Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 23 Medi 2020.
Diolch yn fawr. Ddoe, mi ges i gyfle i drafod y dyfarniad llys arwyddocaol yma efo'r Cwnsler Cyffredinol. Mae yna ddwy agwedd arwyddocaol iawn o ran y Gymraeg yn codi yn sgil y dyfarniad yma, ac un—yr un roeddwn yn ei thrafod ddoe—sydd i bob pwrpas yn creu hawl i gael addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol i'r cartref.
Dwi'n codi mater arall a oedd yn rhan o'r dyfarniad yna efo chi, sef y tro cyntaf i destun Cymraeg deddfwriaeth chwarae rhan amlwg mewn achos cyfreithiol, ac mae hynny'n berthnasol i ni. Mi oedd cyngor Rhondda Cynon Taf wedi diystyru fersiwn Gymraeg Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn llwyr, ac yn anghywir i wneud hynny yn ôl y barnwr. Mi oedd yna gwestiwn hefyd ynglŷn â gwahaniaeth ystyr rhwng y fersiwn Gymraeg a'r Saesneg yn y ddeddfwriaeth.
Felly, a ydych chi'n cytuno bod yna gwestiynau pwysig yn codi o'r dyfarniad sydd angen sylw dyledus gan y Comisiwn, gan aelodau'r Llywodraeth, a gan arbenigwyr allanol fel Comisiynydd y Gymraeg, a bod yna gwestiynau fath â sicrhau ansawdd ein prosesau deddfu dwyieithog, yr angen i uchafu statws y Gymraeg yng ngwaith y Senedd, a rôl y Senedd mewn gyrru datganoli cyfiawnder yn ei flaen er lles y Gymraeg? Felly, byddwn i'n gofyn i chi am ymrwymiad heddiw yma i sicrhau dadansoddiad manwl ynglŷn ag arwyddocâd y dyfarniad yma ac unrhyw newidiadau ddylai ddilyn yn sgil hynny.