Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 23 Medi 2020.
Weinidog, gall ail gartrefi fod yn rhan bwysig o gynnal yr economi leol, ond mae cydbwysedd bregus iawn i'w daro, a chredaf fod rhan o'r ateb yn ymwneud ag adeiladu mwy—mwy o dai cymdeithasol, nad ydynt yn creu'r broblem hon, ond hefyd, mae'n agored i gynghorau, wrth ddatblygu tir, ei gyfamodi i farchnad leol. Ar gyfer adeiladau newydd, ymddengys i mi y gallai hynny fod yn ddatblygiad diddorol. Ni chredaf y gallwch ei wneud yn ôl-weithredol, gan fod yn rhaid i chi wynebu'r ffaith bod y cartrefi hyn yn aml yn cael eu gwerthu gan bobl leol, yn gwbl naturiol, i'r sawl sy'n rhoi'r cynnig uchaf, a dyna'n aml pryd y dônt yn ail gartrefi.