Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn amlwg, mae rhyw elfen o arian y Llywodraeth wedi’i ddarparu ar gyfer chwaraeon a chwaraeon ar lawr gwlad, y £14 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ond gyda’r rheoliadau newydd sydd bellach ar waith a rhai gwleidyddion yn tybio y gallai’r rheoliadau hyn fod ar waith am beth amser, bydd hynny'n cyfyngu’n sylweddol ar glybiau, yn enwedig clybiau ar lawr gwlad, wrth iddynt geisio goroesi dros fisoedd y gaeaf, yn enwedig clybiau fel Clwb Pêl Droed Y Barri, er enghraifft, a Chlwb Rygbi Old Pens ym Mhenarth. Sut y mae'r Llywodraeth yn asesu’r ffordd y bydd y rheoliadau newydd a roddwyd ar waith yn effeithio ar allu clybiau ar lawr gwlad i weithredu ac i oroesi dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod?