Hyrwyddo Canolbarth Cymru Fel Cyrchfan i Dwristiaid

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:49, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hyn yn rhan allweddol o'r berthynas dwristiaeth, y berthynas rhwng ymwelwyr a'r rhai sy'n eu croesawu, ac mae'n amlwg fod yn rhaid i bobl yng nghefn gwlad fod yn gadarnhaol yn eu croeso a'u derbyniad i ymwelwyr, ond mae'n rhaid i ymwelwyr a cherddwyr yn arbennig ddeall natur cymunedau cefn gwlad, a'r gamddealltwriaeth sy'n digwydd yn aml iawn ynghylch y berthynas rhwng hawliau tramwy, hawliau caniataol a hawliau statudol—llwybrau troed ac yn y blaen. Felly, credaf mai'r peth pwysig yma yw sicrhau bod y negeseuon rydym yn eu hyrwyddo drwy Croeso Cymru a'r negeseuon rydym yn eu hyrwyddo drwy ein perthynas ag undebau amaethyddol a'r tirfeddianwyr yn negeseuon sy'n edrych am dwristiaeth gynaliadwy a gweithgareddau hamdden cefn gwlad cynaliadwy.