Statws y Gymraeg yng Ngwaith y Senedd

Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:07, 23 Medi 2020

Diolch, Siân Gwenllian, am y cwestiwn yna. Beth ddigwyddodd yn yr achos yma oedd bod y llys gweinyddol wedi atgyfnerthu'r egwyddor bod gan destun deddfau sy'n cael eu gwneud gan y Senedd yr un grym cyfreithiol yn Gymraeg ag yn Saesneg. Mae angen edrych ar y ddwy iaith, felly, er mwyn nodi gwir ddadansoddiad statud.

Yma yn y Senedd, mae gennym ni sail ddeddfwriaethol gref i'n statws ni fel deddfwrfa ddwyieithog. Mae adran 156 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi bod gan destun Cymraeg a Saesneg yr un statws mewn deddfwriaeth. Ymhellach, mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn datgan bod gennym ni ddwy iaith swyddogol yn y Senedd. Mae'r cynllun ieithoedd swyddogol yn amlinellu sut rydym ni'n trin y ddwy iaith ar y sail honno. Felly, mi ydym ni'n croesawu penderfyniad y llys gweinyddol i danlinellu a chadarnhau statws cydradd y Gymraeg o fewn y gyfundrefn ddeddfwriaethol.