1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n drist nodi, Lywydd, ein bod unwaith eto, fodd bynnag, yn gweld pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty ac arnynt angen triniaeth ar gyfer effeithiau difrifol y coronafeirws, ac yn arbennig o drist, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld pobl yn marw o'r afiechyd hwn unwaith eto. Nawr yw'r amser i gymryd camau pellach ar y cyd i geisio atal y coronafeirws rhag ailgydio yn ein cymunedau lleol, ein trefi a'n dinasoedd.

Ddoe, trafodais gyfres o argymhellion ar gyfer camau cydlynol ledled y DU gyda Phrif Weinidogion yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU. Mae llawer o'r argymhellion a drafodwyd yno eisoes ar waith yng Nghymru. Rydym wedi dilyn trywydd gwahanol sy'n addas i'n hanghenion a'n hamgylchiadau ni. Rydym wedi bod yn fwy gofalus wrth lacio cyfyngiadau, rydym wedi llacio’r cyfyngiadau gam wrth gam ac rydym wedi parhau i ddarparu cyngor drwy gydol y pandemig—camau a chyngor y mae rhannau eraill o'r DU bellach yn eu mabwysiadu.

Mae pob un ohonom wedi gwneud cymaint yn barod, ond os ydym am barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r feirws hwn, mae angen i holl ddinasyddion Cymru barhau i ddilyn y trywydd hwnnw. Mae'n golygu gweithio gartref lle bo modd—neges sydd yr un mor berthnasol i gyflogwyr ag ydyw i weithwyr. Mae’n rhaid i bob un ohonom gadw at y rheolau ynglŷn â chyfarfod dan do. Os ydych yn byw mewn ardal sydd eisoes dan gyfyngiadau lleol, dim ond yn yr awyr agored y gallwch gyfarfod â phobl nad ydych yn byw gyda hwy am y tro. Mewn rhannau eraill o Gymru, gall hyd at chwech o bobl gyfarfod dan do, ar yr amod fod pob un ohonynt yn dod o un aelwyd estynedig, ac nid yw plant dan 11 oed yn cyfrif tuag at y chwech hwnnw yng Nghymru.

Mae bellach yn ofynnol inni wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau, ac mewn mannau cyhoeddus eraill dan do. Ac rwy’n gofyn i bobl yng Nghymru feddwl yn ofalus ynglŷn â ble rydym yn mynd a chyda phwy rydym yn cyfarfod, oherwydd po fwyaf o lefydd yr awn iddynt, a pho fwyaf o bobl y down i gysylltiad â hwy, y mwyaf yw'r perygl o ddal y coronafeirws a'i ledaenu i eraill.

Lywydd, er mwyn helpu i gryfhau ein hymateb i’r coronafeirws ac i atal argyfwng newydd yng Nghymru, rydym yn cyflwyno mesurau newydd i fod ar waith yn genedlaethol, gan gynnwys yn yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol. Er mwyn cynorthwyo pobl y gofynnir iddynt hunanynysu, byddwn yn darparu taliad o £500 i gefnogi pobl ar incwm isel, a byddwn yn newid y gyfraith yng Nghymru i atal cyflogwyr rhag ei ​​gwneud yn anodd i weithwyr hunanynysu pan fydd angen iddynt wneud hynny.

Ac ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, byddwn yn cyflwyno camau wedi'u targedu yn y sector lletygarwch. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch wedi gwneud newidiadau i'w hadeiladau ac wedi cyflwyno protocolau newydd i ddiogelu cwsmeriaid a staff. Ac rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl ymdrechion y maent wedi’u gwneud i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sydd gennym yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym wedi gweld rhai enghreifftiau prin o arferion gwael, ac rwy’n falch iawn o weld awdurdodau lleol yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo’r rheoliadau’n cael eu torri. Rydym yn gofyn i'r sector lletygarwch fynd ymhellach yn awr. O 6 p.m. yfory, bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru, gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos, roi'r gorau i werthu alcohol am 10 p.m. Bydd yn rhaid iddynt hefyd ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, roi'r gorau i werthu alcohol am 10 o'r gloch yr hwyr.

Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gyfarfod a gynhaliais ddoe gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol ledled de Cymru, ynghyd â'r GIG, yr heddlu, a’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Buom yn trafod y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith, eu heffaith ar awdurdodau cyfagos ac a ddylid ymestyn y cyfyngiadau lleol hynny i ardaloedd cynghorau lleol eraill. Cytunwyd fod angen inni allu gweithredu'n gyflym a rhoi camau ataliol ar waith lle bo modd, ond hefyd, fod yn rhaid i hyn fod yn gymesur â'r risg. Dim ond lle mae'n gymesur inni wneud hynny y dylem roi cyfyngiadau newydd ar fywydau a bywoliaeth pobl. Lywydd, cytunodd yr holl bartneriaid fod ein dull partneriaeth yng Nghymru yn hollbwysig wrth ymateb i'r feirws—addysgu, hysbysu ac yna gorfodaeth gadarn lle mae hynny'n angenrheidiol.

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anhygoel o anodd i gynifer o bobl yng Nghymru, ond rydym wedi llwyddo orau pan fyddwn wedi gweithredu gyda'n gilydd i ddiogelu ein teuluoedd ac i edrych ar ôl ar ein cymdogion. Nawr, mae angen i bob un ohonom wneud hynny gyda'n gilydd unwaith eto. Mae angen i bawb yng Nghymru gadw at y rheolau, gweithredu yn unol â'r canllawiau a chymryd y camau hynny i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i gadw Cymru’n ddiogel. Lywydd. diolch yn fawr.