pawb sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru i raddau digonol. O ganlyniad, aeth y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol ati i gynnal ymchwiliad byr. Ei ddiben oedd casglu tystiolaeth a chyflwyno argymhellion ar gyfer gweithredu i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella'r broses o weithredu'r cynllun presennol a darparu dull strategol hirdymor o godi safonau triniaeth a gwasanaethau a chymorth i bobl â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru.
Roedd llawer o'r sefydliadau a'r unigolion a gyflwynodd dystiolaeth i'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar gyfleoedd, pryderon a heriau sy'n gysylltiedig â'r ffordd y mae'r cynllun wedi cael ei weithredu. Teimlai rhai ei bod yn debygol iawn y bydd y canlyniadau a'r mesurau perfformiad ym mhob pennod o'r cynllun cyflawni wedi'u cyflawni erbyn 2020.
Mae rôl y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol wedi'i diffinio'n glir o fewn y cynllun cyflawni. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y cynllun cyflawni gyntaf, ychydig iawn o gydgysylltu, os o gwbl, a gafwyd ar draws gwasanaethau niwrolegol ar lefel Cymru gyfan. Roedd rhwydweithiau ar gyfer gwasanaethau canser, y galon a'r arennau wedi hen sefydlu erbyn hynny, ond nid oedd hynny'n wir am wasanaethau niwrolegol. O ganlyniad, roedd y dasg a wynebai'r grŵp gweithredu'n gymhleth ac yn anodd.
Roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar wella gwaith i godi ymwybyddiaeth o dan y cynllun cyflawni'n ymwneud â gweithgarwch yn hytrach na chanlyniadau neu effeithiau. Croesawyd gweithgarwch cydgynhyrchu rhwng y grŵp gweithredu, sefydliadau trydydd sector ac unigolion â chyflyrau niwrolegol. Yn fwyaf arbennig, cyfeiriodd cyfranwyr at y cydweithio rhwng y grŵp gweithredu a Chynghrair Niwrolegol Cymru ar greu mesur profiadau a adroddwyd gan gleifion, neu PREM, fel cam cadarnhaol. Cyfeiriodd y grŵp gweithredu at weithgarwch addysgol arwahanol fel elfen gadarnhaol. Fodd bynnag, fel y dywed yr adroddiad:
'Cwestiynodd cyfranwyr i ba raddau yr oedd y cynllun wedi galluogi
cydgynhyrchu a chyfranogi go iawn gyda phobl â chyflyrau niwrolegol a
gofalwyr. Gwnaethant fynegi siom o ran y diffyg cynnydd gweladwy wrth sefydlu Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth Cyflyrau Niwrolegol ym mhob bwrdd iechyd lleol. Dywedodd un sefydliad trydydd sector wrth yr ymchwiliad hwn nad yw Fforymau Defnyddwyr Gwasanaethau Niwrolegol wedi'u sefydlu ledled Cymru yn ôl bwriad y cynllun. Dywedodd nad yw'n amlwg a yw Byrddau Iechyd neu’r Grŵp Gweithredu wedi tynnu ar adborth o fforymau defnyddwyr gwasanaeth.'
Er bod yr adroddiad yn nodi hyn:
'Ystyriwyd bod cyfranogiad y trydydd sector yn NCIG yn gadarnhaol', mae hefyd yn nodi
'bod cyfranogiad y trydydd sector yn gyffredinol yn dameidiog, yn anghyson ac nad yw wedi’i ddosbarthu’n deg ledled Cymru, neu yn ôl cyflwr'
Llwyddiant mwyaf y cynllun cyflawni yw ei fod wedi creu ffocws ar anghenion pobl â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru. Mae wedi tynnu sylw at y ffactorau sydd wedi bod ar goll o ran darparu gwasanaethau'n strategol ar gyfer cyflyrau niwrolegol, er enghraifft rhwydweithiau fel y rhai sy'n bodoli ar gyfer canser, y galon a chyflyrau eraill. At hynny, mae wedi rhoi cyfle a strwythur i unigolion a sefydliadau trydydd sector rannu eu pryderon a'u profiadau gwael. O ganlyniad, mae wedi caniatáu i'r rhai sy'n ymwneud â gweithredu ddechrau cymryd camau i fynd i'r afael ag angen nas diwallwyd ac i ddod o hyd i atebion i heriau.
Croesawir y penodiad i rôl arweiniol glinigol ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Mae'r arweinydd clinigol wedi dechrau diffinio meysydd ymyrraeth sy'n ofynnol a nodi llwybrau clinigol sy'n sail i wasanaethau ac egwyddorion clinigol. Fodd bynnag, gwnaed y penodiad yn gymharol hwyr yn y broses weithredu a dim ond un diwrnod yr wythnos o gyllid a glustnodwyd ar ei gyfer.
Mae'r grŵp gweithredu wedi gweithio'n galed i sefydlu llinell sylfaen ac mae'n dechrau hyrwyddo arferion da a threfnu gweithgarwch gwella pragmatig. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod y grŵp yn parhau i fodoli ac yn cael ei ymgorffori'n fwy parhaol er mwyn darparu dull rhwydwaith gwell o hyrwyddo gwelliant ac effeithlonrwydd parhaus ledled Cymru. Ceir cymaint o heriau sydd angen eu datrys. Mae'n amlwg y dylid parhau â'r ffocws hwn.
Ymhlith yr heriau eraill mewn perthynas â gweithredu'r cynllun cyflawni, mae cynnal gwaith y grŵp gweithredu, gan y byddai'n niweidiol iawn colli'r ffocws ar welliannau i wasanaethau a dull wedi'i rwydweithio ar ôl eu cyflwyno; swyddi a ariennir ar gyfer arweinydd clinigol a chydgysylltydd, gan bwysleisio difrifoldeb y bwriad i'r cynllun cyflawni sicrhau newid gwirioneddol; atebolrwydd am gyflawni—mae'r grŵp gweithredu'n monitro cynnydd y cynllun cyflawni, ond nid oes ganddo fandad i ddwyn byrddau iechyd lleol i gyfrif am elfennau allweddol o weithredu, megis strategaeth datblygu'r gweithlu; os nad rôl y grŵp gweithredu yw hyn yn wir, gellid awgrymu y dylai'r atebolrwydd hwn gael ei ddarparu drwy ddull arall er mwyn ysgogi newid effeithiol i wasanaethau.
Mae angen gwella cyfathrebu ynghylch cyflawni i randdeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. Mae sefydlu llwyfan cyfathrebu cenedlaethol yn hollbwysig, i raeadru gwybodaeth i'r bobl sydd ar lawr gwlad. Cesglir a dadansoddir data rheoli allweddol ar gyfraddau aildderbyn, amseroedd aros, hyd arhosiad yn yr ysbyty ac yn y blaen ar lefel byrddau iechyd lleol, ond ni ddarparwyd data Cymru gyfan o'r math hwn fel tystiolaeth i'r ymchwiliad. Mae diffyg data rheoli sy'n gysylltiedig â dangosyddion canlyniadau'r cynllun a darparu diagnosis, triniaeth, gwasanaethau a chymorth i bobl â chyflyrau niwrolegol yn broblem sylweddol. Mae'n amhosibl olrhain gwelliannau dros amser heb fecanwaith ag adnoddau priodol i gasglu a chyhoeddi'r math hwn o ddata.
Mae dileu'r gofyniad i fyrddau iechyd unigol gyhoeddi cynlluniau cyflawni niwrolegol blynyddol ac adroddiadau blynyddol wedi golygu ei bod yn anos ystyried cynnydd yn gyson ar lefel gyffredinol neu ar lefel byrddau iechyd unigol. Nid yw cynlluniau tymor canolig integredig byrddau iechyd lleol wedi llwyddo'n effeithiol i sbarduno newid mewn perthynas â blaenoriaethau'r cynllun cyflawni. Yn aml, nid oes ganddynt adrannau niwrolegol benodol a gellir gwasgaru unrhyw gyfeiriadau at wasanaeth niwrolegol o dan wahanol adrannau'r cynlluniau tymor canolig integredig. Nid yw cleifion a gofalwyr wedi cael cyfle go iawn i gymryd rhan yn y broses o wella gwasanaethau. Mae cyfyngiadau ariannol wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau niwrolegol, mynediad at driniaeth, gwasanaethau a chymorth. Mae hyn wedi cynyddu amser teithio a chostau i unigolion â chyflyrau niwrolegol, sy'n cael effaith gorfforol, emosiynol ac ariannol negyddol iawn ar bobl, a gall olygu na fyddant yn cael y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt.
Mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion ac ymrwymo i weithredu'r camau angenrheidiol a nodwyd yn yr adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi diwedd ar danariannu cronig ym maes gwasanaethau niwrolegol o fewn y buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru, a chreu strategaeth a chynllun gweithredu newydd ar gyflyrau niwrolegol, gyda chanlyniadau cliriach a strwythur atebolrwydd cryfach.
Oherwydd y llinell sylfaen isel, hyd yma nid yw'r grŵp gweithredu wedi cyflawni unrhyw beth yn debyg i raddfa'r newid sydd ei angen i sicrhau bod pobl â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru yn cael mynediad diogel, amserol a theg at driniaeth, gwasanaethau a chymorth.
Er bod y dull presennol o weithredu wedi dechrau arwain at ganlyniadau cadarnhaol, ni fydd yn bosibl creu'r newid sylweddol sydd ei angen heb ymrwymiad strategol ehangach o bob rhan o GIG Cymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar lefel uwch. Rhaid cynnal y gwelliant i wasanaethau a chymorth i bobl â chyflyrau niwrolegol os ydym am sicrhau newid go iawn i fywydau pobl. Mae hefyd yn amlwg fod yn rhaid i bobl â chyflyrau niwrolegol a gofalwyr fod yn bartneriaid yn y broses hon. Er bod y ffocws ar gynyddu'r gefnogaeth i adsefydlu yn y gymuned i'w groesawu, mae'r profiadau gwael yr adroddwyd yn eu cylch yn dangos bod angen ffocws cyson a buddsoddiad parhaus. Mae angen hyn ar frys o ystyried effaith niweidiol gwarchod neu hunanynysu yn sgil y pandemig coronafeirws ar lawer o bobl sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol.
Datgelodd arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru ar effaith y pandemig coronafeirws ei fod wedi effeithio'n sylweddol ar bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, a bod iddo oblygiadau mawr o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar eu cyfer. Er bod angen i bobl â chyflyrau niwrolegol barhau i allu manteisio ar wasanaethau arbenigol yn ystod yr argyfwng a thu hwnt er mwyn cynnal eu lles, mae ynysu a gwarchod wedi cynyddu gorbryder ac wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, gan ysgogi neu waethygu eu symptomau neu eu cyflwr. Nid yw gwasanaethau adsefydlu ac iechyd meddwl wedi addasu i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol. Mae gwasanaethau a thriniaeth wedi'u gohirio neu eu hatal yn ystod y pandemig. Rhaid i'r GIG yng Nghymru roi arweiniad cryf a nodi ei flaenoriaethau ar gyfer ailgychwyn gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol cyn gynted ag y bydd yn glinigol ddiogel iddo wneud hynny.
Mae ein hadroddiad wedi'i seilio'n gyfan gwbl ar y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar helaeth a gawsom gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys unigolion sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol a gofalwyr, elusennau sy'n cynrychioli pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol, clinigwyr arbenigol, y colegau brenhinol, Cynghrair Niwrolegol Cymru a'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol. Rydym yn cymeradwyo ein hadroddiad i Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at eu hymateb. Diolch.
Diolch. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno adroddiad y grŵp trawsbleidiol i'r Siambr. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud, ac mae amrywiaeth o bwyntiau dilys y byddwn yn cytuno â hwy ac rwy'n gobeithio y llwyddaf i'w crybwyll yn yr ymateb. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp trawsbleidiol ac i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu profiad proffesiynol a phersonol, yn ogystal ag arbenigedd pobl â chyflyrau niwrolegol, gofalwyr, y colegau brenhinol, y GIG a'r trydydd sector. Bydd yr adroddiad a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol, a fydd yn cyfarfod ar 7 Hydref. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gydag ymateb Llywodraeth Cymru a'r grŵp gweithredu ar y cyd i'r adroddiad.
Rwy'n credu'n gryf fod darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yn hanfodol, a bod angen cydbwyso hynny wrth gwrs â chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Fel gyda llawer o gyflyrau iechyd mawr eraill, cafodd rhai gwasanaethau eu hatal dros dro neu eu lleihau wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio ac wrth i gyfnod cyntaf y pandemig fynd rhagddo. Roedd yn ofynnol i fyrddau iechyd, fel rhan o'u cynlluniau chwarterol, ailgynllunio'r amgylchedd gofal er mwyn sicrhau bod y cleifion yr amheuid ac yr amheuir bod COVID arnynt yn cael eu cadw ar wahân i gleifion eraill. Lle cafodd gwasanaethau eu hatal neu eu lleihau, gofynnwyd i feddygon ymgynghorol fynd drwy eu rhestrau aros i raddio risg a blaenoriaethu pob claf. Pan oedd yn bosibl ailgyflwyno gwasanaethau perthnasol yn ddiogel, y nod a'r amcan yw mai'r rheini â'r angen mwyaf dybryd a welwyd yn gyntaf. Mae byrddau iechyd yn parhau i gynnal ymgynghoriadau rhithwir ac ymgynghoriadau dros y ffôn gyda chleifion, a lle bo hynny'n angenrheidiol ac er lles gorau'r claf, fe'u gwelir wyneb yn wyneb hefyd.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais gynllun diogelu'r gaeaf. Mae'r cynllun hwnnw'n nodi'r hyn sydd ei angen nesaf i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol diogel ac effeithiol a chefnogi cleifion a'n gweithlu dros y misoedd i ddod. Mae'n bwysig cydnabod y bydd heriau'r gaeaf hwn hyd yn oed yn fwy nag unrhyw aeaf arferol, o ystyried yr angen i ymateb i'r achosion o COVID a'r ail ymchwydd yn nifer yr achosion o'r feirws a welsom dros yr wythnosau diwethaf. Fel y cyfryw, rhaid ystyried yr argymhellion yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ochr yn ochr â'r pwysau sylweddol sy'n parhau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau y dylai unrhyw un sydd â chyflwr niwrolegol gael y gofal gorau posibl. Rwy'n falch fod adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn tynnu sylw at y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan y byrddau iechyd a'r grŵp gweithredu.
Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol, sy'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru, yn un y dewisais ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022, tra eir ati i ddatblygu grwpiau gweithredu a chynlluniau cyflawni llwyddiannus. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer cyfnod o fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a'r modelau gofal newydd a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig, gan ganiatáu hefyd ar gyfer alinio â datblygiad y fframwaith clinigol cenedlaethol a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd unrhyw ddull olynol yn ystyried argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fuddsoddi £1.2 miliwn bob blwyddyn i wella mynediad ar gyfer pob claf sydd angen gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithredu ein hymrwymiad i wella mynediad at therapïau seicolegol, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd i gefnogi'r maes hwn. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi ymhellach mewn therapïau seicolegol y flwyddyn nesaf, fel rhan o'n cynigion cyllidebol.
Bydd y grŵp gweithredu yn parhau i weithio'n agos gyda Michelle Price, ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol, ar ddatblygu blaenoriaethau'r grŵp. Byddwn yn gwneud hynny drwy ddull cydgynhyrchu, fel y dywedodd Mark Isherwood, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, datblygu gwasanaethau a datblygu llwybrau a modelau gofal clir, yn seiliedig ar arferion gorau a thystiolaeth ymchwil, a phrofiad byw wrth gwrs.
Ar hyn o bryd mae gan y grŵp gweithredu dri is-grŵp ar gyfer y meysydd a nodwyd: niwrolegol oedolion, pediatrig a ffitiau. Grŵp amlbroffesiynol yw'r grŵp ffitiau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu llwybr cleifion di-dor i Gymru gyfan ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Mae'r grŵp pediatrig hefyd yn amlbroffesiynol, ac mae'n edrych ar adsefydlu pediatrig yn benodol. Mae'r grŵp adsefydlu niwrolegol yn canolbwyntio ar hunanreoli, adsefydlu niwrolegol cymunedol, technoleg ac adsefydlu, ac adsefydlu cleifion mewnol. Bydd y grwpiau hyn yn cael eu hadolygu a'u hailffocysu wrth i flaenoriaethau newid a datblygu.
Fel y dywedais, mae llais y claf yn hanfodol os ydym am wella ansawdd ein gwasanaethau ar draws iechyd a gofal, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol. O'r cychwyn, maent bob amser wedi cynnwys cynrychiolaeth o blith defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r grŵp gweithredu hefyd wedi rhoi cyllid i Gynghrair Niwrolegol Cymru fel y gall eu rheolwr prosiect ddatblygu rhwydwaith o ddefnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru i lywio'r gwaith o godi ymwybyddiaeth ac ennyn cefnogaeth i welliannau i wasanaethau yn y dyfodol. Mae Cynghrair Niwrolegol Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyfeirio at wybodaeth ar gyfer pob cyflwr lle bo'n briodol. Rwy'n ddiolchgar i'r gynghrair, ac i sefydliadau gofal iechyd eraill yn y trydydd sector am ddarparu adborth rheolaidd gan gleifion ar wasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig.
I gloi, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd da yn gwella gwasanaethau niwrolegol yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy y dylem ei wneud ac sy'n rhaid inni ei wneud. Bydd argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn helpu i ddarparu ffocws ychwanegol, wrth inni barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn y maes gofal iechyd hwn. Diolch.
A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.