Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 23 Medi 2020.
Yn amlwg, rydym yn parhau i asesu effaith y pandemig ar bob gweithgaredd, ac yn enwedig felly pan fo rhaid i ni ymateb fel Llywodraeth ar y cyd, gyda chefnogaeth y Cynulliad, i ymateb i'r sefyllfaoedd hynny. Y peth allweddol yw bod gennym ddarlun llawn a phriodol o anghenion pob sector, a byddwn yn annog clybiau unigol, ac yn amlwg, cyrff llywodraethu clybiau chwaraeon i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, fel y gallwn brosesu ac ystyried beth sydd ei angen gyda chymorth ein cynghorwyr yn y cyngor chwaraeon.