Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 23 Medi 2020.
Ddirprwy Lywydd, ymddiheuriadau am yr oedi, nid oedd y cyrchwr yn caniatáu i mi agor y meic.
Weinidog, pan fyddant yn caniatáu i mi adael Pen-y-bont ar Ogwr ar ryw bwynt, pan fyddwn wedi llwyddo i drechu'r feirws hwn, rwy'n edrych ymlaen at wisgo fy sanau cerdded a mynd ar hyd Ffordd Cambria drwy ganolbarth Cymru. Mae'n drysor gwych ac wrth gwrs, y llynedd, ynghyd â'r Cerddwyr, lansiwyd Ffordd Cambria gyda Cicerone, y lluniwr llwybrau gwych sy'n cyhoeddi'r llwybrau gorau yn y byd. Ond a allech chi ddweud wrthyf, Weinidog, wrth annog mwy o bobl i diroedd gwyllt canolbarth Cymru, sy'n drysor mawr heb ei ddarganfod—mae hynny'n bendant yn wir—sut rydym hefyd yn sicrhau bod gan bobl barch at gefn gwlad ac nad ydynt yn gadael unrhyw olion? Rwy'n ddigon hen i gofio'r hen god cefn gwlad hefyd. Sut y mae gwneud yn siŵr ein bod yn addysgu cenhedlaeth newydd o bobl i fwynhau cefn gwlad ond i ofalu amdano hefyd?