Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 23 Medi 2020.
Amcangyfrifir y byddai adfer y gamlas yn cynhyrchu gwariant blynyddol o tua £5 miliwn ac yn creu 128 o swyddi amser llawn. Credaf fod yr ymgyrch i adfer y 'Monty', fel y'i gelwir ac fel y cyfeirir ato, angen ysgogiad newydd, felly byddwn yn falch o glywed am unrhyw drafodaethau diweddar y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'u cael, gyda Llywodraeth y DU neu Gyngor Sir Powys efallai, mewn perthynas ag ymgorffori'r prosiect hwn mewn bargen dwf bosibl ar gyfer canolbarth Cymru. Sylweddolaf y gallai hynny fod ychydig y tu allan i'ch portffolio uniongyrchol, Ddirprwy Weinidog, ond a fyddech chi hefyd yn cytuno i sefydlu gweithgor prosiect i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o adfer y gamlas a manteisio ar nifer o ffynonellau ariannu?