Part of the debate – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn gresynu'n fawr nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y datganiad hwn ddoe cyn eich darllediad ar y teledu, fel y Prif Weinidogion eraill ledled y DU a siaradodd â'u Seneddau. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ymddiheuro am yr anghwrteisi hwnnw, gan i’r BBC gynnwys stori am 6 o’r gloch, er mai am 5.30 p.m. y cafodd yr Aelodau wybod, nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud unrhyw benderfyniad, a dywedwyd wrthym ychydig cyn 8 o’r gloch. Mae angen inni fynd yn ôl at weld democratiaeth seneddol yn gweithio yma, lle mae'r Senedd yn dadlau ac yn trafod y rheoliadau hyn ac yna'n pleidleisio arnynt, a chredaf fod angen i chi ymddiheuro heddiw, gan fod ddoe yn weithred warthus ar eich rhan, yn peidio â dod gerbron y Cynulliad a thrafod y peth mewn modd a fyddai’n addas i Senedd genedlaethol.
A gaf fi ofyn i chi hefyd am y llinell amser chwe mis y mae Prif Weinidog y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi sôn amdani? A yw'n llinell amser ar gyfer y cyfyngiadau hyn ac yn ffordd rydych chi ac arweinwyr eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cytuno â hi o edrych ymlaen at yr adeg pan allem weld rhywfaint o seibiant rhag y feirws, neu a oes gennych farn wahanol?
A gaf fi ofyn hefyd pam nad ydych wedi ailddechrau'r trefniadau gwarchod, o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws mewn rhai rhannau o Gymru, a pha fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu cartrefi gofal, o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws?
Hoffwn hefyd geisio deall y wyddoniaeth y tu ôl i'r terfyn amser o 10 o'r gloch ar gyfer gweini alcohol mewn adeilad trwyddedig yn hytrach na chau adeilad trwyddedig am 10 o'r gloch. Mae hyn, yn amlwg, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac nid oes unrhyw beth i atal rhywun rhag archebu rownd fawr o ddiodydd am ddwy funud i 10 ac aros mewn adeilad trwyddedig i yfed y diodydd hynny. Felly, hoffwn ddeall y wyddoniaeth a'r cyngor rydych wedi'i gael am y gwahaniaeth hwnnw yn y dehongliad o'r terfyn amser o 10 p.m. yma yng Nghymru.
Hefyd, a allech gadarnhau p'un a ofynnwyd am unrhyw bwerau neu reoliadau ychwanegol yn y cyfarfod amlasiantaethol a gadeiriwyd gennych ddoe ar gyfer y sefydliadau partner rydych yn gweithio gyda hwy o bob rhan o Gymru? Ac yn bwysig, a allech ailddatgan fod y GIG yn weithredol yma yng Nghymru, a’i bod yn hanfodol fod pobl, pan fydd angen iddynt geisio cymorth a chefnogaeth ychwanegol gan y GIG, yn rhyngweithio â'r gwasanaeth, ac yn y pen draw, y dylem fod yn newid i ysbytai nad ydynt yn canolbwyntio cymaint ar COVID fel y gall llawdriniaethau ddechrau ar raddfa fawr ac fel y gallwn ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r amseroedd aros erchyll sydd wedi cronni dros fisoedd yr haf? Yn gynharach yn yr wythnos, soniais fod dirywiad o 60 y cant wedi bod yn nifer y llawdriniaethau dros y chwe mis ers y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud cenedlaethol, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn dechrau mynd i'r afael â phryderon pobl ynglŷn â mynediad a gwasanaethau o fewn y GIG yng Nghymru.
A fy mhwynt olaf i chi, Brif Weinidog, wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion, colegau addysg bellach a chyfleusterau eraill ledled Cymru, mae'n hanfodol fod prifysgolion yn gwarchod ac yn diogelu iechyd meddwl myfyrwyr, gan y bydd llawer o bobl ifanc yn gadael cartref am y tro cyntaf yn yr hyn a fyddai fel arfer yn achos dathlu ac yn dipyn o antur, ond gyda llawer o'r rheoliadau, mae risg wirioneddol o unigedd ar y campws os na roddir cymorth ar waith. A byddwn yn falch o ddeall pa ymgysylltiad y mae'r sector yn ei gael â Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw myfyrwyr yn torri rhai o'r rheoliadau a roddir ar waith i'w diogelu hwy yn ogystal â’r cymunedau y mae prifysgolion wedi’u lleoli ynddynt. Diolch, Brif Weinidog.