Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch, Neil. Mae sicrhau y gall pobl gael mynediad at gartrefi fforddiadwy yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol. Mae hwn yn fater cymhleth, ac mae ail gartrefi yn ffactor arwyddocaol ynddo. Rwyf eisoes wedi trafod hyn gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a byddaf yn parhau i flaenoriaethu'r mater hwn.